Neidio i'r cynnwys

Yr Awen Barod/Cystadlu

Oddi ar Wicidestun
Cydymdeimlad Yr Awen Barod

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)


golygwyd gan John William Jones
Maen Llog Rhydaman


CYSTADLU.
ER Cof am Mr. Arthur Ogwen Jones, West Kirby. Bu farw ryw fis cyn Eisteddfod Wrecsam, ac yntau yn fuddugol ar draethawd yno, a deg punt o wobr. Enillodd hefyd ar draethawd yn Eisteddfod Corwen ac yntau yn marw ddiwrnod cyn gwybod am ei lwyddiant.

Et fain fedd a llwyfan fu—am Ogwen
Megis yn cystadlu;
Ac er loes i lengar lu
Ei ddaearfedd a orfu.

Ei ddidranc ieuanc Awen—er hynny
Goronwyd yng Nghorwen;
Ac O! mawrhâi Gymru wen
Ragor fel Arthur Ogwen.


Nodiadau

[golygu]