Yr Awen Barod (testun cyfansawdd)
| ← | Yr Awen Barod (testun cyfansawdd) gan William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth) golygwyd gan John William Jones |
→ |
| I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Yr Awen Barod |

YR AWEN BAROD
Cyfrol Goffa
GWILYM DEUDRAETH
(1863-1940)
Rhagair gan
T. GWYNN JONES, M.A., D. LITT.
Golygwyd gan
JOHN W. JONES, Blaenau Ffestiniog.
GWASG GOMER: LLANDYSUL.
1943
AT Y DARLLENYDD.
UN o hogiau tref Caernarfon oedd WILLIAM THOMAS EDWARDS (Gwilym Deudraeth). Yno y ganed ef Tachwedd 21, 1863, mewn tŷ yng nghanol rhes o dai o'r enw Hen Walia. Meddai ef ryw dro fel hyn, "Rwy'n Wilym o'r Hen Walia." Symudodd ei rieni oddi yno i breswylio i Benrhyndeudraeth pan nad oedd ef ond plentyn. Cafodd ychydig addysg yn ysgol ddydd y Penrhyn, ond yr Ysgol Sul ydoedd y Coleg gorau a gafodd erioed meddai. Gan fod ei dad yn gapten llong meddyliodd Gwilym am fynd yn llongwr fel ei dad a'i frodyr, ac aeth am fordaith ond blinodd ar y gwaith. Trodd wedyn i'r chwarel, a dechreuodd rybela yn y Gloddfa Ganol, Blaenau Ffestiniog, ond blinodd wedyn.
Ymhen ysbaid o amser cafodd waith ar Lein Bach Porthmadog a Blaenau Ffestiniog. Bu yn orsaf-feistr yn Nhanybwlch a'r Dduallt neu Rhosllyn. Cyfansoddodd lawer o englynion pert yn y cyfnod dedwydd hwnnw. Mewn cae gerllaw stesion y Dduallt yr oedd mul Siâms Rhosllyn yn pori, ac mewn llythyr at gyfaill dywedodd Gwilym fel hyn, "Pan oeddwn yn ymboeni gyda'r 'Mesurau Caethion' yr oedd mul yr hen Siâms yn mwynhau 'Tragwyddol heol' ac wrth ei weld yr adeg honno y cyfansoddais yr englyn hwn a ddaeth yn weddol adnabyddus wedyn:
Y MUL.
"So well he'll sing a Solo-in the field
With a full crescendo;
Rolling in ending you know,
A tender rallentando!"
Un tro cariai Gwilym lamp yn ei law, a gofynnodd Isallt iddo fel hyn, "Ha fardd, ble'r ei di â fo?" Atebodd yntau, "I ben hwn erbyn heno."
Cefnodd ar y Dduallt ac aeth i weithio i Lerpwl, ac yno y cartrefodd wedyn. Priododd â Miss Harriet Williams, o Lanferres ger yr Wyddgrug. Bu iddynt bedwar o blant, ond un ohonynt a erys yn fyw heddiw, sef Mrs. Knott, Southampton. Byr fu ei gystudd a bu farw yn ei gwsg Mawrth 20, 1940, yn 77 oed. Claddwyd ei lwch ym mynwent Allerton, Lerpwl.
Bardd yr awen barod ydoedd, a lluniodd gannoedd o englynion, a'r rhan fwyaf ohonynt yn fyrfyfyr. Englynion yn y cywair llon ydynt gan mwyaf. Difyr ydoedd gwrando arno yn eu hadrodd. Byddai wrth ei fodd yng nghanol ei gyfeillion, yn enwedig ar gae yr Eisteddfod Genedlaethol. Pan fyddai yn ei hwyliau gorau diddanai bawb o'i gwmpas. Trwy ei farw ef collodd Cymru werinwr diwylliedig. Yng ngeiriau Anthropos: "Marsiandiwr perlau ydoedd, na welir eto ei debyg."
Cefais stoc dda o'i englynion ganddo o dro i dro, yn arbennig wrth ohebu â'n gilydd dros gyfnod o 35 mlynedd.
Dymunodd arnaf gyhoeddi cyfrol o'i englynion wedi ei farw. Cefais ei bapurau i gyd gan Mrs. Edwards, a diolchaf iddi am hynny. Ymgais i gyflawni ei ddymuniad ydyw y gyfrol hon. Ceisiwyd dethol rhai o'i englynion gorau. Mawr yw fy nyled i'r Dr. T. Gwynn Jones am bob cynhorthwy, ac am "Ragair" mor hapus, ac i Mr. J. W. Thomas, B.A., am help lawer a charedigrwydd mawr.
Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith o'r blaen yn dwyn y teitl "Chydig ar Gof a Chadw." Bwriadwyd cyhoeddi cyfrol yn fuan ar ei hôl a rhoddi yr englyn canlynol ar yr Wyneb ddalen:
Mi rois 'chydig o'r brigyn-i'ch hudo,
A chedwais y bonyn;
Ni ches hedd o achos hyn
Heb ychydig bach wedyn.
Gelwir y gyfrol hon "YR AWEN BAROD," ac os daw ychydig elw oddi wrthi, gofelir am brynu maen teilwng i nodi man bedd yr hen wladwr hoff.
Gŵyl y Banc, 1943.JOHN W. JONES.
RHAGAIR.
DIAU fod cannoedd o Englynwyr o bob math i'w cael hyd heddiw yng Nghymru, a llawer iawn o bersonau, heb fod yn englyna eu hunain, eto'n mwynhau'r ffurf honno ar brydyddiaeth, hyd yn oed er na byddant, efallai, yn cymryd diddordeb mewn llenyddiaeth yn yr ystyr fydd yn digwydd taro chwaeth y sawl a arfero'r term. Yn wir, wrth ddarlledu dro yn ôl, gofynnodd Kate Roberts, yn gymwys iawn, a yw'r diddordeb mewn englynion, wedi'r cwbl, yn ddiddordeb mewn Llenyddiaeth. Efallai yn wir, nad yw, ac eto, clywais un gŵr y sydd, od oes undyn, yn gyfarwydd iawn â Llenyddiaeth gyffredinol, yn dywedyd na byddai Cymru yn Gymru iddo ef pe na bai ynddi mwy un Englynwr i'w gael, na neb a fedrai fwynhau englyn.
Wrth reswm, nid yn y ffurf yn unig y mae'r rhinwedd, canys y mae digon o englynion eithaf cywir, yn ôl y rheolau, na ddifyrrent neb. A pha beth ynteu yw'r rhinwedd y sydd yn y math hwn o bennill, er dyddiau epigramau'r Groegiaid hyd heddiw bron ym mhob gwlad lythrennog? Cytunai pawb, ond odid, mai un rhinwedd yw ei fod yn gwta, ond nid yw hynny'n ddigon chwaith. Cyfarfüm unwaith â gŵr bonheddig o'r Alban, a fedrai Gymraeg, ac a gasglodd gannoedd o englynion. Mynnai ef mai yn y ffurf honno y ceir y pethau gorau yn Gymraeg, ac mai eu rhinwedd hwythau yw eu gwirionedd, eu cynildeb a'u hapêl at bawb
"Mewn gwlad a thref, cynefin
Ei gwir praff a'i geiriau prin,"
meddai, gan ddyfynnu englyn rhywun i'r "Ddihareb." Diau fod rhesymau eraill, ond y mae cryn lawer i'w ddywedyd dros syniad y gŵr dysgedig hwnnw.
Dyma gasgliad eto o waith Englynwr adnabyddus, a ddangoswyd i mi gan fy nghyfaill y Golygydd. Perthynai'r awdur hwn i'r to o Englynwyr a wnaeth lawer, yn y ganrif ddiwethaf, i ledu apêl yr Englyn, yn enwedig drwy ei gloi â llinell â blas yr iaith gyffredin arni. Hyd y gwelaf i, yn y peth hwnnw y mae atyniad y rhan fwyaf o'r englynion a geir yn y casgliad hwn. Gwir mai methiant fydd englyn a ddiweddo'n wan, ond pan na bydd ynddo, megis, ddim ond diwedd, ni bydd y gamp arno ond bechan. Nid oedd Gwilym Deudraeth, mwy na rhai o'r englynwyr a fu o'i flaen, yn ofalus iawn am y gweddill o'r pennill, ond anaml y methai ei gloi yn drawiadol. Yn wir, gwelir yn eglur mai'r clo fydd y rheswm am ambell englyn. Er enghraifft, englyn i ŵr "heb fod yn llawn llathen"—
"Dawn synnwyr dyn ni sonia—yn y bedd
Am iawn bwyll na graddfa;
Cydorffwys yn gymwys ga
John Sam a'r genius yma."
Ffordd fwy anghynnil o ddywedyd, "Ni sonnir yn y bedd am bwyll na gradd" yw paladr y pennill, a lwc oedd mai John Sam oedd enw'r gŵr nad oedd yn "llawn llathen.
Y mae yn y casgliad hwn hefyd ddigon o dystiolaeth mai'r gynghanedd oedd prif ddiddordeb y prydydd, a bod y diddordeb hwnnw'n ddigon cryf'i beri iddo hepgor eglurder, a hyd yn oed ffurfiau'r iaith lafar, pan fyddai hi'n galw. Y mae'n fwy na thebyg mai ceiff neu ceith, nid ca, a ddywedasai'r bardd ar lafar. Ni ddylid beio gormod arno am ddilyn ffurfiau y tybid yng nghyfnod ei ieuenctid ef eu bod yn gywirach na ffurfiau byw Cymraeg Cymreig. Nid rhaid synnu chwaith ato am fethu deall pam y dywedir diwaetha, diwetha, dwetha, er na ddywedodd neb erioed diweth yn lle diwedd. Anawsterau fel hyn oedd achos ei ddirmyg digrif ef at "geiliogod y colegau," chwedl yntau. Yr un diddordeb mewn cynghanedd sy'n cyfrif am droseddau eraill o'i eiddo, nad rhaid eu nodi yma, yn erbyn iaith y werin, ac am gymysgedd sy'n peri i ddyn feddwl am y peth a elwid gynt yn wers facaronig," pethau megis "A pha le mae y full moon"? a "Put me in Ynys Patmos."
