Neidio i'r cynnwys

Yr Awen Barod/Ymweliad Nain â Lerpwl

Oddi ar Wicidestun
Enwogion Sir Gaernarfon Yr Awen Barod

gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth)


golygwyd gan John William Jones


"YMWELIAD NAIN A LERPWL."
(GAN DEINIOL FYCHAN).

HAWDD o'u cyrraedd yw caru—yr hen bobl
Geir yn byw yng Nghymru;
Mae'r hen ddynes gynnes gu,
Nain Deiniol, yn ein denu.

Haeddu clodydd clywadwy—mae ei ddawn
Am ddull canmoladwy;
Mor hudol gymeradwy
Deiniol o fath Daniel fwy.


Nodiadau

[golygu]