Yr Awen Barod/Esau o Ddyn
Gwedd
| ← Llanc a Ymyrrai â Gwaith Tŷ | Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
Siop John Hughes → |
ESAU O DDYN!
Os heb ofn drwy'i einioes bu—ar erwau
Arall yn tresbasu,
Yma cadd, wedi lladd llu,
Fedd ei hun i'w feddiannu.
Sul a Gŵyl selog elyn—a fu ef
Â'i wn ar bob tyddyn;
Ond rhoed i natur wedyn
Loes o ddal Esau o ddyn.