Pa beth bynnag yw'r farn gymwys ar chwaeth at bethau o'r fath, ac ar ba fesur o'r chwaeth honno y mae diddordeb yn yr Englyn yn dibynnu, fe wnaeth Gwilym Deudraeth ddigon o englynion llwyddiannus i'w osod ymhlith yr epigramyddion, a theifl y casgliad hwn oleuni diddorol iawn ar hanes a safonau'r peth a elwir weithiau yn "llenyddiaeth werinol" yng Nghymru, heb sôn am safonau cymdeithasol, gwleidyddol a chrefyddol y peth a elwir yn "ddiwylliant Cymreig." Yr oedd un gamp arbennig ar Wilym Deudraeth—gwelai a chyfaddefai rai o'i wendidau ei hun, fel gŵr a welai ddigrifwch rhai o'i nodweddion, ac ymddengys i mi nad oes wenwyn ym machogrwydd ei eiriau am eraill. Y mae ei ddisgrifiadau o ddyddiau ei ieuenctid, ei atgofion a'i edifeirwch, yn rhagori, ac ambell fflach mewn un llinell, megis "Baw a dim yw'r byd yma," yn dangos gweledigaeth, ar dro, sy'n awgrymu'r peth a allasai fod, ac yn tirioni "beirniadaeth."
ii: vii: '43.T.G.J.
CYNNWYS
Anian ym Mawrth
Ar y Gongl
Arthur Williams
Arwrgerdd
Ateb Gwahoddiad
Awr Ginio, Yr
Bardd y De
Bardd yn Saethu'n Gam
Barrug
Bedd Morwr
Beddargraff Ewythr
Beddargraff Gangster
Beili Glas, Y
Bob Owen
Bob Tai'r Felin
Bompren, Y
Bore Oes
Botwm
Brenin a'r Grand National
Briwsionyn
Bronfraith
Brys
Bugail, Y
Bwgan Brain Bryntirion
Bwi, Y
Byr a Phert
Byw yn Sâl
Cadair Wag Dinbych
Cadeirio Bardd yn Lerpwl
Cadeirio Dewi Emrys
Cadeirio Penllyn
Cadw-Mi-Gei
Cecryn, Y
Ceiliog Rhedyn, Y
Cenedl y Cymry
Cenfigen
Ci Defaid
Cinio Nadolig
Clefyd y Sul
Cneuen
Codi Bêl Gotwm
Colyn
Colli’r Trên
Cri y Gwynt
Croesi'r Afon
Cwpledau
Cydymdeimlad
Cyfaill
Cyfrinach y Môr
Cyngor
Cynan
Cysgu'n Hir
Cysgu yn y Van
Cystadlu
Charabanc, Y
Daint Aur, Y
Dal Ati
David Lloyd George
Dewi Machno
Diolch am Iechyd
Disgwyl Glo
Dôl Y
Dr Gwyndaf Moelwyn Hughes
Dr Ifor Williams
Dr John Williams
Dweud Straeon
Dyfrgi
Dymuniad
Dyn a â Allan
Dyn Hunanol
Dyn Tenau
Ddau Dŷ, Y
Ehedeg
Ei Gwymp a Fu Fawr
Eiliad
Eisiau Tanwydd
Eisteddfod Genedlaethol
Enw Iesu
Enwogion Sir Gaernarfon
Er Cof am Ddyfed
Er Cof am Lew Deudraeth
Esau o Ddyn
Etholiad 1924
Fy Annwyl Chwaer
Fy Englyn Cyntaf
Fy Nhad
Fy Nhrigfod
Ffansi Lojar, Y
Ffarwel Haf
Ffwdan
Gadael y Bwyd
Gadael y Warws
Galw un i Godi
Gandhi
Ger y Tân
Gerddi Bluog
Gloch Dân, Y
Gof, Y
Gofyn am Dŷ
Gog, Y
Goleuni
Gorlan, Y
Guard Aur yn y Pulpud
Gwahoddiad
Gwawl, Y
Gwawn, Y
Gwerin Cymru
Gwilym Rhug
Gwlanen o Ddyn
Gwneud Emyn
Gŵr Mawr
Gŵydd
Haid o Adar To
Hawen
Heddgeidwad, Yr
Hela ar Nos Sul
Hen Gloc Mawr, Yr
Hen Godwr Canu
Hen Gyfaill
Hen Wisgoedd Cymreig
Hiraeth
Hiraeth am Benrhyndeudraeth
Hogyn Echo, Yr
Hudoliaeth Merch
Hywel Cefni
Iesu'n Gostegu'r Storm
Insomnia
John Owen y Fenni
John Sam
Lojar Sâl, Y
Lladron
Llanc a Ymyrrai â Gwaith Tŷ
Llaw "Cyfaill"
Lle Difyr
Lledu Asgell
Lletya Mewn Lle Tawel
Llew Owain
Llew Tegid
Llidiart y Mynydd
Llinos Manod
Llun
Lluniau Byw
Llyn Tecwyn
Maen Llog Rhydaman
Marw Llew Tegid
Marw Pedrog
Meddwl, Y
Mesen
Mewn Angen
Mewn Niwl
Mieri
Miles Jones
Modrwy'r Adduned
Newid Acen Geiriau
Nith Collwyn
Niwl
Noson Lawen
Noson Moelwyn
Noson Storm
Oes yr Operation
Offis y Dduallt
Ôl y Pafiliwn
Owen Trefor
Pantycelyn
Pedr Hir
Pedrog
Pentan, Y
Pistyll, Y
Plenydd
Prifeirdd y De
Prosesion
Pryder
Prydydd
Prynu Cyllell Boced
Rownd yr Horn
Rhaeadr, Y
Rhodd
Rhoi Cotwm Allan
Rhwd
Rhyfyg
Sacsoffon, Y
Saeson y Drws Nesaf
Siop John Hughes
Sul y Maer
Sul yng Nghymru, Y
Tân ar Getyn
Tecwyn
Teulu yn Dawnsio
Tomos Bartley
Torrwr Beddau
Trip
Troi Dalen
Trugaredd Trwy Weddi
Twnnel Mersi
Twyll
Tysteb Eifionydd
Wedi Blino yn Rhosllyn
Wil Bryan
Wil Ifan
Winllan Las, Y
Ymneilltuad Anthropos
Ymweliad Beirdd Môn â Thrawsfynydd
"Ymweliad Nain â Lerpwl"
Yn y Capel
Yr Athro W J Gruffydd
"Yr Hen Gorn Mawr"
Ywen, Yr
YR AWEN BAROD
AWDL BORE OES.
O! gyfnod teg ofni tad,—ofni mwy
Oedd ofn mam yn wastad;
Ei gallu hi er gwellhad
Rôi y "fedwen" ar fudiad.
Yn fore i ni o lyfr ein Iôr—tynnwyd
Hanes gwerthfawr drysor;
Angen ni fu am gyngor
Drwy 'mam, a 'nhad ar y môr.
Af drwy lif daearol lwydd,—neu gyfwrdd
A gofid ac aflwydd
Tref y Sais; er twrf a swydd
Deil atsain ei "dyletswydd".
Mae'n rhyfedd gennyf feddwl,
O ferw poeth Liver—pool,
Am yr hen dymor annwyl
Pryd cawsom rhyngom fawr hwyl.
Mwynhau oes, dim yn eisiau,
Diniwed oed a wnâi dau.
Adwy Ddu, mor ddedwydd oedd,
A'i lawn hofel yn nefoedd ;
Caed llawer o bleserau
A ni mewn hwyl i'w mwynhau.
A chwarae sioe a chreu sŵn
Arswydus fore Sadw'n.
Llu o fand yn y lle fu,
Ffliwt geiniog â'i fflat ganu.
Mynd i'r castell, cymell cân,
Hudo'r holl frodir allan;
Rhoi plethedig fiwsig fel
Dôi'r sŵn â'r cŵn o'r cenel.
O'r diwedd rhaid oedd rhedeg
Adre'n ôl. Ow! dro annheg.
Dringo'r cloddiau am lysiau melysion,
A mynd trwy y gweiriau—mentro gwirion;
Amryw diwyd yn hel mwyar duon;
Gorhoff inni fu yr hen Gae'r Ffynnon;
Os acw'r ffarmwr â'i ffon—rôi wysiad,
Byddai enciliad yn boddhau'n calon.
Chwarae â phêl a chref ffon
Am oriau ger y Marion.
O! ddialedd yn ddilyw
Os âi'n pêl at Siop Siân Puw;
Taro'i ffenestr a'i phoeni,
Taflu'i cheiliog ceiniog hi.
Yr ydoedd ein direidi—yn tanio
Ein tyner rieni;
Ganwaith 'rôl gwneud drygioni
I dŷ 'nain y rhedwn i.
Ym mha le mae William Owen—
Wil Owen bach, melyn ei ben?
Glew hynod mewn galanas,—fore'i oes,
Fuo Risiat Wmffras;
Hogyn oedd ddigon addas,
Ni fu'n ein cof yn un cas.
Wrth enwog gydio codwm,—yr uchaf
Gyda'i freichiau 'nghwlwm.
Oedd Risiat—cryf ddireswm
I drin plant â dyrnau plwm.
Ond am Joseff, nid oedd dim eisiau—bri
Y brawd arno'n ddiau;
'Roedd ef, y lleiaf o'r ddau,
Gyn wanned ag o'wn innau.
O! y mwynhad a gaem yn hel—cerrig
A'u cario i wneud capel;
A thithau a finnau fel
Sêr [1]i Achos aruchel.
Caed wmbreth o bregethau,—do yn wir,
A dynwared doniau;
"Amen" a hwyl i'w mwynhau
Yn nhalent John Fron Olau.
Owen Morgan am hanes—
Dyna wnâi i'n dwyn yn nes.
Hwyl fu cael o'i fywiog go'—hir hanes
Rhyw hynod "Siôn Crwso";
A mi yn ei amau o
Synnais pan glywais honno.
Amryw iach ym more'u hoes
Fu'n chwennych llyfnach einioes.
A mwy o rwysg i'w mawrhau
Na'r hyn a roir i'w henwau—
Iawn i gyfaill yw gofyn
"I lle'r aeth yr holl rai hyn?":
Wel, wel, fe fydda' i'n holi—mi fy hun
Am fy annwyl gwmni;
Ym mha ran y mae'r rheini,
A sut un oedd Risiat ni?
O! frawd cun, ddifyrred y co'—gwannaidd
Sy gennyf amdano;
Cywrain eilun cryn wylo
Fu'r ddel afr[2] o'i ddwylaw o.
Aml lythyr gadd ei yrru
Fel i'r bedd, oferedd fu—
Disgwyl Risiat, dim ateb.
A ddeuai'n ôl? 'Wyddai neb.
