Yr Awen Barod/Pantycelyn
Gwedd
| ← Pedr Hir | Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
Llun → |
PANTYCELYN.
(Ar ôl darllen ysgrifau Mr. Saunders Lewis a Dr. Moelwyn Hughes ar Bantycelyn).
I RYMUS ganu'r emyn—bydded hwyl;
Heb ddweud dim yn erbyn
Gallu y ddau, gwell i ddyn
Yw coelio Pantycelyn.