Neidio i'r cynnwys

Yr Awen Barod/Offis y Dduallt

Oddi ar Wicidestun
Fy Englyn Cyntaf Yr Awen Barod

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)


golygwyd gan John William Jones
Disgwyl Glo


OFFIS STESION Y DDUALLT AR YSTORM.

PARED yn llawn papurau,—gwael loches,
Gwêl lwch hyd y byrddau;
Bardd o'i hwyl yn ymbruddhau
Yma erys am oriau.

I Gwilym lle digalon,—tân a mwg
A'r tŷ'n mynd yn yfflon;
A phwy sai'n yr offis hon
Tan gorwynt ond dyn gwirion?


Nodiadau

[golygu]