Ofni hyn a wnâi fy nhad—hwyliai 'mhell
Chwilio 'mhob cyfeiriad;
Tra'n ei long, pa estron wlad
Na fu'n nod i'w fynediad?
A Risiat! onid gresyn
Oedd iddo lithro fel hyn?
Cariad ifanc ar dyfiant
A aeth o blith wyth o blant.
Ni fu i neb ei anfon o—mi wn,
'Ddarfu 'mam mo'i ddigio;
Ond hwyrach daw trymach tro
A'i gyr adref o grwydro.
Ac os daw ar darawiad,—ei air fydd
"O'r fath gyfnewidiad";
Wyla ar ei ddychweliad
Am na wêl o byth mo 'nhad.
YR YWEN.
ER hardded gwyrdded ei gwedd,—a'i bri hen
O barhad di-ddiwedd,
Pair afar, ond pa ryfedd?
Wrth ei bôn mae porth y bedd.
Wrth roi parch, wrth wyro pen,—naws hoenus
Henaint sydd i'r ywen;
Fôn a brig yr hyfwyn bren
A werchyd ein tywarchen.
MESEN.
O'R fesen derwen sy'n dod;—dyna hi
Yn goeden hardd hynod;
Diwedd haf, wedi'i ddyfod,
Derwen i'r fesen rydd fod.
Y BOMPREN.
LLWYFANNWYD lli afonig—ag adail
Hen goeden syrthiedig;
Fe wna hon wrth fôn y wig
Gymwynas i Gwm unig.
LLYN TECWYN.
YN Nhecwyn mae llyn llonydd,—uchel yw
Mewn iach wlad ysblennydd;
Yno serth glogwyni sydd
Yn fur ban i'w ddwfr beunydd.
GŴYDD.
AR lom ddôl cyn Nadolig—hudol yw'r
Dawel ŵydd arbennig;
Chwennych hon a chnoi ei chig,
Dyna bleser dyn blysig !
Y BUGAIL.
GWYLIO mae y bugail mwyn—rhag hir ing
Llethrau craig a chynllwyn;
I'w ddefaid mae'n nawdd hyfwyn,
Ac ar ei war caria'i ŵyn.
Y PISTYLL.
TRWY f'oes i'r pentref isod—fy hun rof
Yn rhad a diddannod;
Os wy'n hen, fy nghân sy'n od
O newydd, fel fy niod.
Y GORLAN.
LLE'R ddiadell wâr ddedwydd,—a gwaliau
Diogelwch beunydd;
Pob gofal rhag dialydd,
A rhos serch ar ei drws sydd.
CRI Y GWYNT.
ARUTHR gri, iaith rwyg yr âr,—a hir sain
Resynus ei llafar;
Undon ei sgorn, dyn nis câr—
Dolef â'i llond o alar.
CNEUEN.
Y GNEUEN gain, o haen a gwedd—yr haf,
Yw aur rodd ei ddiwedd;
Rhydd flas y bereiddiaf wledd
I ddyn â chanddo ddannedd.
FFARWEL HAF.
LLESTEIRIWYD llais aderyn,—mae henaint
Am Anian yn rhwymyn;
Do, llwydodd fel dilledyn—
Fe beidiodd haf â bod, ddyn.
BRONFRAITH.
UN bore canai bronfraith ar frigyn coeden gerllaw fy nhŷ. Yn y newyddiadur a dderbyniwn, yr oedd paragraff yn sôn am Mr. Lloyd George yn anfon anrheg o'i ardd i ryw Syr Watson—felly bardd Seisnig.
"A dyma chdi," meddai Harriet fy mhriod, "wedi canu cymaint iddo, ac yn ei hanner addoli; paham na fuasai yn anfon sachaid o datws i ti, sydd yn pesychu yn y fan hyn?" "Wel," meddwn innau—
Sachaid i mi'n pesychu—pe rhoddai,
Pereiddiach na hynny
Yw blas tân, a sŵn canu
Llais perffaith y fronfraith fry".
Y GWAWL.
RHYDD ei wên ar y ddunos—cyn i wrid
Cain yr haul ymddangos;
Hudol wawl, caiff anian dlos
Weld ei gefn ar lwyd gyfnos.
Y GWAWN.
O'TH flaen pan ymledaeno—yn rhwyd wan
Rho dy wyneb iddo;
Diniwed wawn ydyw o
Mal ysgafn we'n ymlusgo.
ANIAN YM MAWRTH 1930.
MAE anian heb ddim ynni,—mae yn wyw
Heb ddim newydd ganddi;
Llwyd iawn ei dillad yw hi,
A rhew Mawrth yn rhwym wrthi.
NOSON STORM. (SUL GORFFENNAF 1926)
DYDD gras ddiystyrasom,—euogrwydd
Y digred sydd ynom;
Ai dwyn eto'i dân atom
Wna Seina drwy'r noson drom?
Y GOG.
FRY â'i hudlais hyfrydlon—hed y gog
Gyda'i gwas yn gyson;
Gwneud i'r aderyn gwirion
Wacáu'i nyth wna acen hon.
DYFRGI.
TUA'R afon cartrefa,—ac o'i physg
Ei hoff fwyd myn wala ;
Byw'n hir is ei hwyneb wna—
Gorau hwyl geir o'i hela.
CEILIOG RHEDYN.
Et gartre hoff yw'r gwair trwch,—dyry sbonc
Dros ben mewn dedwyddwch;
O! yr hudol hyfrydwch
Gaem yn blant o'i gau mewn blwch.
CI DEFAID.
DI-OFN ffon, gi dof, ni phaid—hel ar ôl
Yr ŵyn a'r mamogiaid;
Ci dof oedd Nero fy nhaid,
Dofach na'r un o'r defaid.
LLIDIART Y MYNYDD.
HEB arno baent, heb raen byd,—â'i wich
Ar ei echel rydlyd;
Wrth ei gefn, yn wyrth i gyd,
Y mae noddfa mynyddfyd.
Y RHAEADR.
O aber lawn bwria'i li—fel arian
Yn faluriog wynlli;
Clyw gynnwrf rhwng clogwyni,
Chwyrna fâs a chrynaf i.
BARRUG.
EIRIAN wynion ronynnau,—denau hug,
Yw barrug y borau;
Ei ddod fel purod i'n pau
Wiria nos oerion iasau.
HAID O ADAR TO YDYNT.
MWYNHA'I wledd ar domen lwyd—yn y pant
Dan y penty briglwyd;
Rhyw wich fer o barch i'w fwyd
Ydyw alaw y dulwyd.
Diniwed iawn ydyw o—ar y llawr
Oer a llwm yn pigo;
Ellyll yw'r hwn a allo
Wneud dim i'r Aderyn To.
'Rwy'n falch fod fy nhirion fur,—lwytyn del,
Iti'n dŵr a chysur;
Angel bach Efengyl bur,
Dyna wyt ym myd natur.
Mae'n gwylio'n bondo'n ddi-baid—boed oer hin
Boed yr haul yn danbaid;
I'n hymyl am ei damaid
Buan yw ei hwb a'i naid.
Un o bergainc lu'r bargod—yw'n trydar
Ac yn troedio isod;
Mae'r Street Arab yn 'nabod
Y llwytyn bach gwyllta'n bod.
Un ai'n hedeg neu'n neidio—mae o hyd,
Gymydog di—hidio;
Ni thâl ef am lwyth o lo
Na rhent o dan yr unto.
At dy weddill di iddo—naid yn hy,
Nid yw'n hawdd ei daro;
Hanfod ei wan fywyd o
Yw'r buander i'r bondo.
Ffy'r adar yn gyffredin—rhag ei ofn
Ar ei gu gynefin;
Y mwya' pert ymhob hin,
A chariad bach y werin.
I'r un hwn o dirion haid—nawdd y to,
Beunydd tafl dy afraid;
Buan yw ei hwb a'i naid,
Myn o domen ei damaid.
CROESI'R AFON AR NAWN TYNER.
O! am hoenedd i'm henaid—ar y dŵr
Wedi oriau tanbaid;
Arogli'r hwyr i'w gael raid,—
Mae'n well imi na llymaid.
Y DAINT AUR.
Â'I daint aur nid naturiol—ydyw mun,
Onid mwy dymunol
Gweld hen ddynes gynhesol
Eighty—two heb ddaint at all?
PROSESION.
O! am heddwch i'r moddion,—llawn haeddu
Llonyddwch wna'r Cristion;
Ar y Sul, mae'n arw sôn,
Sbri y Sais yw Prosesion.
NIWL.
O gôl niwl gwal ni welwn,—hyd na lled
Ein llwybr ni chanfyddwn;
O! fel yr ymbalfalwn
Rhag un loes, drwy ganol hwn.
TRANC BWGAN BRAIN BRYNTIRION.
FRAIN, tyrrwch i Fryntirion,—neu hedwch,
Chwi gewch hadyd ddigon;
Mae'n awr ar lawr ger y lôn
Y bwbach yn gyrbibion!
I siglo'i rags gwael a rhydd—wele mae
Awel môr a mynydd;
Ac O! y fath byncio fydd
Uwchben ei oerllwch beunydd!
Heb wraig na neb ar ei ôl,—heb eneth,
Na neb un perthynol;
Lle diserch mewn llaid oesol
Yw gwely'r ffug wyliwr ffôl.
Ha fwbach, deuaf heibio—i dy fwth,
Ddinod fan rhaid cofio;
Dinodedd ar dy fedd fo—
Dinod yw'r hwn sy dano.
Cariwyd dy wisg bob ceryn,—a diau
Na adewaist ronyn
O d'ôl, yr hynod elyn,
Ni ddaeth dim moddion i ddyn.
Gwael yw dy lety, gwelwn;—hyd y bedd
Blodau byw ni roddwn;
Ar garreg las anrhegwn
Y gŵr ffug â'r argraff hwn.
"Bechadur, lle bwbach ydyw—a gaed
Tan goeden mewn distryw;
Uwch ei fedd cofia heddiw
Ni ddaw hwn o farw'n fyw!"
GUARD AUR YN Y PULPUD.
(Cyfansoddwyd wrth weld gweinidog yn chwarae
â'i guard aur wrth bregethu)
NID gweddus ymwneud â geudduw—a thrin
Athroniaeth y Gwirdduw;
Dirinwedd i droi annuw
Yw guard aur o flaen Gair Duw!
Y LOJAR SÂL.
I gynnau tân, a gwneud te,—ni all hwn
Roi llam o'i orweddle;
Sâl iawn ar y Sul yw e,
Mewn bedroom a neb adre'.
