Yr Awen Barod/Ehedeg
Gwedd
| ← Lledu Asgell | Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
Dôl Y → |
EHEDEG.
(Mr. Cody yn ehedeg o Aintree).
GALL dyn gerdded neu redeg—ar ei draed,
Dyna'r drefn, a chwaneg,
Nid dyn, er ei egni teg,
Ond adar wnaed i hedeg.
Rhywfodd mawr a fydd miri—dyn nwydwyllt
Yn hedeg o Aintree;
I'w droi'n ôl, pe medrwn i,
Cydiwn yng nghynffon Cody.