Neidio i'r cynnwys

Yr Efengyl yn ôl Sant Luc/Pennod XXIV

Oddi ar Wicidestun
Pennod XXIII Yr Efengyl yn ôl Sant Luc


wedi'i gyfieithu gan William Morgan
golygwyd gan John Davies, Mallwyd

PENNOD XXIV.

{{bach|1 Dau angel yn mynegi adgyfodiad Crist ir gwragedd oedd yn dyfod at y bedd; 9 a'r rhai hynny yn ei adrodd i eraill. 13 Crist ei hun yn ymddangos i'r ddau ddisgybl oedd yn myned i Emmäus: 36 ac wedi hynny i'r apostolion; ac yn ceryddu eu hanghrediniaeth hwy: 47 yn rhoddi gorchymyn iddynt: 49 ac yn addaw yr Yspryd Glân: 51 ac felly yn esgyn i'r nefoedd.

A'R dydd cyntaf o'r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y pêraroglau a barottoisent, a rhai gyd â hwynt.

2 A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd.

3 Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorph yr Arglwydd Iesu.

4 A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau wr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglaer.

5 Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tu a'r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw ym mysg y meirw?

6 Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd. wrthych, ac efe etto yn Galilea "

7 Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylaw dynion pechadurus, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd adgyfodi.

8 A hwy a gofrasant ei eiriau ef;

9 Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i'r un ar ddeg, ac i'r lleill oll.

10 A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a'r lleill gyd â hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion.

11 A'u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt.

12 Eithr Petr a gododd i fynu, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymmu, efe a ganfu y llïeiniau wedi eu gosod o'r neilldu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ag ef ei hun am y peth a ddarfuasai.

13 ¶ Ac wele, dau o honynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a'i henw Emmaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystâd oddi wrth Jerusalem.

14 Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'u gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent.

15 A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn a'u gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyd â hwynt.

16 Eithr eu llygaid hwynt a attaliwyd, fel nas adwaenent ef.

17 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at eu gilydd, dan rodio, ac yn wyneb-drist?

18 Ac un o honynt, a'i enw Cleopas, gan atteb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerusalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn?

19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nazareth, yr hwn oedd wr o brophwyd, galluog mewn gweithred a gair ger bron Duw a'r holl bobl ;

20 A'r modd y traddododd yr archoffeiriaid a'n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a'i croeshoeliasant ef.

21 Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai yr Israel. Ac heb law hyn oll, heddyw yw y trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn.

22 A hefyd rhai gwragedd o honom mi a'n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd:

23 A phan na chawsant ei gorph ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled o honynt weledigaeth o angelion, y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw.

24 A rhai o'r rhai oedd gyd â nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasai y gwragedd: ond ef nis gwelsant.

25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu yr holl bethau a ddywedodd y prophwydi!

26 Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i'w ogoniant?

27 A chan ddechreu ar Moses, a'r holl brophwydi, efe a esponiodd iddynt yn yr holl ysgrythyrau y pethau am dano ei hun.

28 Ac yr oeddynt yn nesâu i'r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymmerth arno ei fod yn myned ym mhellach.

29 A hwy a'i cymhellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyd â ni; canys y mae hi yn hwyrhâu, a'r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyd â hwynt.

30 A darfu, ac efe yn eistedd gyd â hwynt, efe a gymmerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt.

31 A'u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a'i hadnabuant ef: ac efe a ddiflannodd allan o'u golwg hwynt.

32 A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra yr ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra yr ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythyrau ?

33 A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Jerusalem, ac a gawsant yr unarddeg wedi ymgasglu ynghyd, a'r sawl oedd gyd â hwynt,

34 Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosodd i Simon.

35 A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethesid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth dorriad y bara.

36 ¶ Ac a hwy yn dywedyd y peth- au hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.

37 Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled o honynt yspryd.

38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pahamy'ch trallodir? a paham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau?

39 Edrychwch fynwylaw a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan yspryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi.

40 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a'i draed.

41 Ac a hwy etto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddim bwyd?

42 A hwy a roisant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.

43 Yntau a'i cymmerodd, ac a'i bwyttaodd yn eu gwydd hwynt.

44 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma y geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn etto gyd â chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifenwyd y'nghyfraith Moses, a'r prophwydi, a'r psalmau, am danaf fi.

45 Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythyrau.

46 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifenwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:

47 A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ym mhlith yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem.

48 Ac yr ydych chwi yn dystion o'r pethau hyn.

49 ¶ Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerusalem, hyd oni wisger chwi â nerth o'r uchelder.

50 ¶ Ac efe a'u dug hwynt allan hyd yn Bethania; ac a gododd ei ddwylaw, ac a'u bendithiodd hwynt.

51 Ac fe a ddarfu, tra yr oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael o hono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fynu i'r nef.

52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gyd â llawenydd mawr:

53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio, Duw.Amen.

Nodiadau

[golygu]