Yr Awen Barod/Hawen
Gwedd
| ← Bedd Morwr | Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
Prydydd → |
HAWEN.
CAWR awenydd coronog,—un â'i gân
Yn gynnyrch toreithiog,
Oedd yr Hawen talentog,
A mwy na llef o'r Maen Llog.
Yn llenor â'i holl anian—yn ei bwnc
Ac yn bur a diddan;
O'i rasol lwydd rhoes i lân
Athroniaeth aur ei hunan.
Myg gennad nef amcanion—gyda'i ddysg
Ydoedd ef ac eon;
Ddiwinydd wnâi i ddynion
Dreiddio i dir rhyddid Iôn.