Neidio i'r cynnwys

Yr Awen Barod/Teulu yn Dawnsio

Oddi ar Wicidestun
Dyn Tenau Yr Awen Barod

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)


golygwyd gan John William Jones
Lladron


TEULU YN DAWNSIO.

DAWNSIA'I dad neis a dedwydd,—dawnsia'i fam
Dawnsia'i fwyn chwiorydd;
Dawnsia'i nain fain ddi-fennydd,
A dawnsia'i daid nos a dydd.


Nodiadau

[golygu]