Yr Awen Barod/Hiraeth
Gwedd
| ← Sul yng Nghymru, Y | Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
Newid Acen Geiriau → |
HIRAETH.
O CHÂR edrych a chrwydro—mae ei nyth
Ym môn eithaf atgo;
Oni hed a'm llwyr ado
Fy medd fydd ei ddiwedd o.