Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod XVI
| ← Pennod XV | Yr Efengyl yn ôl Sant Luc wedi'i gyfieithu gan William Morgan golygwyd gan John Davies, Mallwyd |
Pennod XVII → |
PENNOD XVI.
1 Dammeg y goruchwyliwr anghyfiawn. 14 Crist yn ceryddu rhagrith y Phariseaid cybyddlyd. 19 Y glwth goludog, a Lazarus y cardottyn.
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw wr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei ddâ ef.
2 Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn oruchwyliwr.
3 A'r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf: cloddio nis gallaf, a chardotta sydd gywilyddus gennyf.
4 Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y'm bwrier allan o'r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i'w tai.
5 Ac wedi iddo alw atto bob un o ddyledwyr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnat ti o ddyled i'm harglwydd?
6 Ac efe a ddywedodd, Càn mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifena ddeg a deugain.
7 Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Càn mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen, ac ysgrifena bedwar ugain.
8 A'r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni.
9 Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o'r mammon anghyfiawn: fel, pan fo eisieu arnoch, y'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll.
10 Y neb sydd ffyddlawn yn y lleiaf, sydd ffyddlawn hefyd mewn llawer; a'r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.
11 Am hynny, oni buoch ffyddlawn yn y mammon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud?
12 Ac oni buoch ffyddlawn yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun?
13 Ni ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mammon.
14 A'r Phariseaid hefyd, y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a'i gwatwarasant ef.
15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi yw y rhai sydd yn eich cyfiawnhâu eich hunain ger bron dynion; eithr Duw a ŵyr eich calonnau chwi: canys y peth sydd uchel gyd â dynion, sydd ffiaidd ger bron Duw.
16 Y gyfraith a'r prophwydi oedd hyd Ioan: er y pryd hwnnw y pregethir teyrnas Dduw, a phob dyn sydd yn ymwthio iddi.
17 A haws yw i nef a daear fyned heibio, nag i un tippyn o'r gyfraith ballu.
18 Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a brïodo un arall, y mae efe yn godinebu; a phwy bynnag a briodo yr hon a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gwr, y mae efe yn godinebu.
19 ¶ Yr oedd rhyw wr goludog, ac a wisgid & phorphor a llian main, ac yr oedd yn cymmeryd byd da yn helaethwych beunydd:
20 Yr oedd hefyd ryw gardottyn, a'i enw Lazarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd,
21 Ac yn chwennychu cael ei borthi â'r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gwr cyfoethog; ond y cwn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef.
22 A bu, i'r cardottyn farw, a'i ddwyn gan yr angelion i fynwes Abraham. A'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd:
23 Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes.
24 Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O. dad Abraham, trugarhâ wrthyf, a danfon Lazarus, i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a'm poenir yn y fflam hon.
25 Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lazarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau.
26 Ac heb law hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhâwyd gagendor mawr: fel na allo y rhai a fynnent, dramwy oddi yma attoch chwi; na'r rhai oddi yna, dramwy attom ni.
27 Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn attolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon o honot ef i dy fy nhad;
28 Canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod o honynt hwythau hefyd i'r lle poenus hwn.
29 Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a'r prophwydi; gwrandawant arnynt hwy.
30 Yntau a ddywedodd, Nag ê, y tad Abraham: eithr os â un oddi wrth y meirw attynt, hwy a edifarhânt.
31 Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a'r prophwydi, ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw.