Yr Awen Barod/Ywen, Yr
Gwedd
| ← Bore Oes | Yr Awen Barod gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
Mesen → |
YR YWEN.
ER hardded gwyrdded ei gwedd,—a'i bri hen
O barhad di-ddiwedd,
Pair afar, ond pa ryfedd?
Wrth ei bôn mae porth y bedd.
Wrth roi parch, wrth wyro pen,—naws hoenus
Henaint sydd i'r ywen;
Fôn a brig yr hyfwyn bren
A werchyd ein tywarchen.