Yr Awen Barod/Cadair Wag Dinbych
Gwedd
| ← Ôl y Pafiliwn | Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
Arwrgerdd → |
CADAIR WAG. (EISTEDDFOD DINBYCH).
MAE i'n gŵyl gwmni gwiwlan—a gwrol
O ragoraf amcan;
Ond daeth y beirdd glewfeirdd glân
Yn llu ofer i'r llwyfan.
Eleni bobol annwyl—oeraidd iawn
Yw'r farddonol Gylchwyl;
Y gadair wag wedi'r Ŵyl
A werthir dan y morthwyl.