Y FFANSI LOJAR.
Nid yw'r llall mor gall ag e—nac mor gu,
Mae'r gŵr heb ddod adre';
A cheir y plant yn chware—
Mae Uncle Tom yn cael te.
CWPLEDAU.
GOFAL DUW.
NI âd Duw'r aderyn to
Na'i bryfyn heb eu rhifo.
PERCHEN FFYDD.
UWCH na phawb yw perchen ffydd,
Ei fwyd cryf ydyw crefydd.
Y BYD HWN.
ER y llwydd, er yr holl dda,
Baw a dim yw'r byd yma.
YMHOLIAD.
Ai gwell yw Gwenni bellach,
A sut mae bys Tomi bach?
Y MEDDYG MAWR.
NID oes i f'enaid dwyswawr
Neb tebyg i'r Meddyg Mawr.
WRTH EI FODD.
Duw wrth Ei fodd sy'n rhoddi
Ei falm i fod fel myfi.
EIDDILWCH.
GWAE'R wlad sy'n gwyro i lwch
I addoli eiddilwch.
BUANDER YR OES.
YN ei myned mae'i heinioes,
Hamdden na dim hedd nid oes.
TASG DROM.
ANODD iawn dan wybren ddu
Yw dal i ymdawelu.
Y DDAU DŶ.
TY'R Salvation bendrona—yr Awen
Sy'n yr heol yma.
A "thŷ'r bol—lol," aruthr bla,
Sy'n ymyl yw'r Sinema.
PRYNU CYLLELL BOCED.
MAE cyllell logell mewn llaw,—o'i harfer,
Yn erfyn bach hylaw;
Ond rŵan paid â rhuaw—
Ydi hi'n werth dau a naw?
BRENIN A'R "GRAND NATIONAL."
YNO dôi pe gwnâi dewin—ei fygwth
A llifogydd drycin;
Ni wna rhew gwanwyn oer hin
Fawr wahaniaeth i frenin.
Y CHARABANC.
UTHRAWL beth ar Ŵyl y Banc—yn hawlio'r
Heolydd wrth ddianc;
O'i fewn caf hen ac ifanc,
Cheer, boys i'r Charabanc!
BEDDARGRAFF GANGSTER.
Os tir rhydd ei ddinistr o—fu y byd,
Fe beidiodd â'i gyffro;
Yma'n nhynn rwymyn ei ro
Dyn y gang nid yw'n gwingo,
SAESON Y DRWS NESAF.
CYNGERDD yr ieuanc anghall—yma geir,
Ac ymgomio'n ddiball;
Twrw hyd bob tŷ arall
Yw dawnsfeydd dinas y fall.
Iselant eu nos Suliau—yn nhwrw
Annaearol nodau;
Ffrwyth gormod o'r gwirod gau
Roes huawdledd i'r sodlau.
HUDOLIAETH MERCH.
GOFID i Adda gyfiawn—fu'i hudo
Gan faeden anfodlawn;
Rhedli o eiriau rhadlawn—
Hen style merch ers talwm iawn.
ETHOLIAD 1924.
ATOM daeth Lecsiwn eto,—sŵn Toris
Yn taeru, a chyffro;
Librals a gwŷr y Labro
Allan o'u trefn mewn llyn tro.
TRIP.
TRIP byr, nid trip i aros,—i Wilym
Ar ei Wyliau agos;
Trwy'r Penrhyn, ar hyn i'r Rhos,
A thrip i weld Anthropos.
EI GWYMP A FU FAWR.
ER mor ddwl gŵr mawr oedd o,—bydol iawn,
Ond bad luck ddaeth arno;
Aeth i lawr fel llwyth o lo
I'w seler i noswylio.
LLETYA MEWN LLE TAWEL.
LLETYAIS mewn lle tawel—un noson
Iasoer gyda Gwyddel—
Hen gymydog diogel
Ffond o'i wraig a'i Fender Ale.
YN Y CAPEL.
WELE glân yw Wil y glo—y Sabbath,
Ag ôl sebon arno;
Ac onid gwyn Ned y Go'
Yn y sêt nesa' ato?
JOHN SAM.
(Gŵr diniwed, na chyfrifid yn "llawn llathen").
DAWN synnwyr dyn ni sonia—yn y bedd
Am iawn bwyll na graddfa;
Cydorffwys yn gymwys ga
John Sam a'r genius yma.
BYW YN SÂL.
AR foreau, oer frwes,—ochenaid,
A chinio di-botes;
Dyna i gyd yw hanes
Bywyd prin i arbed pres.
LLEDU ASGELL.
LLEDU asgell o hyd i esgyn—wna
Diniwed aderyn;
Ond ha ha! dyna wna dyn,
Lledu asgell a disgyn.
EHEDEG.
(Mr. Cody yn ehedeg o Aintree).
GALL dyn gerdded neu redeg—ar ei draed,
Dyna'r drefn, a chwaneg,
Nid dyn, er ei egni teg,
Ond adar wnaed i hedeg.
Rhywfodd mawr a fydd miri—dyn nwydwyllt
Yn hedeg o Aintree;
I'w droi'n ôl, pe medrwn i,
Cydiwn yng nghynffon Cody.
Y DÔL.
FFAFAR a gwên i anghenog—di-waith
Yw y Dôl drugarog;
Ymgeledd rhyfedd i rôg,
A dawn dewis dyn diog.
Y MEDDWL.
LLYW dawn pob gallu dynol—yw'r meddwl,
A'r moddion deallol;
Eang ei swydd—dengys ôl
Dyfais a gallu dwyfol.
FY NHRIGFOD.
O LAWR seler i'r ceilin'—tŷ oer, wfft,
Drafftiog anghyffredin;
Lawnt yw'r hall i wynt a'r hin,
Ac ogof yw y gegin.
CYSGU'N HIR.
CAS ydyw, anesgusodol—o gas
Yw trwm gwsg borëol;
Yr wyf yn hwyr ddifrifol,
Hanner awr union ar ôl!
MEWN ANGEN.
MAE'R awdur yn llwm rodio—yn dylawd
Ei lun, dyn a'i helpo;
Haedda fwyd, rhowch iddo fo
Gil dwrn—mae'n galed arno.
Y GLOCH DÂN.
(Wrth wrando ar Moelwyn yn sôn am Gloch Dân
ar ei bregeth).
TORRI adwy wna trydan—ei ddoniau
Trwy ddunos ein hanian;
Ond er holl sŵn ei daran
A glywch chwi dinc ei Gloch Dân?
NOSON LAWEN.
NOSON â gwae'n sŵn y gwynt,—ond sain tant
Sy'n y tŷ'n wledd iddynt;
Noswyl o hwyl a helynt
Tebyg i'r hen Gymry gynt.
DWEUD STRAEON.
BODDHAD a budd hyd y byddo,—a help
I'r hwyr fyned heibio
Yw dyn â dawn o dan do,
A gwerindorf yn gwrando.
TYSTEB EIFIONYDD.
DYN heb wrid yw yn brydydd,—heb ei ail
Yn y byd fel casglydd;
Am fawrhau doniau y dydd
Hen foy iawn yw Eifionydd.
I'w gain annwyl Geninen—selog yw,
Pa sawl gwaith wrth ddarllen
Ei ddigrif lawysgrifen
Y gorfu i mi grafu 'mhen?
Efrydais gyfeiriadau—ei throeon,
A threiais am ddyddiau
Gael rhyw help i'w heglurhau—
Methu wnes am wythnosau!
Ond rhwydd hynt i'r dda antur,—mae'i hanes
Rhwng y Meini'n eglur;
Mawrhaed pawb sy'n Gymro pur
Decaf oed y Cofiadur.
GERDDI BLUOG.
(Hen Gartref Edmwnd Prys)
MAE ei ddull o'r modd hylla', er hynny
Mae'n rhinwedd ei goffa;
Tyn dy het i'w enw da—
Bu Emwnt yn byw yma.
TWNNEL NEWYDD O DAN AFON MERSI.
ER clir lôn, er claer oleuni,—yn saff
Ac yn sych mewn taxi,
Mae arswyd Afon Mersi
Eto'r un faint arnaf i.
BOTWM.
HEB un twll, dibwynt hollol—yw ar gap
Neu ar gôt swyddogol;
Fe wna addurn defnyddiol
I dynhau'r dyn ar y dôl.
Y SACSOFFÔN.
CLOBYN O getyn a gaf —o'r un ffurf
A'r corn ffein rhyfeddaf;
Ei dôn drom—o'i dwndwr af—
I nâd bwgan debygaf.
BARDD Y DE.
RHYDDID yw iaith bardd y De,—a di-nerth
Gyda'i "nawr" a'i "dere";
Dienaid iawn ydyw e—
Dyn y tafod yn tefe!
PRYDER.
MEDDWL dwys diorffwyso—yw pryder,
Pair adwyth i'm curio;
Oni phaid â phroffwydo
Fy medd fydd ei ddiwedd o.
GWNEUD EMYN.
Mi wnaf englyn o'r gwynna,—yn y lleddf
Neu y llon a'r smala;
Gwn nad wyf yn ddigon da
I wneud emyn hyd yma.
CYFRINACH Y MOR.
DDYFNED yw'r môr, agoriad—a feddaf
I'w brif eiddo'n wastad;
Her i'w ewyn a'i ruad,
Mi wn hyn yno mae 'nhad.
GOLEUNI.
(Wrth weled golau yn disgleirio ar ymylon euraid y Beibl).
HEN Gyfrol y Cyfrolau,—denol yw
Dan lewych y lampau;
Nid balchder na gwychder gau
Ymyl aur y mêl eiriau.
CYNGOR.
Os dy long mewn tymestl o hyd—bair ofn
A braw yn dy ysbryd;
Cei hafan yn gân i gyd—
Tro'i bow at Dir y Bywyd.
LLE DIFYR.
MIN nos, difyr mewn stafell—yw book-case,
Tybaco a phibell;
Ni all gŵr gael unlle gwell,
A llonydd i wneud llinell.
GWLANEN O DDYN.
GWYRA'I ben a phlyg i'r byd,—a'i ddelwau
Yn eiddilod gwanllyd;
Dyn yw ef—os dyn hefyd—
Dyn clên yn gorsen i gyd.
SUL Y MAER.
SUL Iôr ni chaiff sylw, hwy—y Cyngor
A'r cangau sy'n tramwy;
Mae'r syniad yn ofnadwy,
Sul y Maer gaiff sylw mwy.
