Neidio i'r cynnwys

Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod XXII

Oddi ar Wicidestun
Pennod XXI Yr Efengyl yn ôl Sant Luc


wedi'i gyfieithu gan William Morgan
golygwyd gan John Davies, Mallwyd
Pennod XXIII

PENNOD XXII.

1 Yr Iuddewon yn cyd-fwriadu yn erbyn Crist. 3 Satan yn parottoi Judas i'w fradychu ef. 7 Yr apostolion yn arlwyo y pasc. 19 Crist yn ordeinio ei swpper sanctaidd 21 yn guddiedig yn rhagddywedyd am y bradychwr: 24 yn annog y rhan arall o'i apostolion i ochelyd rhyfyg: 31 yn sicrhâu Petr na phallai ei ffydd ef: 34 ac er hynny y gwadai efe ef dair gwaith: 39 yn gweddio yn y mynydd; ac yn chwysu y gwaed: 47 yn cael ei fradychu â chusan: 50 yn iachâu clust Malchus: 54 yn cael ei wadu dair gwaith gan Petr, 63 a'i ammherchi yn gywilyddus; 66 ac yn cyfaddef ei fod yn Fab Duw.

A NESAODD gwyl y bara croyw, Α yr hon a elwir y pasc.

2 A'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.

3 ¶ A Satan a aeth i mewn i Judas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi y deuddeg.

4 Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â'r arch-offeiriaid a'r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt.

5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gyttunasant ar roddi arian iddo.

6 Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i'w fradychu ef iddynt yn absen y bobl.

7 ¶ A daeth dydd y bara croyw, ar hwn oedd rhaid lladd y pasc.

8 Ac efe a anfonodd Petr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, parottowch i ni y pasc, fel y bwyttaom.

9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni barottôi o honom?

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i'r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i'r ty lle yr êl efe i mewn.

11 A dywedwch wrth wr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae y lletty, lle y gallwyf fwytta y pasc gyd a'm disgyblion?.

12 Ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr, wedi ei thaenu: yno parottowch.

13 A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a barottoisant y pasc.

14 A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a'r deuddeg apostol gyd âg ef.

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwennychais yn fawr fwytta y pasc hwn gyd â chwi cyn dioddef o honof.

16 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwyttâf fi mwyach o hono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw.

17 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith:

18 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.

19 Ac wedi iddo gymmeryd bara, a rhoi diolch, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorph yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf.

20 Yr un modd y cwppan hefyd wedi swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw y testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.

21 ¶ Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyd â mi ar y bwrdd.

22 Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu eithr gwae y dyn hwnnw, trwy yr hwn y bradychir ef!

23 Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy o honynt oedd yr hwn a wnai hynny.

24 ¶ A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a dybygid ei fod yn fwyaf.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a'r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion.

26 Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a'r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini.

27 Canys pa un fwyaf, ai yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai yr hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu.

28 A chwychwi yw y rhai a arhosasoch gyd â mi yn fy mhrofedigaethau.

29 Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau;

30 Fel y bwyttaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.

31 ¶ A'r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a'ch ceisiodd chwi, i'ch nithio fel gwenith:

32 Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y'th dröer, cadarnhâ dy frodyr.

33 Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyd â thi i garchar, aci angau.

34 Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Petr, Na chân y ceiliog heddyw, nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi.

35 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y'ch anfonais heb na phwrs, na Bradychu Crist. chôd, nac esgidiau, a fo arnoch eisieu dim? A hwy a ddywedasant, Na ddo ddim.

36 Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymmered; a'r un modd god: a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.

37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid etto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifenwyd; sef, A chyd a'r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i'r pethau am danaf fi.

38 A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.

39 ¶ Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ol ei arfer, i fynydd yr Olew-wydd; a'i ddisgyblion hefyd a'i canlynasant ef.

40 A phan ddaeth efe i'r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth.

41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tu ag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd,

42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwppan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.

43 Ac angel o'r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef.

44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddiodd yn ddyfalach: a'i chwys ef oedd fel defnynau gwaed yn disgyn ar y ddaear.

45 A phan gododd efe o'i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a'u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch;

46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth.

47 ¶ Ac efe etto yn llefaru, wele dyrfa; a'r hwn a elwir Judas, un o'r deuddeg, oedd yn myned o'u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i'w gusanu ef.

48 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Judas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn?

49 A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a darâwn ni â chleddyf?

50 ¶ A rhyw un o honynt a darawodd was yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddehau ef.

51 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â'i glust, ac a'i hiachaodd ef.

52 A'r Iesu a ddywedodd wrth arch-offeiriaid, a blaenoriaid y deml, a'r henuriaid, y rhai a ddaethent atto, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn?

53 Pan oeddwn beunydd gyd â chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylaw i'm herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu y tywyllwch.

54 ¶ A hwy a'i daliasant ef, ac a'i harweiniasant, ac a'i dygasant i mewn i dŷ yr arch-offeiriad. A Phetr a ganlynodd o hirbell.

55 Ac wedi iddynt gynneu tân y'nghanol y neuadd, a chyd-eistedd o honynt, eisteddodd Petr yntau yn eu plith hwynt.

56 A phan ganfu rhyw langces ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gyd âg ef.

57 Yntau a'i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef.

58 Ac ychydig wedi, un arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un o honynt. A Phetr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf. .

59 Ac ar ol megis yspaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gyd âg ef: canys Galilead yw.

60 A Phetr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe etto yn Ilefaru, canodd y ceiliog.

61 A'r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Petr. A Phetr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith.

62 A Phetr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.

63 A'r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a'i gwatwarasant ef, gan ei daro.

64 Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a'i tarawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Prophwyda, pwy yw yr hwn a'th darawodd di?

65 A llawer o bethau eraill, gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.

66 A phan aeth hi yn ddydd, ymgynhullodd henuriaid y bobl, a'r arch-offeiriaid, a'r ysgrifenyddion, ac a'i dygasant efi'w cynghor hwynt,

67 Gan ddywedyd, Ai ti yw Crist? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim:

68 Ac os gofynaf hefyd i chwi, ni'm hattebwch, ac ni'm gollyngwch ymaith.

69 År ol hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw.

70 A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod.

71 Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o'i enau ef ei hun.

Nodiadau

[golygu]