Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod XXIII
| ← Pennod XXII | Yr Efengyl yn ôl Sant Luc wedi'i gyfieithu gan William Morgan golygwyd gan John Davies, Mallwyd |
Pennod XXIV → |
PENNOD XXIII.
1 Cyhuddo yr Iesu ger bron Pilat, a'i anfon at Herod; 8 a Herod yn ei watwar ef. 12 Herod a Philat yn cymmodi d'u gilydd. 13 Y bobl yn deisyf cael Barabbas; a Philat yn ei ollwng ef iddynt, ac yn rhoddi yr Iesu i'w groeshoelio. 27 Yntau yn mynegi i'r gwragedd, a alarent o'i blegid ef, ddinystr Jerusalem: 34 yn gweddio dros ei elynion. 39 Crogi dau ddrwg-weithredwyr gyd ag ef. 46 Ei farwolaeth, 50 a'i gladdedigaeth ef.
A'R holl laws o honynt a gyfodasant, ac a'i dygasant ef at Pilat:
2 Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gwyrdroi y bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Cesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenhin.
3 A Philat a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti ᎩᎳ Brenhin yr Iuddewon? Ac efe a attebodd iddo, ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd.
4 A dywedodd Pilat wrth yr archoffeiriaid a'r bobl, Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn.
5 A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffrôi y bobl, gan ddysgu trwy holl Judea, wedi dechreu o Galilea hyd yma.
6 A phan glybu Pilat sôn am Galilea, efe a ofynodd ai Galilead oedd y dyn.
7 A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a'i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerusalem y dyddiau hynny.
8 ¶ A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer am dano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef.
9 Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid attebodd ddim iddo.
10 A'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug.
11 A Herod a'i filwyr, wedi iddo ei ddïystyru ef, a'i watwar, a'i wisgo â gwisg glaerwen, a'i danfonodd ef drachefn at Pilat.
12 ¶ A'r dwthwn hwnnw yr aeth Pilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'u gilydd.
13 ¶ A Philat, wedi galw ynghyd yr arch-offeiriaid, a'r llywiawdwyr, a'r bobl,
14 A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn attaf fi, fel un a fyddai yn gŵyrdroi y bobl: ac wele, myfi a'i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef am danynt:
15 Na Herod chwaith: canys anfonais chwi atto ef; ac wele, dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed iddo.
16 Am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf ymaith.
17 Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr wyl.
18 A'r holl laws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd:
19 (Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.)
20 Am hynny Pilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio-gollwng yr Iesu yn rhydd.
21 Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef.
22 Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd.
23 Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A'u llefau hwynt a'r archoffeiriaid a orfuant.
24 A Philat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt.
25 Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid y'ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i'w hewyllys hwynt.
26 Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o'r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ol yr Iesu.
27 ¶ Ac yr oedd yn ei ganlyn ef laws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o'i blegid ef.
28 A'r Iesu, wedi troi attynt, a ddywedodd, Merched Jerusalem, na wylwch o'm plegid i: eithr wylwch o'ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant.
29 Canys wele, y mae y dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai ammhlantadwy, a'r crothau ni eppiliasant, a'r bronnau ni roisant sugn.
30 Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.
31 Canys os gwnant hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin?
32 Ac arweiniwyd gyd âg ef hefyd ddau eraill, drwg-weithredwyr, i'w rhoi i'w marwolaeth.
33 A phan ddaethant i'r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a'r drwg-weithredwyr; un ar y llaw ddehau, a'r llall ar yr aswy.
34 ¶ A'r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddeu iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a rannasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren.
35 A'r bobl a safodd yn edrych. A'r pennaethiaid hefyd gyd â hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw.
36 A'r milwyr hefyd a'i gwatwarasant ef, gan ddyfod atto, a chynnyg iddo finegr,
37 A dywedyd, Os tydi yw Brenhin yr Iuddewon, gwared dy hun.
38 Ac yr ydoedd hefyd ar-ysgrifen wedi ei ysgrifenu uwch ei ben ef, â llythyrenau Groeg, a Lladin, ac Hebraeg, HWN YW BRENHIN YR IUDDEWON.
39 ¶ Ac un o'r drwg-weithredwyr a grogasid a'i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau.
40 Eithr y llall a attebodd, ac a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth?
41 A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai y pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o'i le.
42 Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i'th deyrnas.
43 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddyw y byddi gyd â mi ym mharadwys.
44 Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.
45 A'r haul a dywyllwyd, a llèn y deml a rwygwyd yn ei chanol.
46 ¶ A'r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, O Dad, i'th ddwylaw di y gorchymynaf fy yspryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd.
47 A'r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn wr cyfiawn.
48 A'r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau.
49 A'i holl gydnabod ef a safasant a hirbell, a'r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
50 ¶ Ac wele, gwr a'i enw Joseph, yr hwn oedd gynghorwr, gwr da a chyfiawn:
51 (Hwn ni chyttunasai â'u cynghor ac â'u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iuddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw ;
52 Hwn a ddaeth at Pilat, ac a ofynodd gorph yr Iesu.
53 Ac efe a'i tynnodd i lawr, ac a'i hamdodd mewn llian main, ac a'i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed.
54 A'r dydd hwnnw oedd ddarparwyl, a'r Sabbath oedd yn nesâu.
55 A'r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gyd âg ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorph ef.
56 A hwy a ddychwelasant, ac a barottoisant bêr-aroglau ac ennaint; ac a orphwysasant ar y Sabbath, yn ol y gorchymyn.