Neidio i'r cynnwys

Yr Awen Barod/Dr Ifor Williams

Oddi ar Wicidestun
Arwrgerdd Yr Awen Barod

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)


golygwyd gan John William Jones
David Lloyd George


DR. IFOR WILLIAMS.

YN ei waith fel yn ei wythi,—mae rhin
Y Gymraeg yn berwi;
Ifor Hael ei llyfrau hi
Ydyw hwn—rhaid ei honni.

Na feier,—myn fy Awen—heb ofn neb
Fwynhau Cymraeg Ibsen;
Di-wall a hawdd ydyw llên.
"Tŷ Dol" ar bob tudalen.


Nodiadau

[golygu]