Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod XVII
| ← Pennod XVI | Yr Efengyl yn ôl Sant Luc wedi'i gyfieithu gan William Morgan golygwyd gan John Davies, Mallwyd |
Pennod XVIII → |
PENNOD XVII.
1 Crist yn dysgu gochelyd achosion rhwystr. 3 Am faddeu bawb i'w gilydd. 6 Gallu ffydd. 7 Pa fodd yr ydym ni yn rhwymedig i Dduw, ac nid efe ini. 11 Y mae yn iachau deg o wahangleifion. 20 Am deyrnas Dduw, a dyfodiad Mab y dyn.
Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Ni all na ddôl rhwystrau: ond gwae efe trwy yr hwn y deuant!
2 Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef; a'i daflu i'r môr, nag iddo rwystro un o'r rhai bychain hyn.
3 ¶ Edrychwch arnoch eich hunain. Os pecha dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef; ac os edifarhâ efe, maddeu iddo.
4 Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith yn y dydd droi attat, gan ddywedyd, Y mae yn edifar gennyf; maddeu iddo.
5 A'r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd ni.
6 A'r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai gennych ffydd gymmaint a gronyn o had mwstard, chwi a ellych ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhâi i chwi.
7 Eithr pwy o honoch chwi ag iddo was yn aredig, neu yn bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o'r maes, Dos ac eistedd i lawr i fwytta?
8 Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i swpperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwytta ac yfed; ac wedi hynny y bwyttêi ac yr yfi dithau?
9 Oes ganddo ddiolch i'r gwas hwnnw, am wneuthur o hono y pethau a orchymynasid iddo? Nid wyf yn tybied.
10 Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchymynwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.
11 ¶ Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerusalem, fyned o hono ef trwy ganol Samaria a Galilea.
12 A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu âg ef ddeg o wŷr gwahan-gleifion, y rhai a safasant o hirbell:
13 A hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu Feistr, trugarhá wrthym.
14 A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a'u glanhawyd hwynt.
15 Ac un o honynt, pan welodd ddarfod ei iachâu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel.
16 Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd efe.
17 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, Oni lanhâwyd y deg? ond pa le y mae y naw?
18 Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn.
19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: dy ffydd a'th iachaodd.
20 ¶ A phan ofynodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl.
21 Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele accw: canys wele, teyrn- as Dduw, o'ch mewn chwi y mae.
22 Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwennychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch.
23 A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; neu, Wele accw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt.
24 Canys megis y mae y fellten a felltenna o'r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef.
25 Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a'i wrthod gan y genhedlaeth hon.
26 Ac megis y bu yn nyddiau Nöe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn.
27 Yr oeddynt yn bwytta, yn yfed, yn gwreicca, yn gŵra, hyd y dydd yr aeth Nöe i mewn i'r arch; a daeth, y diluw, ac a'u difethodd hwynt oll.
28 Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot: yr oeddynt yn bwytta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;
29 Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, y gwlawiodd tân a brwm- stan o'r nef, ac a'u difethodd hwynt oll:
30 Fel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.
31 Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a'i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgyned i'w cymmeryd hwynt; a'r hwn a fyddo yn y maes, yr un ffunud na ddychweled yn ei ol
32 Cofiwch wraig Lot.
33 Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a'i cyll; a phwy bynnag a'i cyll, a'i bywhâ hi.
34 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.
35 Dwy a fydd yn malu yn yr un lle; y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.
36 Dau a fyddant yn y maes; y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.
37 A hwy a attebasant ac a ddywedasant wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le bynnag y byddo y corph, yno yr ymgasgl yr eryrod.