Neidio i'r cynnwys

Yr Awen Barod/Llun

Oddi ar Wicidestun
Pantycelyn Yr Awen Barod

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)


golygwyd gan John William Jones
Yr Athro W J Gruffydd


LLUN.
(Adeg Eisteddfod Bangor tynnwyd fy llun gan Elwyn (Ab Wil Ifan). Anfonwyd yr Englynion hyn iddo.)

BALCH wyf ohonwyf fy hun,—mi goeliaf
Mai Gwilym yw'r darlun;
Rhyw allu i dynnu dyn
A'i feddyliau fedd Elwyn.

I'w weld mae hunanoldeb—yn gymysg
 hiwmor yr wyneb;
Ac i'm hystad, ni wad neb,
Caf fy het yn cyfateb.

Ond i'w wneud o yn well—ymholi'r wyf
Ymhle'r oedd fy mhibell?
Wele mae fy nwylo 'mhell
Yn eigion fy nwy logell.

Mae hwyl, a phawb yn fy mhen—o'i eisiau
I'w osod ar hoelen;
Beth haws i'r lliaws llawen
Na 'nabod fy ngwasgod wen?


Nodiadau

[golygu]