Neidio i'r cynnwys

Yr Awen Barod/Cysgu'n Hir

Oddi ar Wicidestun
Fy Nhrigfod Yr Awen Barod

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)


golygwyd gan John William Jones
Mewn Angen


CYSGU'N HIR.

CAS ydyw, anesgusodol—o gas
Yw trwm gwsg borëol;
Yr wyf yn hwyr ddifrifol,
Hanner awr union ar ôl!


Nodiadau

[golygu]