Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod XIV
| ← Pennod XIII | Yr Efengyl yn ôl Sant Luc wedi'i gyfieithu gan William Morgan golygwyd gan John Davies, Mallwyd |
Pennod XV → |
PENNOD XIV.
2 Crist yn iachau y dropsi ar y Sabbath: 7 yn dysgu gostyngeiddrwydd; 12 a gwneuthur ciniawau ir tlodion: 16 wrth ddammeg y supper mawr, yn dangos pa fodd y cauir dynion d meddyliau bydol, y rhai a ddiystyrant air Duw, allan o'r nef. 25 Rhaid i'r rhai a fynnai fod yn ddisgyblion iddo, i ddwyn eu croes, a gwneuthur eu cyfrifon ym mlaen llaw; rhag iddynt trwy gywilydd syrthio oddi wrtho ar ol hynny, 34 a myned yn gwbl ddilês, fel halen wedi colli ei flas.
BU hefyd, pan ddaeth efe i dŷ un o bennaethiaid y Phariseaid ar y Sabbath, i fwytta bara, iddynt hwythau ei wylied ef.
2 Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o'r dropsi.
3 A'r Iesu gan atteb a lefarodd wrth y cyfreithwyr a'r Phariseaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iachâu ar y Sabbath?
4 A thewi a wnaethant. Ac efe a'i cymmerodd atto, ac a'i hiachaodd ef, ac a'i gollyngodd ymaith;
5 Ac a attebodd iddynt hwythau, ac a ddywedodd, Asyn neu ŷch pa un o honoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd nis tyn ef allan ar y dydd Sabbath?
6 Ac ni allent roi atteb yn ei erbyn ef am y pethau hyn.
7 ¶ Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion ddammeg, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf; gan ddywedyd wrthynt,
8 Pan y'th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle uchaf, rhag bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo;
9. Aci hwn a'th wahoddodd di ac yntau ddyfod, a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn; ac yna dechreu o honot ti trwy gywilydd gymmeryd y lle isaf.
10 Eithr pan y'th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf; fel pan ddelo yr hwn a'th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cyfaill, eistedd yn uwch i fynu: yna y bydd i ti glod yngwydd y rhai a eisteddant gyd â thi ar y bwrdd.
11 Canys pob un a'r a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
12 ¶ Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a'i gwahoddasai ef, Pan wnelych giniaw neu swpper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th geraint, na'th gymmydogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti.
13 Eithr pan wnelych wledd, galw y tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:
14 A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn adgyfodiad y rhai cyfiawn.
15 A phan glywodd rhyw un o'r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwyttao fara yn nheyrnas Dduw.
16 Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw wr a wnaeth swpper mawr, ac a wahoddodd lawer:
17 Ac a ddanfonodd ei was bryd swpper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod.
18 A hwy oll a ddechreuasant yn un-fryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned a'i weled: attolwg i ti, cymmer fi yn esgusodol.
19 Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bùm iau o ychain, ac yr ydwyf yn myned i'w profi hwynt: attolwg i ti, cymmer fi yn esgusodol.
20 Ac arall a ddywedodd, Mi a brïodais wraig; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod.
21 A'r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gwr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion.
22 A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynaist; ac etto y mae lle.
23 A'r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i'r prifffyrdd a'r cacau, a chymmell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.
24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o'r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o'm swpper i.
25 ¶ A llawer o bobl a gyd-gerddodd âg ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt,
26 Os daw neb attaf fi, ac ni chasao ei dad, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ïe, a'i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.
27 A phwy bynnag ni ddycco ei groes, a dyfod ar fy ol i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.
28 ¶ Canys pwy o honoch chwi a'i fryd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw y draul, a oes ganddo a'i gorpheno?
29 Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orphen, ddechreu o bawb a'i gwelant ei watwar ef,
30 Gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orphen.
31 Neu pa frenhin yn myned i ryfel yn erbyn brenhin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe à deng mil gyfarfod a'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef âg ugain mil?
32 Ac os amgen, tra fyddo efe ym mhell oddi wrtho, efe a enfyn gennadwri, ac a ddeisyf ammodau heddwch.
33 Felly hefyd, pob un o honoch chwithau nid ymwrthodo â chymmaint oll ag a feddo, ni all fod ddisgybl i mi. yn
34 ¶ Da yw yr halen: eithro bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef?
35 Nid yw efe gymmwys nac i'r tir, nac i'r dommen; ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.