Neidio i'r cynnwys

Yr Awen Barod/Gwerin Cymru

Oddi ar Wicidestun
Clefyd y Sul Yr Awen Barod

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)


golygwyd gan John William Jones
Mewn Niwl


GWERIN CYMRU.

O! FY nhyner hen werin,—heb anair
Ymboenaist i feithrin
Dy blant drwy gyfnodau blin
Heb arweinydd na brenin.

Bodolaist heb dy hawliau—yn dylwyth
Dilwgr dy feddyliau;
A thyfu wnest wrth fwynhau
Di-ofn hedd dy fynyddau.


Dy lais drwy gydol oesau—ddifyrrodd
Fawrion y Neuaddau;
Cadd ei bryntion galonnau
Dy holl nwyd i'w llawenhau.


Du liwiodd y byd lawer—o'th hanes,
Ond i'th enaid tyner
Hawddfyd a nawdd fu dy Nêr—
Ni thyfaist i waith ofer.


Is dialedd tost elyn—oesau blin,
Os bu leddf dy emyn
Dy Ffydd oedd grefydd ddi-gryn—
Ti gyrhaeddaist y gwreiddyn.


Os cenaist yn nos cyni,—taro dant
I'r dydd wrth gyfodi;
Di-len fydd dy oleuni—a'th gyflwr
Wrth ddilyn arwr a thelynori.


Nodiadau

[golygu]