Yr Awen Barod/Tân ar Getyn
Gwedd
| ← Gandhi | Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
Cadw-Mi-Gei → |
TÂN AR GETYN.
DYN wyf heb ddim dawn, Ifan;—i'w hatal
Mae fy nghetyn bychan
Wedi hollol fynd allan—
A be' 'di o heb ei dân?