OES YR OPERATION.
OES gwŷr hylaw, oes greulon—y gyllell
A gallu'r meddygon;
Ciwriwr rhy sicr yr oes hon
Yw'r prysur operation.
CLEFYD Y SUL.
SALWCH Y Sul—awchus aeth—nid oerfel
Na darfodedigaeth;
Ni bydd i'r dyn cyndyn caeth
Na fedd gwyn, feddyginiaeth.
Clwy'r methu cysgu fel cynt,—a wna'r saint
Yn rhai swrth—rhad arnynt;
A dwed Nel na fydd helynt
Ned ei gŵr yn ddim ond gwynt.
GWERIN CYMRU.
O! FY nhyner hen werin,—heb anair
Ymboenaist i feithrin
Dy blant drwy gyfnodau blin
Heb arweinydd na brenin.
Bodolaist heb dy hawliau—yn dylwyth
Dilwgr dy feddyliau;
A thyfu wnest wrth fwynhau
Di-ofn hedd dy fynyddau.
Dy lais drwy gydol oesau—ddifyrrodd
Fawrion y Neuaddau;
Cadd ei bryntion galonnau
Dy holl nwyd i'w llawenhau.
Du liwiodd y byd lawer—o'th hanes,
Ond i'th enaid tyner
Hawddfyd a nawdd fu dy Nêr—
Ni thyfaist i waith ofer.
Is dialedd tost elyn—oesau blin,
Os bu leddf dy emyn
Dy Ffydd oedd grefydd ddi-gryn—
Ti gyrhaeddaist y gwreiddyn.
Os cenaist yn nos cyni,—taro dant
I'r dydd wrth gyfodi;
Di-len fydd dy oleuni—a'th gyflwr
Wrth ddilyn arwr a thelynori.
MEWN NIWL.
TRWY y strydoedd trist rodiwn,—gwelw liw
Golau lamp ganfyddwn;
Ar niwl y sêr ni welwn,
A pha le mae y full moon?
DYN TENAU Â THRAED AFLÊR.
MAE blew hwn heb ddim bloneg—i'w cynnal,
Mae'n cwyno bob adeg;
Culni noeth, cluniau annheg,
A thraed at fethu rhedeg.
TEULU YN DAWNSIO.
DAWNSIA'I dad neis a dedwydd,—dawnsia'i fam
Dawnsia'i fwyn chwiorydd;
Dawnsia'i nain fain ddi-fennydd,
A dawnsia'i daid nos a dydd.
LLADRON.
MAE i ddyn y meddiannau—ei fol llawn
Fel llwynog ar wyddau;
Lladron, ond un â llodrau,
Tew ar ddwyn gloddest yw'r ddau.
RHYFYG.
(Wrth glywed rhyfygu mewn storm).
A YW'R ystorm yn ormod?—ni wn i
Na neb rhaid cydnabod;
Ymhonnaf hyn—mi wn fod
Ebychu llw yn bechod.
TRUGAREDD DRWY WEDDI.
Y PENNAETH o gwmpeini—y Turf fùm,
Trwy ffawd a phob bryntni;
Ces drugaredd trwy weddi
Dyma beth od im bath i.
HIRAETH AM BENRHYNDEUDRAETH.
DOF yn well, nid af yn waeth,—awyr iach
A rydd feddyginiaeth;
Carwn ar blwc o hiraeth—fynd o'r lle
Rŵan hyd adre i Benrhyndeudraeth.
GER Y TÂN AR NOSON OER.
GŴR y tŷ sydd ger y tân—hudolus,
Gyda'i deulu bychan;
Siriol dlos yw'r aelwyd lân—
Mae'n rhy hyll, mae'n oer allan.
BRYS.
(Teleffonio am Dr. Roberts (Isallt).
PRYSURWCH, deuwch, cewch dâl,—yn y trên
At wraig sydd mewn treial;
Hastiwch, os byddwch cystal,
Heb aros wir, mae'n bur sâl.
CINIO Nadolig
(Mewn brys am weled Dr. Roberts (Isallt) ac yntau ar ei ginio Nadolig).
O, ISALLT, oni chawsoch—ddigonedd
O ginio, be' s'arnoch?
Yn ŵr glwth er un o'r gloch
Efo'r wydd.—Wyf yr eiddoch,
—G.D.
FY ENGLYN CYNTAF.
UN tro aeth fy mrawd hynaf i Abersoch i fwrw'r Sul, cyn cychwyn ar ei fordaith gyntaf ar long o'r enw
Tyne. Gwneuthum innau fy englyn cyntaf erioed iddo
AR y Tyne a'r dŵr tanoch—i'w nofio,
Mae'n annifyr arnoch;
Hyn o gysur a gawsoch—
Bwrw Sul yn Abersoch.
OFFIS STESION Y DDUALLT AR YSTORM.
PARED yn llawn papurau,—gwael loches,
Gwêl lwch hyd y byrddau;
Bardd o'i hwyl yn ymbruddhau
Yma erys am oriau.
I Gwilym lle digalon,—tân a mwg
A'r tŷ'n mynd yn yfflon;
A phwy sai'n yr offis hon
Tan gorwynt ond dyn gwirion?
DISGWYL GLO. (Yn y Dduallt).
GWELW wyf wrth ei ddisgwyl o—i fyny,
Anfonais amdano;
Er drwg 'rwy'n siŵr o drigo
Oni cha'i lwmp bach o lo.
CYSGU YN Y VAN.
HENO'R wyf braidd ohoni,—hen hepian
Anhapus ddaeth imi;
Yn y Van cas gennyf fi
Yw sŵn peiriant Siôn Parri.[3]
WEDI BLINO YN STESION RHOSLLYN.
CICIWCH fi i werthu cocos,—neu hyrddiwch
Fi i'r Werddon i aros;
'Waeth ple, i rywle o'r Rhos—
Put me in Ynys Patmos!
TWYLL.
AR Boster yn Stesion Tanybwlch yr oedd darlun
botel gwrw â'i phen i lawr. Odani ysgrifennais fel hyn
GWELWCH fod o gylch y fan—bapurau
Ar bob pared weithian;
Ac ar y mur ceir Ackerman,
A'i dwyll yn dyfod allan.
EISIAU TANWYDD.
UNIG lef mewn bwthyn glân,—y gŵr llwyd
Ger y llyn sy'n cwynfan;
Treiwch roi i frawd truan
Chwarae teg i ddechrau tân.
Anaddas yw defnyddio—cato ni'r
Cotton Waste tra paro;
Diau cas ydyw ceisio
Wig lamp i gynnau y glo.
YMWELIAD BEIRDD MÔN Â THRAWSFYNYDD.
Os y Traws a yswyd trwy—ymweliad
Y milwyr ar dramwy,
Mae chwain a moch yn naw mwy
Niweidiol ac ofnadwy!
COLYN.
FE nawdd ei bryf yn nydd brad,—drwg o'i
Draidd drwy groen a theimlad.
Mae'n wenwynig ei bigiad,
Colyn yw—celain a âd.
DYMUNIAD.
Er lys twym yw'r fewnol ystad,—nid oes wraidd
Ond Un all ei ddirnad;
Ai byr ai hir ei barhad,
Onid mwyn yw dymuniad?
"DYN A Â ALLAN I'W WAITH."
ALLAN i'w waith yn llawn nwyd—dyn a â,
A daw'n ôl i'w gronglwyd;
I wneud y gân ni chanwyd
Rhaid i fardd gael pryd o fwyd.
DIOLCH AM IECHYD.
Pwy a ŵyr ond Duw pa hyd—y gwiriaf
Werth rhagorol iechyd?
Ni wn fy hun pa funud—daw i'm gwedd
Arwyddion gorwedd a hun y gweryd.
CYFAILL.
YNDDO ef mae rhinwedd Un—a wyrodd
I wared Ei elyn;
I gyfaill ni raid gofyn—
Fe gâr roi ohono'i hun.
LLAW "CYFAILL."
MAE llaw a gymell o hyd,—llaw cyfaill,
Cofia, yw hi hefyd;
Ymorol rhag cymeryd,
Fe all droi yn "gyfaill" drud.
ENW IESU.
ENW hawdd i'w gynganeddu,—enw
Annwyl ymhob teulu;
A oes gair drwy'r Gyfres gu
Neisiach na'r enw Iesu?
IESU'N GOSTEGU'R STORM.
MEWN ochain a mi yn Achor—mewn ing,
Mewn ofn ar y cefnfor,
Mewn alaeth a min elor
Mae'r Iesu'n gostegu'r storm.
BRIWSIONYN.
ERYS Swyn mewn briwsionyn—o'r lliain,
Er lleied yw'n disgyn;
Yn gymysg â'r cenllysg gwyn
Haid o'r adar a'i hedwyn.
CENEDL Y CYMRY.
HUAWDL genedl ag wyneb—agored,
Gwerin cân a phurdeb;
Ei gwendid? Diffyg undeb—
Dyna yw ac ni wad neb.
CENFIGEN.
YN lle rhoi parch, llorio pen—dyn o werth
Ydyw nod cenfigen;
Ond hi'n ei llid dan y llen
Wnaiff arch i ddwyn ei pherchen.
YR AWR GINIO.
Os tan ei faich, os tyn fydd—ei galed
Gwlwm drwy'r boreddydd,
Mawr gysur i lafurydd
Yw tyner dant hanner dydd.
FFWDAN.
HEB fy nghôt, heb fy nghetyn,—ces fy het,
Ces fy atal wedyn;
Eis i row. A oes rywun
A wad nad ffwdan yw hyn?
Y PENTAN.
DIGON o le i degell,—ac arno
Mae cornel i bibell
A Thwm y gath; imi gwell
Yw na stôf mewn ystafell.
GADAEL Y WARWS AR NOS SADWRN.
ANNIFYRRWCH hen furiau—adawaf,
Wel, diolch am Suliau;
Annhirion fyddai'n horiau
Heb week-end i'n bywiocáu.
RHODDI COTWM ALLAN EFO LONGMORE
BEICHUS greadur bychan—yw Gwilym,
Digalon ac egwan,
Yn y drws yn gwneud ei ran
Efo Longmore fel hangman.
CODI BÊL O GOTWM.
All down â dwylo dani,—a bachau
O bob ochor iddi;
Hoenwych ydym i'w chodi
Efo nerth,—i fyny â hi!
GALW UN I GODI.
BOREFWYD ni chei brofi—mewn gwely,
Mae'n gywilydd iti;
Bore braf o haf yw hi—
Cei fwyd ar ôl cyfodi.
