Neidio i'r cynnwys

Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod XXI

Oddi ar Wicidestun
Pennod XX Yr Efengyl yn ôl Sant Luc


wedi'i gyfieithu gan William Morgan
golygwyd gan John Davies, Mallwyd
Pennod XXII

PENNOD XXI.

1 Crist yn canmol y weddw dlawd: 5 yn rhagfynegi dinystr y deml a dinas Jerusalem: 25 a'r arwyddion a fydd o flaen y dydd diweddaf: 34 ac yn eu hannog hwy i fod yn wyliadurus. 37 Arfer Crist tra fu yn Jerusalem.

AC wedi iddo edrych i fynu, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r drysorfa.

2 Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.

3 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll:

4 Canys y rhai hyn oll o'r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymmau Duw: eithr hon o'i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.

5 ¶ Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml, ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd,

6 Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw y dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a'r nis dattodir.

7 A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo y pethau hyn ar ddyfod?

8 Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; a'r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hol hwynt.

9 A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymmerwch fraw: canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man.

10 Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:

11 A daear-grynfäau mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o'r nef.

12 Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylaw arnoch, ac a'ch erlidiant, gan eich traddodi i'r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn ger bron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i.

13 Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth.

14 Am hynny rhoddwch eich bryd ar na rag-fyfyrioch beth a atteboch: y deml a Jerusalem.

15 Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na'i gwrth-sefyll.

16 A chwi a fradychir, ie, gan rïeni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai o honoch y parant farwolaeth.

17 A chas fyddwch gan bawb o herwydd fy enw i.

18 Ond ni chyll blewyn o'ch pen chwi.

19 Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.

20 A phan weloch Jerusalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfannedd-dra hi wedi nesâu.

21 Yna y rhai fyddant yn Judea, ffoant i'r mynyddoedd; a'r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant; a'r rhai a fyddant yn y meusydd, nac elont i mewn iddi.

22 Canys dyddiau dial yw y rhai hyn, i gyflawni yr holl bethau a ysgrifenwyd.

23 Eithr gwae y rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn.

24 A hwy a syrthiant trwy fin y. cleddyf, a chaeth-gludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerusalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd.

25 ¶ A bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng-gynghor; a'r môr a'r tonnau yn rhuo;

26 A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.

27 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmmwl, gyd â gallu a gogoniant mawr.

28 A phan ddechreuo y pethau hyn ddyfod, edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesâu.

29 Ac efe a ddywedodd ddammeġ iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a'r holl brennau;

30 Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch ac a wyddoch o honoch eich hun, fod yr haf yn agos.

31 Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.

32 Yn wir meddaf i chwi, Nid â yr oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.

33 Y nef a'r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

34 ¶ Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonnau un amser drymhâu trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth;

35 Canys efe a ddaw, fel magl, ar warthaf pawb oll a'r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear.

36 Gwyliwch gan hynny a gweddiwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddïange rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mab y dyn.

37 A'r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a'r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olew-wydd.

38 A'r holl bobl a fore-gyrchent atto ef yn y deml, i'w glywed ef.

Nodiadau

[golygu]