Yr Awen Barod/Gofyn am Dŷ
| ← Tomos Bartley | Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
Wil Bryan → |
GOFYN AM DŶ.
O LANDLORD rhoddwch gordial
I awenydd sydd yn sâl.
Ar hyn o bryd uffern bron
Yw ein lle 'nghanol llwon.
Swynol i Sais yw niwl siom
Truenus tri ohonom.
Gwna diawliaid gnwd o elw
O rent cin apartment—pw!
Wiw i Bob fynd i'r lobi,
A gwae i Men ac i mi
Bob adeg fynd i'r gegin
A drysu grog Mistress Green!
O chaf gennych fyg annedd
I fagu 'nheulu mewn hedd
Englyn gewch o 'nghalon gu
A chyfaill i'ch dyrchafu;
Onid e bydd andwyol—
Burach iaith barha o'ch ôl—
Cewch alarnad cyn madaw
O'ch trigfod i'r beddrod baw.
ATEB.
NYDDWR cân, mae'n ddrwg genni
Fod dyn a chorun fel chwi,
Talen, mewn apartment poeth,
Trueni ffit i'r annoeth.
I fardd sy'n werth ei arddel
Heddwch fo, eisteddwch fel
Pe mewn cader o dderw;
Faint mwyn dyn, ohonyn 'nhw
Sy gennych am dlws ganu?
Pen y gamp yw Awen gu.
I bennill rhof dderbyniad
Mae canu yn nheulu 'nhad.
Bydd yn Stryd Glen ymhen y mis
Dŷ neu ddau—dyna ddewis.
Ond ym mhen Ystryd Mynag
Mae'n hen dŷ ni'n mynd yn wag.
Ewch yno i ennill chwaneg
O wobrau'n bentyrrau teg.
Y LANDLORD WRTHO'I HUN.
ONI thâl y rascal rent
Daw elw o ffrwyth ei dalent.