MODRWY'R ADDUNED.
O LAW Ann bu'n olwyno—yn eilun
I Alis a Gwenno;
Cyn y gwêl Ned hi eto
Fe dyr bys ei fodryb o.
YR HEDDGEIDWAD.
UN hardd ei wedd yw'r heddwas—yn noddwr
Beunyddiol o'n cwmpas;
 byw lid, yn ei gob las
Mae dwrn a grym y deyrnas.
YR HEN GLOC MAWR.
FE erys i gyfrif oriau—fy oes.
A'i fysedd main tenau;
Darfu ffraeth genedlaethau,
A'i wyneb pres yn parhau.
Gyda'i gefn ar y pared—onid mynd
Y mae a heb fyned?
Er hyn ein horiau ehed
Heb stŵr—doed pawb i 'styried.
Onid haul yn ein teulu—enwog lin,
Fu'r hen gloc yng Nghymru?
Gwae'r dawon yn Saeson sy
A faidd ei etifeddu.
Yrŵan druan,—hen dro,—mae'r hen gloc
Mawr yn glaf iawn heno;
Mae'n 'cau mynd, mae'n 'cau mendio,
A'd ŵyr neb ei oedran o.
Y BWI.
OD anwel ei gadwynau,—rhwym o hyd
Yw er mwyn bywydau;
Deil ei ben uwch rhydle bae
At i hanner mewn tonnau.
O'i unig le, sŵn ei gloch—trwy y niwl
Tew a'r nos draidd atoch;
A hi'n ddydd, oni wyddoch
Werth y bwi, dan warth y boch.
INSOMNIA.
BEUNOS hir o boenus ias—wna i'r dyn
Rodianna o gwmpas,
I gael hedd gwely addas—
Mae methu cysgu'n beth cas.
DYN HUNANOL.
MYN ei weled, mae'n hawlio—y lle i gyd,
Llygaded pawb arno;
I'w fawrhad rhy gul yw'r fro
Gyda'i chŵydd—gadewch iddo.
AR Y GONGL.
WRIDOG ŵr wedi gwario—ei arian
Ar wirod a betio;
Wrth weld mor ddiwerth yw o
Y bosses sy'n ei basio.
GŴR MAWR.
Ei aur roddion arwyddant—fol a dim,
Fel dameg y llyffant;
Drwy ymchwydd ei wag lwyddiant
Byrstia'i bwrs eto i bant.
MIERI.
GYRRU'R dymer i ferwi,—rhwygo'r crys,
Rhwygo'r croen a rhegi;
Dyna wneir a dyna wnaeth
Ymyrraeth â mieri.
Y CECRYN.
I'N croen noeth y cecryn ni âd—lonydd
Heb golynnu'n wastad;
Na rodder—mae'n ddiraddiad—
Iddo le wrth fwrdd y wlad.
Y CECRYN (ETO)
CROEN-DENAU gecryn dinod—wyneb hir
Sy'n peri anghydfod;
Ni fedd y cnaf drwg dafod
Ond ei fai i ddweud ei fod.
LLUNIAU BYW.
OD oes ar lygaid eisiau—heulog fyw
Olygfeydd di-furiau,
Di-brin yw Gwlad y Bryniau—hyd a lled,
Treiwch ei gweled hi ar eich gwyliau.
NOSON MOELWYN.
ARLWY'N harwr i lenorion—a lles
Llwyr i ben a chalon
A fu yr hwyr ddifyr hon―
Moelwyn Huws am lawn noson.
Y DOCTOR GWYNDAF MOELWYN HUGHES.
MYND i'w hynt bob munud o hafa mynd
Ymhell oriau'r gaeaf;
Trwy y "mynd" bydd i Wyndaf
Fynd â'r clod am fendio'r claf.
YR HEN WISGOEDD CYMREIG.
NID oedd neb yn ein dydd ni—ar ysgeifn
Fyr wisgoedd yn ffoli;
Dyna ei hoff fyrdwn hi,
Hen athroniaeth rhieni.
Eu coel ydoedd bod clydwch—eu peisiau'n
Fwy pwysig na harddwch;
Galwent yn ddiogelwch
Own llaes a rygnai'n y llwch.
EILIAD.
DYMA wyt i fyd mater,—un o hyd
O genhadon amser;
Yn eu braw ni wêl llawer
Ond ôl dy fynd ciliad fer.
FY NHAD.
YNOF fi mae calon fad—yn caru
Tinc gwerin fy henwlad;
Hen forwr glân ei fwriad
O Eifion hoff oedd fy nhad.
TROI DALEN.
GWELL ydyw hwyr na hwyrach—medd henair,
Mi ddo' innau'n gallach;
Nid yfaf ddim byd afiach,
A thaga'i byth, hogia' bach.
BARDD YN SAETHU'N GAM.
'R ÔL troi o gylch, 'r ôl try again—wyrgam
Ergyd at wningen;
Aeth y bardd chwilboeth ei ben
A thanio ar eithinen!
HELA AR NOS SUL.
AR nos Sul arno sylwn—a'i dylwyth
Yn dilyn ei bastwn;
Aeaf a haf ym marn hwn
Nid â'r ffesant o'r ffasiwn.
ATEB GWAHODDIAD.
Os yna dof, dy synnu di—wna 'mhwrs
A fy mharsel digri:
Dof â 'ngherdyn os mynni,
A dof â 'mwyd efo mi.
GWAHODDIAD
(I GLAN LLEDR, UTICA).
O TYRD, Glan Lledr, i edrych—am Gwilym,
Ie, galw'n fynych
Trwy'r Brython llon dillynwych,
Neu dyro dro drwy y Drych.
Y SUL YNG NGHYMRU.
MAE i'r Sul yng Nghymru swyn,—O! na foed
I ni fydol ymddwyn
Yn ynfyd ac yn anfwyn
Yn ymyl Efengyl fwyn.
HIRAETH.
O CHÂR edrych a chrwydro—mae ei nyth
Ym môn eithaf atgo;
Oni hed a'm llwyr ado
Fy medd fydd ei ddiwedd o.
NEWID ACEN GEIRIAU.
DIGON hawdd yw dweud gwyn-ŵy—mae yr un
Mor hawdd dwedyd gwynwy;
Eifionwyn a Thryfanwy,
Eifion Wyn a Thryfan—wy.
LLANC A YMYRRAI Â GWAITH TŶ.
FE welir bod gofalon—y mab
Lawer mwy na digon;
Ef yn wir yn y fan hon
Ydyw'r housemaid a'r hwsmon.
ESAU O DDYN!
Os heb ofn drwy'i einioes bu—ar erwau
Arall yn tresbasu,
Yma cadd, wedi lladd llu,
Fedd ei hun i'w feddiannu.
Sul a Gŵyl selog elyn—a fu ef
Â'i wn ar bob tyddyn;
Ond rhoed i natur wedyn
Loes o ddal Esau o ddyn.
SIOP JOHN HUGHES. .
(Dilledydd, Birkenhead)
O SYLLU, os ei allan—i gael siwt
Gweli siop, nid bechan;
Siop Hughes, i fyrdd hysbys fan,
Telerau—Talu Arian.
GANDHI.
MAE India'n gyfan i gyd—yn dy law,
Di Lywydd gwrolfryd;
Heb rwysg bydol na golud,
Gandhi fawr, gwyn yw dy fyd.
TÂN AR GETYN.
DYN wyf heb ddim dawn, Ifan;—i'w hatal
Mae fy nghetyn bychan
Wedi hollol fynd allan—
A be' 'di o heb ei dân?
CADW-MI-GEI.
LLE i geiniog yr hogyn,—anwyldy
Ei gynildeb blwyddyn;
Am "Gadw-mi-gei" wedyn
Pwy ond ef fydd y pen dyn?
YR HOGYN "ECHO."
CAWN roi cnoc ac ail gnocio—â'r knocker
A'r knuckles, a ringio;
Un gnoc i'r hogyn Eco—
Hanner y trwst a wna'r tro.
RHWD.
HAEARN llyfn, a'r hwyr yn llaith,—aeth yn rhwd
Ni thynn yr haul ymaith;
Gloywi dur fydd galed waith
Os daw hwn drosto unwaith.
BEDDARGRAFF.
(Ar fedd fy ewythr John o'r Felinheli).
O'NGWERYD lle'r wy'n angori—y fwyn
Fenai lawn o ddyli
Na gwynt teg ni'm dygant i
Yn ôl i'r Felinheli.
FY ANNWYL CHWAER.
HEB dy eiriau byd oerach,—heb dy wên
Byd unig iawn bellach;
O! mor brin ei gyfrinach
Hebot a fydd, Beti fach.
DEWI MACHNO.
AM bill clir-cywir "Er Co"—ni bu neb
O nod Dewi Machno;
Ond wele'i fud le efô
A'i bridd heb air o'i eiddo.
AR FEDD HEN GODWR CANU.
(YN LLANYSTUMDWY).
TRWY'I sêl a'i dawel duedd—ei goffâd
Gaiff fyw mewn anrhydedd;
Ei fêl oedd sŵn gorfoledd—
Fe lediai fawl hyd ei fedd.
MARW PEDROG.
ADWYTH i'n cenedl ydoedd—ei farw ef
A roes â'i alluoedd
Swm o reswm i'r oesoedd—
Pa awdur gwell? Pedrog oedd.
BEDD MORWR YN LONGMOOR LANE.
LLYWIODD drwy'r prudd a'r llawen—ôl neu 'mlaen
Aml long er yn fachgen;
Siriola sêr a heulwen
Ei harbwr yn Longmoor Lane.
HAWEN.
CAWR awenydd coronog,—un â'i gân
Yn gynnyrch toreithiog,
Oedd yr Hawen talentog,
A mwy na llef o'r Maen Llog.
Yn llenor â'i holl anian—yn ei bwnc
Ac yn bur a diddan;
O'i rasol lwydd rhoes i lân
Athroniaeth aur ei hunan.
Myg gennad nef amcanion—gyda'i ddysg
Ydoedd ef ac eon;
Ddiwinydd wnâi i ddynion
Dreiddio i dir rhyddid Iôn.
PRYDYDD.
WELE'I bridd yng ngwely bro—heb gofeb
Gyfan; mae tant effro
Ei fer gân i fyw ar go'—
Ni bydd hun bedd i honno.
TORRWR BEDDAU.
LLE buos. wrth fynd drosti—ar un cwr
Yn cael dy fodloni
Mae dy weryd hyfryd di,
Ond arall fu'n ei dorri.
