Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod XI
| ← Pennod X | Yr Efengyl yn ôl Sant Luc wedi'i gyfieithu gan William Morgan golygwyd gan John Davies, Mallwyd |
Pennod XII → |
PENNOD XI.
1 Crist yn dysgu gweddio: a hynny heb ddiffygio: 11 gan sicrhau y rhydd Duw felly i ni bethau da. 14 Wrth fwrw allan gythraul mud, y mae efe yn ceryddu y Phariseaid cablaidd: 28 ac yn dangos pwy sydd fendigedig: 29 ac yn pregethu i'r bobl; 37 ac yn argyhoeddi ffug sancteiddrwydd y Phariseaid, a'r ysgrifenyddion, a'r cyfreithwyr.
A BU, ac efe mewn rhyw fan yn gweddio, pan beidiodd, ddywedyd o un o'i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd Ioan i'w ddisgyblion.
2 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
3 Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol.
4 A maddeu i ni ein pechodau : canys yr ydym ninnau yn maddeu i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.
5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy o honoch fydd iddo gyfaill, ac a à atto hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn;
6 Canys cyfaill i mi a ddaeth attaf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i'w ddodi ger ei fron ef:
7 Ac yntau oddi mewn a ettyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae y drws yn gauad, a'm plant gyd â mi yn y gwely; ni allaf godi a'u rhoddi i ti.
8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; etto o herwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynnifer ag y sydd arno eu heisieu.
9 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi.
10 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i'r hwn sydd yn curo, yr agorir.
11 Os bara a ofyn mab i un o honoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarph yn lle pysgodyn?
12 Neu os gofyn efe ŵy, a ddyry efe ysgorpion iddo?
13 Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i'ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r nef yr Yspryd Glân i'r rhai a ofyno ganddo?
14 ¶ Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i'r cythraul fyned allan, i'r mudan lefaru; a'r bobloedd a ryfeddasant.
15 Eithr rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.
16 Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o'r nef.
17 Yntau, yn gwybod en meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir; a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth.
18 Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelzebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid.
19 Ac os trwy Beelzebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.
20 Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diammeu ddyfod teyrnas Dduw attoch chwi.
21 Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae yr hyn sydd ganddo mewn heddwch:
22 Ond pan ddel un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef.
23 Y neb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn a'r neb nid yw yn casglu gyd â mi, sydd yn gwasgaru. 24 Pan êl yr yspryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorphwysdra : a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan.
25 A phan ddel, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a'i drefnu.
26 Yna yr â efe, ac y cymmer atto saith yspryd eraill gwaeth nag ef ei hun; a hwy a ânt i mewn, ac a arhosant yno: a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na'i ddechreuad.
27 ¶ A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a'th ddug di, a'r bronnau a sugnaist.
28 Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrandaw gair Duw, ac yn ei gadw.
29 Ac wedi i'r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd daywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonas y prophwyd.
30 Canys fel y bu Jonas yn arwydd i'r Ninifeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i'r genhedlaeth hon.
31 Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â gwyr y genhedlaeth hon, ac a'u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrandaw doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma.
32 Gwŷr Ninife a godant i fynu yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt edifarhâu wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma.
33 Ac nid yw neb wedi goleu canwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo y rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.
34 Canwyll y corph yw y llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorph hefyd fydd oleu; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorph hefyd fydd tywyll.
35 Edrych am hynny rhag i'r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch.
36 Os dy holl gorph gan hynny sydd oleu, heb un rhan dywyll yn ddo, bydd y cwbl yn oleu, megis pan fo canwyll â'i llewyrch yn dy oleuo di.
37 ¶ Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gyd âg ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwytta.
38 A'r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen ciniaw.
39 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhâu y tu allan i'r cwppan a'r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.
40 O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd o fewn hefyd?
41 Yn hytrach rhoddwch elusen o'r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lân i chwi.
42 Eithr gwae chwi y Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymmu y mintys, a'r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.
43 Gwae chwi y Phariseaid! canys yr ydych yn caru y prif-gadeiriau yn y synagogau, a chyfarch yn y marchnadoedd.
44 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! am eich bod fel beddau anamlwg, a'r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.
45 ¶ Ac un o'r cyfreithwyr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Athraw, wrth ddywedyd hyn, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd.
46 Yntau a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr! canys yr ydych yn llwytho dynion â beichiau anhawdd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd â'r beichiau âg un o'ch bysedd.
47 Gwae chwychwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau y prophwydi, a'ch tadau chwi a'u lladdodd hwynt.
48 Yn wir yr ydych yn tystiolaethu, ac yn gyd-foddlawn i weithredoedd eich tadau: canys hwynt-hwy yn wir a'u lladdasant hwy, a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt.
49 Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw, Anfonaf attynt brophwydi ac apostolion, a rhai o honynt a laddant ac a erlidiant:
50 Fel y gofyner i'r genhedlaeth hon waed yr holl brophwydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y byd;
51 O waed Abel hyd waed Zacharias, yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a'r deml: diau meddaf i chwi, Gofynir ef i'r genhedlaeth hon.
52 Gwae chwychwi, y cyfreithwyr! canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a'r rhai oedd yn myned a waharddasoch chwi.
53 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid fod yn daer iawn daer iawn arno, a'i annog i ymadrodd am lawer o bethau;
54 Gan ei gynllwyn ef, a cheisio hela rhyw beth o'i ben ef, i gael achwyn arno.