Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod IX
| ← Pennod VIII | Yr Efengyl yn ôl Sant Luc wedi'i gyfieithu gan William Morgan golygwyd gan John Davies, Mallwyd |
Pennod X → |
PENNOD IX.
1 Crist yn anfon ei apostolion i wneuthur rhyfeddodau, ac i bregethu. 7 Herod yn chwennych gweled Crist. 10 Crist yn porthi pum mil: 18 yn ymofyn beth yr oedd y byd yn ei dybied am dano: 22 yn rhag-fynegi ei ddioddefaint: 23 yn gosod allan i bawb siampl o'i ddioddefgarwch. 28 Eiwedd-newidiad ef. 37 Mae efe yn iachdu y lloerig: 43 a thrachefn yn rhag-rybuddio ei ddisgyblion am ei ddioddefaint: 46 yn canmol gostyngeiddrwydd; 51 yn gorchymyn iddynt ddangos llarieidd-dra tu ag at bawb, heb chwennych dial. 57 Rhai yn chwennych ei ganlyn ef, ond dan ammod.
1 AC efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl, ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iachâu clefydau.
2 Ac efe a'u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iachâu y rhai cleifion.
3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymmerwch ddim i'r daith, na ffyn, nac ysgrepan, na bara, nac arian; ac na fydded gennych ddwy bais bob un.
4 Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadowch.
5 A pha rai bynnag ni'ch derbyniant, pan eloch allan o'r ddinas honno, ysgydwch hyd yn nod y llwch oddi wrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt.
6 Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethant trwy y trefi, gan bregethu yr efengyl, a iachâu ym. mhob lle.
7 ¶ A Herod y tetrarch a glybu y cwbl oll a wnaethid ganddo; ac efe a betrusodd, am fod rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw;
8 A rhai eraill, ymddangos o Elïas; a rhai eraill, mai prophwyd, un o'r rhai gynt, a adgyfodasai.
9 A Herod a ddywedodd, Ioan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau am dano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.
10 ¶ A'r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo y cwbl a wnaethent. Ac efe a'u cymmerth hwynt, ac a aeth o'r neilldu, i le anghyfannedd yn perthynu i'r ddinas a elwir Bethsaida.
11 A'r bobloedd pan wybuant, a'i dilynasant ef: ac efe a'u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisieu eu hiachâu.
12 A'r dydd a ddechreuodd hwyrhâu; a'r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i'r trefi, ac i'r wlad oddi amgylch, i lettŷa, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd.
13 Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwytta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pùm torth, a dau bysgodyn, oni bydd i ni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll.
14 Canys yr oeddynt ynghylch pùm mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain.
15 Ac felly y gwnaethant; a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd.
16 Ac efe a gymmerodd y pùm torth, a'r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fynu i'r nef, ac a'u bendithiodd hwynt, ac a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'r disgyblion i'w gosod ger bron y bobl.
17 A hwynt-hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friw-fwyd, ddeuddeg basgedaid.
18 ¶ Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddio ei hunan, fod ei ddisgyblion gyd âg ef: ac efe a ofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae y bobl yn dywedyd fy mod i?"
19 Hwythau gan atteb a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ond eraill, mai Elias; ac eraill, mai rhyw brophwyd o'r rhai gynt a adgyfododd.
20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phetr gan atteb a ddywedodd, Crist Duw.
21 Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb;
22 Gan ddywedyd, Mae yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a'i wrthod gan yr henuriaid, a'r arch-offeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd adgyfodi.
23 ¶ Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi.
24 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a'i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o'm hachos i, hwnnw a'i ceidw hi.
25 Canys pa lesâd i ddyn, er ennill yr holl fyd, a'i ddifetha ei hun, neu fod wedi ei golli?
26 Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a'r Tad, a'r angelion sanctaidd.
27 Eithr dywedaf i chwi yn wir, Y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r ni archwaethant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw.
28 ¶ A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi y geiriau hyn, gymmeryd o hono ef Petr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fynu i'r mynydd i weddïo.
29 Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynebpryd ef a newidiwyd, a'i wisg oedd yn wèn ddisglaer.
30 Ac wele, dau wr a gyd-ymddiddanodd âg ef, y rhai oedd Moses ac Elias:
31 Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerusalem.
32 A Phetr, a'r rhai oedd gyd âg ef, oeddynt wedi trymhâu gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a'r ddau wr y rhai oedd yn sefyll gyd âg ef.
33 A bu, a hwy yn ymadaw oddi wrtho ef, ddywedyd o Petr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.
34 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmmwl, ac a'u cysgododd hwynt: a hwynt-hwy a ofnasant wrth fyned o honynt i'r cwmmwl.
35 A daeth llef allan o'r cwmmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab anwyl; gwrandewch ef.
36 Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o'r pethau a welsent.
37 ¶ A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o'r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod âg ef.
38 Ac wele, gwr o'r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athraw, yr wyf yn attolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig-anedig yw.
39 Ac wele, y mae yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yntau yn ddisymmwth yn gwaeddi; ac y mae yn ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef.
40 Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.
41 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlawn a throfaus, pa hyd y byddaf gyd â chwi, ac y'ch goddefaf? dwg dy fab yma.
42 Ac fel yr oedd efe etto yn dyfod, y cythraul a'i rhwygodd ef, ac a'i drylliodd a'r Iesu a geryddodd yr yspryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a'i rhoddes ef i'w dad.
43 ¶ A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai yr Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
44 Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dyn a draddodir i ddwylaw dynion.
45 Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel nas deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn âg ef am y gair hwn.
46 ¶ A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf o honynt.
47 A'r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymmerth fachgennyn, ac a'i gosododd yn ei ymyl,
48 Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio y bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a'm derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnuw a fydd mawr.
49 ¶ Ac Ioan a attebodd ac a ddywedodd, O Feistr, ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid; ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyd â ni.
50 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch iddo: canys y neb nid yw i'n herbyn, trosom ni y mae.
51 ¶ A bu, pan gyflawnwyd y dyddian y cymmerid ef i fynu, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerusalem.
52 Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i barottôi iddo ef.
53 Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tu a Jerusalem.
54 A'i ddisgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynmi di ddywedyd o honom am ddyfod tân i lawr o'r nef, a'u difa hwynt, megis y gwnaeth Elias?
55 Ac efe a drodd, ac a'u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba yspryd yr ydych chwi.
56 Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw. A hwy a aethant i dref arall.
57 ¶ A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.
58 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffauau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr.
59 Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.
60 Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gâd i'r meirw gladdu eu meirw; ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw.
61 Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a'th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gâd i mi yn gyntaf ganu yn iach i'r rhai sydd yn fy nhy.
62 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymmwys i deyrnas Dduw.