Neidio i'r cynnwys

Yr Awen Barod/Dyn a â Allan

Oddi ar Wicidestun
Dymuniad Yr Awen Barod

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)


golygwyd gan John William Jones
Diolch am Iechyd


"DYN A Â ALLAN I'W WAITH."

ALLAN i'w waith yn llawn nwyd—dyn a â,
A daw'n ôl i'w gronglwyd;
I wneud y gân ni chanwyd
Rhaid i fardd gael pryd o fwyd.


Nodiadau

[golygu]