Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod VII
| ← Pennod VI | Yr Efengyl yn ôl Sant Luc wedi'i gyfieithu gan William Morgan golygwyd gan John Davies, Mallwyd |
Pennod VIII → |
PENNOD VII.
1 Crist yn caffael mwy o ffydd yn y canwriad, un o'r Cenhedloedd, nag yn yr un o'r Iuddewon: 10 yn iachau ei was ef yn ei absen: 11 yn cyfodi o farw i fyw fab y wraig weddw o Naïn: 19 yn atteb cenhadon Ioan, trwy ddangos ei wyrthiau : 24 yn tystiolaethu i'r bobl ei feddwl am Ioan: 31 yn bwrw bai ar yr Iuddewon, y rhai ni ellid eu hennill na thrwy ymarweddiad Ioan na'r eiddo yr Iesu 36 ac yn dangos trwy achlysur y wraig oedd bechadures pa fodd y mae efe yn gyfaill i bechaduriaid, nid i'w maentumio mewn pechodau, ond i faddeu iddynt eu pechodau, ar eu ffydd a'u hedifeirwch.
1 Ac wedi iddo orphen ei holl ymadroddion lle y clywai y bobl, efe a aeth i mewn i Capernaum.
2 A gwas rhyw ganwriad, yr hwn oedd anwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ym mron marw.
3 A phan glybu efe sôn am yr Iesu, efe a ddanfonodd atto henuriaid yr Iuddewon, gan attolwg iddo ddyfod a iachâu ei was ef.
4 Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a attolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur o honot hyn iddo:
5 Canys y mae yn caru ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd i ni synagog.
6 A'r Iesu a aeth gyd â hwynt. Ac efe weithian heb fod neppell oddi wrth y tŷ, y canwriad a anfonodd gyfeillion atto, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd:
7 O herwydd paham ni'm tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod attat: eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas.
8 Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: ac meddaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.
9 Pan glybu yr Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymmaint ffydd, na ddo yn yr Israel.
10 A'r rhai a anfonasid, wedi idd- ynt ddychwelyd i'r tŷ, a gawsant y gwas a fuasai glaf, yn holliach.
11 ¶ A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Naïn; a chyd âg ef yr aeth llawer o'i ddisgyblion, a thyrfa fawr.
12 A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyd â hi.
13 A'r Arglwydd pan y gwelodd hi, a gymmerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla.
14 A phan ddaeth attynt, efe a gyffyrddodd a'r elor: a'r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant. Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuangc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod.
15 A'r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a'i rhoddes i'w fam. 16 Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, Ymwelodd Duw â'i bobl.
17 A'r gair hwn a aeth allan am dano trwy holl Judea, a thrwy gwbl o'r wlad oddi amgylch.
18 A'i ddisgyblion a fynegasant i Ioan hyn oll.
19 ¶ Ac Ioan, wedi galw rhyw ddau o'i ddisgyblion atto, a anfon- odd at yr Iesu, gan ddywedyd, Ai ti yw yr hwn sydd yn dyfod? ai un arall yr ym yn ei ddisgwyl?
20 A'r gwŷr pan ddaethant atto, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a'n danfonodd ni attat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw yr hwn sydd yn dyfod? ai arall yr ym yn ei ddisgwyl?
21 A'r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau, a phläau, ac ysprydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg.
22 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhâu, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr efengyl.
23 A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi.
24 ¶ Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Beth yr aethoch allan i'r di ffaethwch i'w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt?
25 Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.
26 Eithr beth yr aethoch allan i'w weled? Ai prophwyd? Yn ddïau meddaf i chwi, a llawer mwy na phrophwyd.
27 Hwn yw efe am yr un yr ysgrifenwyd, Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barottoa dy ffordd o'th flaen.
28 Canys meddaf i chwi, Ym mhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes brophwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef.
29 A'r holl bobl a'r oedd yn gwrandaw, a'r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan.
30 Eithr y Phariseaid a'r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gynghor Duw, heb eu bedyddio ganddo.
31 ¶ A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg ?
32 Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth eu gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch.
33 Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwytta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo.
34 Daeth Mab y dyn yn bwytta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid.
35 A doethineb a gyfiawnhâwyd gan bawb o'i phlant.
36 ¶ Ac un o'r Phariseaid a ddymunodd arno fwytta gyd âg ef: ac yntau a aeth i dŷ y Pharisead, ac a eisteddodd i fwytta.
37 Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ y Pharisead, a ddug flwch o ennaint:
38 A chan sefyll wrth ei draed ef o'r tu ol, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a'u hirodd â'r ennaint.
39 A phan welodd y Pharisead, yr hwn a'i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai hwn brophwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw yr hon sydd yn cyffwrdd âg ef: canys pechadures yw hi.
40 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i'w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athraw, dywed.
41 Dau ddyledwr oedd i'r un echwynwr: y naill oedd arno bùm càn ceiniog o ddyled, a'r llall ddeg a deugain.
42 A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o'r rhai hyn a'i câr ef yn fwyaf?
43 A Simon a attebodd ac a ddywedodd, Yr wyf fi yn tybied mai yr hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist.
44 Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A weli di y wraig hon? mi a ddeuthum i'th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i'm traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen.
45 Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddeuthum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed.
46 Fy mhen âg olew nid iraist: ond hon a irodd fy nhraed âg ennaint.
47 O herwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei haml bechodau hi; oblegid hi a garodd yn fawr: ond y neb y maddeuer ychydig iddo, a gâr ychydig.
48 Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau.
49 A'r rhai oedd yn cyd-eistedd i fwytta a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd yn maddeu pechodau hefyd?
50 Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd a'th gadwodd; dos mewn tangnefedd.