Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod XVIII
| ← Pennod XVII | Yr Efengyl yn ôl Sant Luc wedi'i gyfieithu gan William Morgan golygwyd gan John Davies, Mallwyd |
Pennod XIX → |
PENNOD XVIII.
3 Am y weddw daer. 9 Am y Pharisead a'r publican. 15 Dwyn plant at Grist. 18 Y llywydd a fynnai ganlyn Crist, ond a rwystrir gan ei gyfoeth. 28 Gwobr y rhai a ymadawant dr cwbl oll er ei fwyn ef. 31 Y mae efe yn rhagfynegi ei farwolaeth; 35 ac yn rhoddi i ddyn dall ei olwg.
AC efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, fod yn rhaid gweddio yn wastad, ac heb ddiffygio;
2 Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn.
3 Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth atto ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr.
4 Ac efe nis gwnai dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn;
5 Etto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a'i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a'm syfrdanu i.
6 A'r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyflawn.
7 Ac oni ddïal Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt?
8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear?
9 Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill:
10 Dau wr a aeth i fynu i'r demli weddïo; un yn Pharisead, a'r llall yn bublican.
11 Y Pharisead o'i sefyll a weddiodd rhyngddo ag ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith.
12 Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymmu cymmaint oll ag a feddaf.
13 A'r publican, gan sefyll ohirbell, ni fynnai gymmaint a chodi ei olygon tu a'r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur.
14 Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i'w dy wedi ei gyfiawnhâu yn fwy na'r llall: canys pob un a'r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a'r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
15 ¶ A hwy a ddygasant atto blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r disgyblion pan welsant, a'u ceryddasant hwy.
16 Eithr yr Iesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Gadêwch i'r plant bychain ddyfod attaf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw.
17 Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.
18 ¶ A rhyw lywodraethwr a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Athraw da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragywyddol?
19 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y'm gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw.
20 Ti a wyddost y gorchymynion, Na odineba, Na ladd, Na ladratta, Na ddwg gam dystiolaeth, Anrhydedda dy dad a'th fam.
21 Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o'm hieuengetid.
22 A'r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth etto yn ol i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.
23 Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn.
24 A'r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!
25 Canys haws yw i gamel fyned trwy grai y nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.
26 A'r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig?
27 Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd ammhosibl gyd â dynion, sydd bosibl gyd â Duw.
28 A dywedodd Petr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di.
29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rïeni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,
30 A'r nis derbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol.
31 ¶ Ac efe a gymmerodd y deuddeg atto, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem; a chyflawnir pob peth a'r sydd yn ysgrifenedig trwy y prophwydi am Fab y dyn.
32 Canys efe a draddodir i'r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a ammherchir, ac a boerir arno:
33 Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.
34 A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.
35 ¶ A bu, ac efe yn nesâu at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardotta:
36 A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynodd pa beth oedd hyn.
37 A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nazareth oedd yn myned heibio.
38 Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
39 A'r rhai oedd yn myned o'r blaen a'i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
40 A'r Iesu a safodd, ac a orchymynodd ei ddwyn ef atto. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynodd iddo,
41 Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael o honof fy ngolwg.
42 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymmer dy olwg: dy ffydd a'th iachaodd.
43 Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A'r holl bobl, pan welsant, a roisant foliant i Dduw.