GOF.
Er gwaeled gwanned y go',—ac oered
Y garreg sydd arno,
Yn unfryd farn ei henfro
Yr hyn ni thyr a wnaeth o.
ER COF AM DDYFED.
DYFED fad, ei fywyd fu—yn eilun
I hen wyliau Cymru;
Hir gofiaf ei ddyrchafu
I'r Maen Llog er mwyn y llu.
I'w gedyrn olygiadau,—i'w ddifyr
Ddi-hafal ddarlithiau,
A'i lân gerdd ddi-olion gau,
Rhoes y gwir ei wisg orau.
Eglura cwyn a galar cu—y fro
Ei fawr werth a'i allu;
I glir uniawn gloriannu,
Dyn o faint Dyfed ni fu.
Ni wêl ei farn olau fedd—hyd einioes
Y dyner gynghanedd;
Erys o hyd ar ei sedd
Yn nheml hudol melodedd.
MARW LLEW TEGID (1928).
AETH y Llew o blith lluoedd—yr Ŵyl fawr,
I Ŵyl fwy y nefoedd;
Lle nid oes yn oes oesoedd
Ei hafal ef â'i hy floedd.
ER COF AM LEW DEUDRAETH.
I SWYNO'R wlad rhoes yn wledd—oes o lais
Â'i lond o felodedd;
Daw o'i farw glodforedd
Llawn i fyw, mae Llew'n ei fedd.
HEN GYFAILL.
ER Cof am David Jones (Glan Barlwyd), Cae'r Ffridd, Ffestiniog. Efô oedd y gŵr cyntaf i sôn wrthyf am Gynghanedd pan oeddwn yn hogyn yn rybela yn y Gloddfa Ganol ac yn dechrau rhigymu tipyn.
YN dawel cyn Nadolig, gŵyl—ei lên
A'i galonnog Gylchwyl,
Aeth i wlad o fythol hwyl
Yr hen greadur annwyl.
Digon hawdd yw hedeg yn ôl—ar hynt
I'r hen Gloddfa Ganol,
I'w fwynhau yn eofn ŵr
A noddwr cynganeddol.
I'w eiriau nid oes weryd,—mae ei rym
Ar ei ôl yn hyfryd—
Drwy eich hoff ymdrech o hyd
Yr "hen saer" ei hun sieryd.
DR. JOHN WILLIAMS, BRYNSIENCYN.
NEFOLAIDD ydoedd sŵn ei floeddiadau
Yn tynnu mwyniant o hen emynau,
Yr Hen Fryn fu aur-enau—yn ein gwlad
O rin bwriad yr Hen Bŵerau.
GWILYM RHUG.
TYRFA gymysg dysg a dawn—ofidia
Am Gofiadur ffyddlawn;
Yr oedd mewn Cylch amryddawn
I Wilym Rhug le mawr iawn.
CYDYMDEIMLAD.
(Â Mr. G. Dwyfach Jones, yn ei afiechyd).
A MI yn wir yma'n iach—heb ochain,
Heb achos i rwgnach;
Meddwl yr wyf am Ddwyfach
Draw yn ei boen, druan bach.
Euog wyf wrth ei gofio—am na fûm
Yn fwy fy sêl iddo;
Ga'i weled Dwyfach eto
Yn ddyn rhydd i faddau 'nhro?
Clywais ei fod yn codi—da iawn wir,
Daw'n araf drwy ynni
A hir wydnwch i Rodney
Eto mewn nerth atom ni.
Mae gofid, mae gaeafau—onid ŷnt?—
Yn dweud arnom ninnau;
Y gwir eddyf ein gruddiau—
Mynd i oed yr ŷm ein dau!
CYSTADLU.
ER Cof am Mr. Arthur Ogwen Jones, West Kirby. Bu farw ryw fis cyn Eisteddfod Wrecsam, ac yntau
yn fuddugol ar draethawd yno, a deg punt o wobr.
Enillodd hefyd ar draethawd yn Eisteddfod Corwen
ac yntau yn marw ddiwrnod cyn gwybod am ei
lwyddiant.
Et fain fedd a llwyfan fu—am Ogwen
Megis yn cystadlu;
Ac er loes i lengar lu
Ei ddaearfedd a orfu.
Ei ddidranc ieuanc Awen—er hynny
Goronwyd yng Nghorwen;
Ac O! mawrhâi Gymru wen
Ragor fel Arthur Ogwen.
MAEN LLOG RHYDAMAN.
MAEN y gwir er mwyn y gân,—ac einioes
Y Genedl ymhobman,
Er mewn glo, ydyw'r Maen glân—
Maen i'r dim yn Rhydaman.
"BOB TAI'R FELIN."
(Ar ei fuddugoliaeth yn canu cân werin yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor).
TIRF ei olwg yw'r Tai'r Felin—well done
Ei wlad oll gaiff Robin;
Mae'i lais ef fel melys win,
Enwog arwr cân gwerin.
PLENYDD.
PLENYDD hoff! Pa le na ddaeth—o'i ôl ef
Wylofain a hiraeth?
Mwy na'i oes erom a wnaeth
I aml lwyddo Temlyddiaeth.
Ei "Baner" ar bob ennyd—a godai
Uwch ergydion tanllyd;
Taer fu ef rwy ei fywyd
Amlwg ŵr y Temlau i gyd.
Rhoes her ei hun—rhoes sarhad—i frigog
Fragwyr a'u dylanwad;
Huawdl oedd ar hyd y wlad—
Troes y werin trwy siarad.
Dyna oedd y dyn a'i weddi,—cref ffydd
Mewn corff eiddil heini;
Llesteiriodd dull ei stori,
O wers barhaus, lawer sbri.
Ei enw cain a honna cynnydd—dirwest
Fel dihareb beunydd,―
Tra'i thorf faith ar ymdaith rydd
Rhown y blaen i'r "Hen Blenydd."
GADAEL Y BWYD AR Y BWRDD.
Pwy biau'r te, pwy baratôdd—y fath
Fwyd a phwy a'i cafodd?
Am y tram heb lymaid trodd
"Deudraeth" a'r Beirniad Adrodd!
COLLIR TRÊN.
LLAWER tro bu colli'r trên
Yn niwed i ddyn Awen.
Bûm yng Ngŵyl y Prif-Wyliau
O ddydd i ddydd hyd ddydd Iau.
Gwnes gân o eisiau gini
Ar destun ei henglyn hi;
Dwy fugeilgerdd bêr ddi-baid
A thoddaid gwerth ei weiddi.
Ond o ymdroi'n mynd am drên
Siaradais â rhyw hoeden;
Collais fwy na'r gwobrwyon—
Pengoll serch—pwy'n gall a sôn?
Colli'r trên, colli'r eneth,
Pw, pw mi gollais bob peth.
Tan bwys y glaw a'r awel
A heb yr un ambarel,
Rhois dro drwy Westy'r heol
I fysg gwŷr hyddysg ar ôl;
Clywed chwerthin cyfrinach
Ddifyr y beirdd fawr a bach.
Trois innau'n casáu eu sŵn
Am adre gynta' medrwn.
Gwell i'r traed a gollo'r trên
Yw dianc rhag gwawd Awen.
Y BEILI GLAS.
Y BEIRDDION yng Nghob Urddas,—y gwŷr cerdd
Yn gôr cain o'i gwmpas,
Ac ofyddion cyfaddas
Drebla glod i'r Beili Glas.
LLINOS MANOD.[4]
LLINOS Manod sy'n codi—ysig llesg
A'i llais wrth delori;
Rhed angerdd drwy ei cherddi,
A gwin nef, debygwn i.
ARTHUR WILLIAMS
(TENORYDD TALSARNAU).
FEL un o'r plant mae antur—ac enaid
Canu yn dy natur;
Llwyddiant dy lais, perllais pur,
Nid yw'n wyrth—da iawn Arthur.
LLEW OWAIN
(GOLYGYDD "Y Genedl").
I GYWIRO ac arwain—Y Genedl
Sy'n ogoniant Prydain,
Heblaw llenor, cerddor cain
Galluog yw Llew Owain.
CADEIRIO DEWI EMRYS.
(Yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl am Awdl "Dafydd Ap Gwilym.")
EMRYS yw'r enfys eirianfawr—ei gwawl
Ar "Ap Gwilym" glodfawr;
Tremiwn ar wên ein tramawr
Awdur o fewn cadair fawr.
PRIFEIRDD y DE, "J.J.," A "JOB."
DAU o arwyr diwyro—barn i lys
Breiniol iaith nac Esgob;
Ni ddaeara beirdd Ewrob
Feirdd y De, "J.J." a "Job."
CADEIRIO PENLLYN AM AWDL I'R "ALLTUD." 1925.
PA "Alltud" ddaw o'r pellter—am ei hawl?
Oedd ymholiad llawer,
Nes cododd dawn burlawn bêr
Un o'i chedyrn i'w chader.
CADEIRIO BARDD YN LERPWL.
O'I hen wlad ei awen lefn—ni ddena
Y ddinas a'i hanhrefn;
Aed adre, gyda'r dodrefn
Yn dwr o goed ar ei gefn.
WIL IFAN.
BARDD braf ein broydd a bri—i lafur
Yw Wil Ifan heini;
Ac onid braf ei haf hi
Bro'i febyd, ei brif hobi?
CYNAN.
BARDD y Storm drwy bryddest dân—ac arwr
Mawr y Goron Arian;
Prifardd newydd cynnydd cân
Odlau cenedl yw Cynan.
TOMOS BARTLEY.
HEN grydd o ddoniau gwreiddiol,—ni feddem
Neb fyddai mor ddoniol;
'Roedd ei lun a'i ffordd ddi-lol
Yn rhywbeth diarhebol
GOFYN AM DŶ.
O LANDLORD rhoddwch gordial
I awenydd sydd yn sâl.
Ar hyn o bryd uffern bron
Yw ein lle 'nghanol llwon.
Swynol i Sais yw niwl siom
Truenus tri ohonom.
Gwna diawliaid gnwd o elw
O rent cin apartment—pw!
Wiw i Bob fynd i'r lobi,
A gwae i Men ac i mi
Bob adeg fynd i'r gegin
A drysu grog Mistress Green!
O chaf gennych fyg annedd
I fagu 'nheulu mewn hedd
Englyn gewch o 'nghalon gu
A chyfaill i'ch dyrchafu;
Onid e bydd andwyol—
Burach iaith barha o'ch ôl—
Cewch alarnad cyn madaw
O'ch trigfod i'r beddrod baw.
