Neidio i'r cynnwys

Yr Awen Barod/Eisiau Tanwydd

Oddi ar Wicidestun
Twyll Yr Awen Barod

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)


golygwyd gan John William Jones
Ymweliad Beirdd Môn â Thrawsfynydd


EISIAU TANWYDD.

UNIG lef mewn bwthyn glân,—y gŵr llwyd
Ger y llyn sy'n cwynfan;
Treiwch roi i frawd truan
Chwarae teg i ddechrau tân.

Anaddas yw defnyddio—cato ni'r
Cotton Waste tra paro;
Diau cas ydyw ceisio
Wig lamp i gynnau y glo.


Nodiadau

[golygu]