Neidio i'r cynnwys

Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod I

Oddi ar Wicidestun
Yr Efengyl yn ôl Sant Luc Yr Efengyl yn ôl Sant Luc


wedi'i gyfieithu gan William Morgan
golygwyd gan John Davies, Mallwyd
Pennod II

YR EFENGYL YN OL

SANT LUC.

PENNOD I.

1 Rhagymadrodd yr holl efengyl. 5 Cenhedliad Ioan Fedyddiwr, 26 a Christ. 39 Prophwydol iaeth Elisabeth a Mair am Grist. 57 Genedigaeth ac enwaediad Ioan. 67 Prophwydoliaeth Zacharias am Grist, 78 ac Ioan.

1 YN gymmaint â darfod i lawer gymmeryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddïammeu yn ein plith,

2 Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair:

3 Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifenu mewn trefn atat, O ardderchoccaf Theophilus,

4 Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.

5 Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Judea, ryw offeiriad a’i enw Zacharïas, o ddydd-gylch Abïa: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth.

6 Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddïargyhoedd.

7 Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn ammhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.

8 A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddydd-gylch ef,

9 Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogl-darthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd.

10 A holl lïaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl-darthiad.

11 Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl-darth.

12 A Zacharïas, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno.

13 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Zacharïas: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, â thi a elwi ei enw ef Ioan.

14 A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.

15 Canys mawr fydd efe y'ngolwg yr Arglwydd, ac nid ŷf na gwin na dïod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam.

16 A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw.

17 Ac efe a â o’i flaen ef yn yspryd a nerth Elïas, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod.

18 A dywedodd Zacharïas wrth yr angel. Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys henafgwr wyf fi, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran.

19 A’r angel gan atteb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegi i ti’r newyddion da hyn.

20 Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser.

21 Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Zacharïas: a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml.

22 A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml: ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt; ac efe a arhosodd yn fud.

23 A bu, cyn gynted ag y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef, fyned ohono i’w dŷ ei hun.

24 Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd,

25 Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf, i dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.

26 Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw, i ddinas yn Galilea a'i henw Nazareth,

27 At forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a'i enw Joseph, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair.

28 A'r angel a ddaeth i mewn atti, ac a ddywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyd â thi: bendigaid wyt ymhlith gwragedd.

29 A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn.

30 A dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafr gyd â Duw.

31 Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac a eiwi ei enw ef IESU.

32 Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd' Dduw orseddfa ei dad Dafydd.

33 Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd.

34 A Mair a ddywedodd wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i wr?

35 A'r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a'th gysgoda di: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti, a elwir yn Fab Duw.

36 Ac wele, Elisabeth dy gares, y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw yr chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn ammhlantadwy.

37 Canys gyd â Duw ni bydd dim yn ammhosibl.

38 A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di. A'r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi.

39 A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i'r mynydd-dir ar frys, i ddinas o Juda;

40 Ac a aeth i mewn i dŷ Zacharïas, ac a gyfarchodd well i Elisabeth.

41 A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i'r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o'r Yspryd Glân.

42 A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di.

43 Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi?

44 Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i'm clustiau, y plentyn a lammodd o lawenydd yn fy nghroth.

45 A bendigedig yw yr hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o'r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.

46 ¶ A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhâu yr Arglwydd,

47 A'm hyspryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr.

48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a'm geilw yn wynfỳdedig.

49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef.

50 A'i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a'i hofnant ef.

51 Efe a wnaeth gadernid â'i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon.

52 Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o'u heisteddfäau, ac a ddyrchafodd y rhai isel-radd.

53 Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion.

54 Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd;

55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a'i had, yn dragywydd.

56 A Mair a arhosodd gyd â hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i'w thŷ ei hun.

57 A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab.

58 A'i chymmydogion a'i chenedl a glybu fawrhau o'r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi.

59 A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a'i galwasant ef Zacharïas, yn ôl enw ei dad.

60 A'i fam a atebodd ac a ddywedodd; Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef.

61 Hwythau a d dywedasant wrthi Nid oes neb o'th genedt a elwir ar yr enw hwn.;

62 A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef.

63 Yntau a alwodd am argraphlech, ac a ysgrifenodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll.

64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd', a'i dafod ef, ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.

65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Judea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll.

66 A phawb a'r a'u clywsant, a'u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedydy Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw'r Arglwydd oedd gyd âg ef.

67 A'i dad ef Zacharïas a gyflawnwyd o'r Yspryd Glân, ac a brophwydodd, gafi' ddywedyd;

68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i'w bobl;

69 Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr;

70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd brophwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd:

71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o'n caseion;

72 I gwblhâu'r drugaredd â'n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod:

73 Y llw a dyngodd efe wrth ein. tad-Abraham, ar roddi i ni,

74 Gwedi ein rhyddhâu o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddï ofn,

75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd.

76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn brophwyd i'r Goruchaf: canys ti a âi o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef;

77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i'w bobl, trwy faddeuant o'u pechodau,

78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw, trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r uchelder,

79 I lewyrchu i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.

80 A'r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhâwyd yn yr yspryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i'r Israel.

Nodiadau

[golygu]