Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod XX
| ← Pennod XIX | Yr Efengyl yn ôl Sant Luc wedi'i gyfieithu gan William Morgan golygwyd gan John Davies, Mallwyd |
Pennod XXI → |
PENNOD XX.
1 Crist yn profi ei awdurdod, trwy ymofyn am fedydd Ioan. 9 Dammeg y winllan. 19 Am roddi teyrnged i Cesar. 27 Y mae efe yn gorchfygu y Saduceaid, y rhai a wadent yr adgyfodiad. 41 Y modd y mae Crist yn fab Dafydd. 45 Y mae efe yn rhybuddio ei ddisgyblion i ochelyd yr ysgrifenyddion.
A DIGWYDDODD ar un o'r dyddiau hynny, ac efe yn dysgu y bobl yn y deml, ac yn pregethu yr efengyl, ddyfod arno yr arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion, gyd â'r henuriaid,
2 A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw yr hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon?
3 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi:
4 Bedydd Ioan, ai o'r nef yr ydoedd, ai o ddynion?
5 Eithr hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef?
6 Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a'n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl-gredu fod Ioan yn brophwyd.
7 A hwy a attebasant, nas gwyddent o ba le.
8 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
9 ¶ Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddammeg hon wrth y bobl: Rhyw wr a blannodd winllan, ac a'i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser.
10 Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i hanfonasant ymaith yn wag-law.
11 Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a ammharchasant hwnnw hefyd, ac a'i hanfonasant ymaith yn wag-law.
12 Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a'i bwriasant ef allan.
13 Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy anwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef.
14 Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymmasant a'u gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn eiddom ni.
15 A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?
16 Efe a ddaw, ac a ddifetha y llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na atto Duw.
17 Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifenwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl?
18 Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef.
19 ¶ A'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylaw arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddammeg hon.
20 A hwy a'i gwyliasant ef, ac a yrrasant gynllwynwyr, y rhai a gymmerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i'w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw.
21 A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd.
22 Ai cyfreithlawn i ni roi teyrnged i Cesar, ai nid yw?
23 Ac efe a ddeallodd eu cyfrwysdra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi?
24 Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraph pwy sydd arni? A hwy a attebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cesar.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Cesar, a'r eiddo Duw i Dduw.
26 Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef ger bron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei atteb ef, hwy a dawsant â sôn.
27 ¶ A rhai o'r Saduceaid (y rhai sydd yn gwadu nad oes adgyfodiad,) a ddaethant atto ef, ac a ofynasant iddo,
28 Gan ddywedyd, Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni, Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw o hono yn ddiblant, ar gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi had i'w frawd.
29 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerodd wraig, ac a fu farw yn ddiblant.
30 A'r ail a gymmerth y wraig, ac a fu farw yn ddiblant.
31 A'r trydydd a'i cymmerth hi; ac yr un ffunud y saith hefyd: ac ni adawsant blant, ac a fuont feirw.
32 Ac yn ddiweddaf oll bu farw y wraig hefyd.
33 Yn yr adgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy un o honynt yw hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.
34 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrthynt, Plant y byd hwn sydd yn gwreicca, ac yn gŵra:
35 Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnnw, a'r adgyfodiad oddi wrth y meirw, nid ydynt nac yn gwreicca, nac yn gŵra:
36 Canys nis gallant farw mwy: oblegid cyd-stad ydynt a'r angelion; a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr adgyfodiad.
37 Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob.
38 Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.
39 Yna rhai o'r ysgrifenyddion gan atteb a ddywedasant, Athraw, da y dywedaist.
40 Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef.
41 ¶ Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod Crist yn fab i Dafydd?
42 Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Psalmau, Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,
43 Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i'th draed di.
44 Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?
45 Ac a'r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
46 Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad lleision, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif-gadeiriau yn y synagogau, a'r prif-eisteddleoedd yn y gwleddoedd;
47 Y rhai sydd yn llwyr-fwytta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir-weddio: y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.