Neidio i'r cynnwys

Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod XII

Oddi ar Wicidestun
Pennod XI Yr Efengyl yn ôl Sant Luc


wedi'i gyfieithu gan William Morgan
golygwyd gan John Davies, Mallwyd
Pennod XIII

PENNOD XII.

1 Crist yn pregethu i'w ddisgyblion am ochel rhagrith, ac ofn wrth ddatgan ei athrawiaeth ef: 13 yn rhybuddio y bobl i ochelyd cybydd-dra, trwy ddammeg y gwr goludog a adeiladodd ysguboriau mwy. 22 Ni wasanaetha i ni fod yn rhy ofalus am bethau bydol; 31 ond ceisio teyrnas Dduw, 33 a rhoddi elusen, 36 a bod yn barod i agoryd in Harglwydd pan guro, pa bryd bynnag y delo. 41 Y dylai gweinidogion Crist edrych ar eu siars, 49 a disgwyl am erlid. 54 Rhaid i'r bobl dderbyn yr amser hwn o ras, 58 oblegid peth ofnadwy yw marw heb gymmodi.

YN y cyfamser, wedi i fyrddiwn bobl ymgasglu ynghyd, hyd oni ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith.

2 Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nas datguddir; na dirgel, a'r nis gwybyddir.

3 Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y goleu; a'r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai.

4 Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corph, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i'w wneuthur.

5 Ond rhag-ddangosaf i chwi pwy a ofnwch Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch.

6 Oni werthir pump o adar y tô er dwy ffyrling? ac nid oes un o hon- ynt mewn anghof ger bron Duw:

7 Ond y mae hyd yn nod blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch yr ydych chwi yn well na llawer o adar y tô.

8 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a'm haddefo i ger bron dynion, Mab y dyn hefyd a'i haddef yntau ger bron angelion Duw.

9 A'r hwn a'm gwado i ger bron dynion, a wedir ger bron angelion Duw.

10 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i'r neb a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir.

11 A phan y'ch dygant i'r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a'r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a atteboch, neu beth a ddywedoch: 12 Canys yr Yspryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd.

13 A rhyw un o'r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athraw, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth.

14 Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a'm gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi?

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd-dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.

16 ¶ Ac efe a draethodd wrthynt ddammeg, gan ddywedyd, Tir rhyw wr goludog a gnydiodd yn dda.

17 Ac efe a ymresymmodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo?

18 Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a'm dâ.

19 A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt ddå lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynydd- oedd: gorphwys, bwytta, ŷf, bydd lawen.

20 Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a barottoaist?

21 Felly y mae yr hwn sydd yn trysori iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw.

22 ¶ Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymmerwch ofal am eich bywyd, beth a fwyttaoch; nac am eich corph, beth a wisgoch.

23 Y mae y bywyd yn fwy na'r ymborth, a'r corph yn fwy na'r dillad.

24 Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i'r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na'r adar?

25 A phwy o honoch, gan gymmeryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli?

26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymmeryd gofal am y lleill?

27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn.

28 Ac os yw Duw felly yn dilladu y llysieuyn, yr hwn sydd heddyw yn y maes, ac y fory a deflir i'r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd?

29 Chwithau na cheisiwch beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch ammheüus.

30 Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisieu y pethau hyn.

31 ¶ Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a'r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg.

32 Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i'ch Tad roddi i chwi y deyrnas.

33 Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf.

34 Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd.

35 Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu, a'ch canhwyllau wedi eu goleu:

36 A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o'r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd.

37 Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddel, yn neffro: yn wir, meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwytta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy.

38 Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth, ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a'u cael hwynt felly, gwyn eu byd y gweision hynny.

39 A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gwr y tŷ pa awr y deuai y lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dy trwodd.

40 A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn. 41 TA Phetr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddammeg hon, ai wrth bawb hefyd?

42 A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw y goruchwyliwr ffyddlawn a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd?

43 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddel, yn gwneuthur felly.

44 Yn wir meddaf i chwi, Efe a'i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl a'r y sydd eiddo.

45 Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechreu curo y gweision a'r morwynion, a bwytta ac yfed, a meddwi;

46 Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyd â'r anffyddloniaid.

47 A'r gwas hwnnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbarottodd, ac ni wnaeth yn ol ei ewyllys ef, a gurir à llawer ffonnod.

48 Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonnodiau, a gurir âg ychydig fonnodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynir ganddo; a chyd a'r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynant ganddo.

49 Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear: a pheth a fynnaf os cynneuwyd ef eisoes?

50 Eithr y mae gennyf fedydd i'm bedyddio âg ef; ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orphener!

51 Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i'w roddi ar y ddaear? nag ê, meddaf i chwi; ond yn hytrach ymrafael:

52 Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri.

53 Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a'r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch, a'r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.

54 ¶ Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmmwl yn codi o'r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae.

55 A phan weloch y deheu-wynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres: ac fe fydd.

56 O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynebpryd y ddaear a'r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?

57 A phaham nad ydych, ïe, o honoch eich hunain, yn barnu yr hyn sydd gyfiawn?

58 ¶ Canys tra fyddech yn myned gyd a'th wrthwynebwr at lywodraethwr, gwna dy oreu ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog, ac i'r swyddog dy daflu yng ngharchar:

59 Yr wyf yn dywedyd i ti, Nad âi di ddim oddi yno, hyd oni thelych, ïe, yr hatling eithaf.

Nodiadau

[golygu]