Yr Awen Barod/Sacsoffon, Y
Gwedd
| ← Botwm | Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
Bardd y De → |
Y SACSOFFÔN.
CLOBYN O getyn a gaf —o'r un ffurf
A'r corn ffein rhyfeddaf;
Ei dôn drom—o'i dwndwr af—
I nâd bwgan debygaf.
BARDD Y DE.
RHYDDID yw iaith bardd y De,—a di-nerth
Gyda'i "nawr" a'i "dere";
Dienaid iawn ydyw e—
Dyn y tafod yn tefe!
PRYDER.
MEDDWL dwys diorffwyso—yw pryder,
Pair adwyth i'm curio;
Oni phaid â phroffwydo
Fy medd fydd ei ddiwedd o.