Yr Awen Barod/Hen Gloc Mawr, Yr
Gwedd
| ← Heddgeidwad, Yr | Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
Bwi, Y → |
YR HEN GLOC MAWR.
FE erys i gyfrif oriau—fy oes.
A'i fysedd main tenau;
Darfu ffraeth genedlaethau,
A'i wyneb pres yn parhau.
Gyda'i gefn ar y pared—onid mynd
Y mae a heb fyned?
Er hyn ein horiau ehed
Heb stŵr—doed pawb i 'styried.
Onid haul yn ein teulu—enwog lin,
Fu'r hen gloc yng Nghymru?
Gwae'r dawon yn Saeson sy
A faidd ei etifeddu.
Yrŵan druan,—hen dro,—mae'r hen gloc
Mawr yn glaf iawn heno;
Mae'n 'cau mynd, mae'n 'cau mendio,
A'd ŵyr neb ei oedran o.