ATEB.
NYDDWR cân, mae'n ddrwg genni
Fod dyn a chorun fel chwi,
Talen, mewn apartment poeth,
Trueni ffit i'r annoeth.
I fardd sy'n werth ei arddel
Heddwch fo, eisteddwch fel
Pe mewn cader o dderw;
Faint mwyn dyn, ohonyn 'nhw
Sy gennych am dlws ganu?
Pen y gamp yw Awen gu.
I bennill rhof dderbyniad
Mae canu yn nheulu 'nhad.
Bydd yn Stryd Glen ymhen y mis
Dŷ neu ddau—dyna ddewis.
Ond ym mhen Ystryd Mynag
Mae'n hen dŷ ni'n mynd yn wag.
Ewch yno i ennill chwaneg
O wobrau'n bentyrrau teg.
Y LANDLORD WRTHO'I HUN.
ONI thâl y rascal rent
Daw elw o ffrwyth ei dalent.
WIL BRYAN.
WIL dirion fel dihareb—erys fyth,
Rhoes fod i aml wireb;
Ni rwydd ildia gwreiddioldeb
Fwy o bur natur yn neb.
Wil annwyl yw ei enw,—Wil yn bur
Hyd lan bedd y marw;
Wil er ei lol, ar ei lw—
Wil "Daniel" ydyw hwnnw.
Cwmni ifanc mewn nofel—mawr ei barch,
Ac mor bur ag angel;
I'w lun da o'n calon dêl
Well done rhwng "Wil" a "Daniel."
PEDR HIR.
DRWY hwn a'i gryfder hynod —iaith ei fron,
Nerth ei fraich a'i ddyrnod,
Ni chaiff afiach gorachod
Belial ran yn Balliol Road.
PANTYCELYN.
(Ar ôl darllen ysgrifau Mr. Saunders Lewis a Dr. Moelwyn Hughes ar Bantycelyn).
I RYMUS ganu'r emyn—bydded hwyl;
Heb ddweud dim yn erbyn
Gallu y ddau, gwell i ddyn
Yw coelio Pantycelyn.
LLUN.
(Adeg Eisteddfod Bangor tynnwyd fy llun gan
Elwyn (Ab Wil Ifan). Anfonwyd yr Englynion hyn
iddo.)
BALCH wyf ohonwyf fy hun,—mi goeliaf
Mai Gwilym yw'r darlun;
Rhyw allu i dynnu dyn
A'i feddyliau fedd Elwyn.
I'w weld mae hunanoldeb—yn gymysg
 hiwmor yr wyneb;
Ac i'm hystad, ni wad neb,
Caf fy het yn cyfateb.
Ond i'w wneud o yn well—ymholi'r wyf
Ymhle'r oedd fy mhibell?
Wele mae fy nwylo 'mhell
Yn eigion fy nwy logell.
Mae hwyl, a phawb yn fy mhen—o'i eisiau
I'w osod ar hoelen;
Beth haws i'r lliaws llawen
Na 'nabod fy ngwasgod wen?
YR ATHRO W. J. GRUFFYDD.
YNG nghwr y De, yng Nghaerdydd,—ar y mur
Mae erom Wyliedydd;
Gwae di'r sawl mewn gwydr sydd,
Gŵr rough yw'r Athro Gruffydd.
MOR dyner ei leferydd,—ei Lenor,
A'i oleuni newydd;
Ond pan fo rhaid, pwy'n fwy rhydd
Ei air garw a'i gerydd?
LLEW TEGID.
CAWN ei hoenedd cynhenid—a'i dalent
Olau'n ddigyfnewid;
Pery ei wres pur a'i wrid—
Onid hogyn yw Tegid?
JOHN OWEN, Y FENNI.
LAWNED yw Gŵyl eleni—o wŷr mawr
A thramorol firi,
Mae John Owen y Fenni
Â'i hwyl braf yn hawlio bri.
PARCH. MILES JONES, TREUDDYN.
Pur weinidog pêr nodyn—yw Miles ffraeth,
Melys ffrind y delyn;
I lonni dwys galon dyn
Duw a'i rhoddodd i Dreuddyn.
HYWEL CEFNI.
AR ddynion a barddoni—hyddysg oedd
Ysgwrs Hywel Cefni;
Dalied i'n hysbrydoli,
Mae ei ddawn wrth fy modd i.
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL (Fel y mae).
O DU'R Awen, dirywiol—yw'r hen Ŵyl,
Er ei nawdd golegol;
Dyma ddau o'i phethau ffôl—
Y gŵr gradd a'r gair gwreiddiol.
ÔL Y PAFILIWN.
DYMA'R cae heb dŷ mawr coedd—yn cynnwys
Gwahanol genhedloedd;
I maes â'r Ŵyl am oesoedd—
Ymaith o'n tir—methiant oedd!
CADAIR WAG. (EISTEDDFOD DINBYCH).
MAE i'n gŵyl gwmni gwiwlan—a gwrol
O ragoraf amcan;
Ond daeth y beirdd glewfeirdd glân
Yn llu ofer i'r llwyfan.
Eleni bobol annwyl—oeraidd iawn
Yw'r farddonol Gylchwyl;
Y gadair wag wedi'r Ŵyl
A werthir dan y morthwyl.
ARWRGERDD.
DIFLAS Sychlyd fel sachlen,―mae eisiau
Rhai misoedd i'w darllen;
A ddaw byth y gerdd i ben?—
Boeth y bo iaith heb awen.
DR. IFOR WILLIAMS.
YN ei waith fel yn ei wythi,—mae rhin
Y Gymraeg yn berwi;
Ifor Hael ei llyfrau hi
Ydyw hwn—rhaid ei honni.
Na feier,—myn fy Awen—heb ofn neb
Fwynhau Cymraeg Ibsen;
Di-wall a hawdd ydyw llên.
"Tŷ Dol" ar bob tudalen.
YR ANRHYDEDDUS DAVID LLOYD GEORGE
MAWREDD doeth a myrdd o'i du—yw Llwyd Siôr,
Tanllyd seraff Cymru;
Ar Brydain gain yn gwenu
Seren o fath Siôr ni fu.
TECWYN.
MAE'N ŵr o ffydd, mwyn yw'r ffaith,—mae ei ddawn
Hamddenol yn berffaith;
Arab wladwr heb lediaith—
Tecwyn yw critic ein iaith.
DAL ATI.
Jê Aitsh "Y Brython" yn riteirio).
MAE'R hen John y Brythonydd—wedi mynd
I maes fel Golygydd;
Ond fe ddaw ar rodfa rydd
Ä'i bin heibio'n ohebydd.
Fe erys i fyfyrio—a thrafod
Pethau rhyfedd eto;
Yn eglur iawn gwelir o
Ar y tŵr er riteirio.
NITH COLLWYN.
MAE Annie May—enw mwyn—eneth gu
Yn nith gall i Gollwyn;
Denu serch wna dawn a swyn
Bywiog wyneb ei gwanwyn.
BOB OWEN, M.A.
BUAN yw Robin Owen,—mae y dyn
Amdano fel mellten;
Gall droi o'r gwyll drwy'i awen
Unrhyw lol yn araul lên.
"YR HEN GORN MAWR."
(WILLIAM JONES, Aelod o Seindorf Nantlle).
MAE'R "Hen Gorn Mawr" yn gyrru 'mhell—ymlaen
Am lawenydd gwellwell;
I'w ddoniau ni ddaw hunell—
Mae'n bound o gorn mewn band gwell.
OWEN TREFOR.
(Fy nai bach o'r Llain Wen, Ffestiniog)
OWEN Trefor, diddordeb—wyt i gyd,
Ti gei bob sirioldeb
Am dy ddod, yn 'nabod neb,
I Lain Wen a'th lon wyneb.
Mor rhwydd y rhedodd blwyddyn— ddifyrrus
O'th hedd fore claerwyn;
Pob pen blwydd hylwydd fel hyn
Fo'n elw it f'anwylyn.
Ymlawenha ymlaen o hyd—ymlaen
Am oleuni hyfryd;
Di-feiau fo dy fywyd,
Fy nai bach, rhag ofn y byd.
RHODD.
Derbyn Gini yn rhodd gan y Caplan Tim Evans,
mab Dwyryd).
MAE Tim yn ffyddlon imi,—ydyw'n wir,
Dyna'i arwydd—gini;
Ei buraf serch brofais i
Trwy dyst aur o'i dosturi.
YMNEILLTUAD ANTHROPOS.
Ai hepian wna Anthropos—ddifyrrodd
Fore, nawn a chyfnos?
Mae y werin am aros—
Od yw'n hwyr, nid yw yn nos.
PEDROG.
(Yn Llywydd "Noson Arfon" yn Lerpwl).
LLONNI gwedd gwlad Llŷn i gyd—a'i lliaws
Wna'r Llywydd gwrolfryd;
Diwyrgam ydyw ergyd
Powdwr gwn Pedrog o hyd.
BYR A PHERT.
(Wrth anfon am lyfr William Gruffydd, Hen Barc).
BYR a Phert heb eiriau ffôl—yw dy lyfr,
Del iawn, meddai pobol;
Hwda dy bris dewisol,
Anfon un, neu dof i'w nôl.
Y WINLLAN LAS.
(LLYFR WIL IFAN).
PERI adwyth wna pryder,—llwyn iraidd
All liniaru tymer;
Dylai pawb gael odlau pêr—ei Winllan,
Ni fedd Wil Ifan feddyliau ofer.
ROWND YR HORN. (PRYDDEST).
YN fy nhŷ hyn a fwynhâf,—i'r rigging
Efo'r hogiau dringaf;
Waeth sut bo'r hin ni flinaf,
"Rownd yr Horn" o hyd yr af!
ENWOGION SIR GAERNARFON
(GAN CYBI).
CROESO i lun Cors y Wlad,—ac i'r lleill
Gewri llawn o brofiad
Yn eu grym yn gu rwymiad,
Dynion hoff adwaenai 'nhad.
"YMWELIAD NAIN A LERPWL."
(GAN DEINIOL FYCHAN).
HAWDD o'u cyrraedd yw caru—yr hen bobl
Geir yn byw yng Nghymru;
Mae'r hen ddynes gynnes gu,
Nain Deiniol, yn ein denu.
Haeddu clodydd clywadwy—mae ei ddawn
Am ddull canmoladwy;
Mor hudol gymeradwy
Deiniol o fath Daniel fwy.

Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.