Neidio i'r cynnwys

Yr Awen Barod/Clefyd y Sul

Oddi ar Wicidestun
Oes yr Operation Yr Awen Barod

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)


golygwyd gan John William Jones
Gwerin Cymru


CLEFYD Y SUL.

SALWCH Y Sul—awchus aeth—nid oerfel
Na darfodedigaeth;
Ni bydd i'r dyn cyndyn caeth
Na fedd gwyn, feddyginiaeth.

Clwy'r methu cysgu fel cynt,—a wna'r saint
Yn rhai swrth—rhad arnynt;
A dwed Nel na fydd helynt
Ned ei gŵr yn ddim ond gwynt.


Nodiadau

[golygu]