Yr Efengyl yn ôl Sant Luc (testun cyfansawdd)
| ← | Yr Efengyl yn ôl Sant Luc (testun cyfansawdd) wedi'i gyfieithu gan William Morgan golygwyd gan John Davies, Mallwyd |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Yr Efengyl yn ôl Sant Luc |

YR EFENGYL YN OL
SANT LUC.
PENNOD I.
1 Rhagymadrodd yr holl efengyl. 5 Cenhedliad Ioan Fedyddiwr, 26 a Christ. 39 Prophwydol iaeth Elisabeth a Mair am Grist. 57 Genedigaeth ac enwaediad Ioan. 67 Prophwydoliaeth Zacharias am Grist, 78 ac Ioan.
1 YN gymmaint â darfod i lawer gymmeryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddïammeu yn ein plith,
2 Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair:
3 Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifenu mewn trefn atat, O ardderchoccaf Theophilus,
4 Fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.
5 Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Judea, ryw offeiriad a’i enw Zacharïas, o ddydd-gylch Abïa: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth.
6 Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddïargyhoedd.
7 Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn ammhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.
8 A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddydd-gylch ef,
9 Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogl-darthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd.
10 A holl lïaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl-darthiad.
11 Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl-darth.
12 A Zacharïas, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno.
13 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Zacharïas: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, â thi a elwi ei enw ef Ioan.
14 A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.
15 Canys mawr fydd efe y'ngolwg yr Arglwydd, ac nid ŷf na gwin na dïod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam.
16 A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw.
17 Ac efe a â o’i flaen ef yn yspryd a nerth Elïas, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod.
18 A dywedodd Zacharïas wrth yr angel. Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys henafgwr wyf fi, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran.
19 A’r angel gan atteb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegi i ti’r newyddion da hyn.
20 Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser.
21 Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Zacharïas: a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml.
22 A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml: ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt; ac efe a arhosodd yn fud.
23 A bu, cyn gynted ag y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef, fyned ohono i’w dŷ ei hun.
24 Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd,
25 Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf, i dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.
26 Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw, i ddinas yn Galilea a'i henw Nazareth,
27 At forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a'i enw Joseph, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair.
28 A'r angel a ddaeth i mewn atti, ac a ddywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyd â thi: bendigaid wyt ymhlith gwragedd.
29 A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn.
30 A dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafr gyd â Duw.
31 Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac a eiwi ei enw ef IESU.
32 Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd' Dduw orseddfa ei dad Dafydd.
33 Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd.
34 A Mair a ddywedodd wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i wr?
35 A'r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a'th gysgoda di: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti, a elwir yn Fab Duw.
36 Ac wele, Elisabeth dy gares, y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw yr chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn ammhlantadwy.
37 Canys gyd â Duw ni bydd dim yn ammhosibl.
38 A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di. A'r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi.
39 A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i'r mynydd-dir ar frys, i ddinas o Juda;
40 Ac a aeth i mewn i dŷ Zacharïas, ac a gyfarchodd well i Elisabeth.
41 A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i'r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o'r Yspryd Glân.
42 A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di.
43 Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi?
44 Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i'm clustiau, y plentyn a lammodd o lawenydd yn fy nghroth.
45 A bendigedig yw yr hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o'r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.
46 ¶ A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhâu yr Arglwydd,
47 A'm hyspryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr.
48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a'm geilw yn wynfỳdedig.
49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef.
50 A'i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a'i hofnant ef.
51 Efe a wnaeth gadernid â'i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon.
52 Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o'u heisteddfäau, ac a ddyrchafodd y rhai isel-radd.
53 Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion.
54 Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd;
55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a'i had, yn dragywydd.
56 A Mair a arhosodd gyd â hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i'w thŷ ei hun.
57 A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab.
58 A'i chymmydogion a'i chenedl a glybu fawrhau o'r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi.
59 A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a'i galwasant ef Zacharïas, yn ôl enw ei dad.
60 A'i fam a atebodd ac a ddywedodd; Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef.
61 Hwythau a d dywedasant wrthi Nid oes neb o'th genedt a elwir ar yr enw hwn.;
62 A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef.
63 Yntau a alwodd am argraphlech, ac a ysgrifenodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll.
64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd', a'i dafod ef, ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.
65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Judea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll.
66 A phawb a'r a'u clywsant, a'u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedydy Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw'r Arglwydd oedd gyd âg ef.
67 A'i dad ef Zacharïas a gyflawnwyd o'r Yspryd Glân, ac a brophwydodd, gafi' ddywedyd;
68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth ymwared i'w bobl;
69 Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr;
70 Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd brophwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd:
71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o'n caseion;
72 I gwblhâu'r drugaredd â'n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfamod:
73 Y llw a dyngodd efe wrth ein. tad-Abraham, ar roddi i ni,
74 Gwedi ein rhyddhâu o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddï ofn,
75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl dyddiau ein bywyd.
76 A thithau, fachgennyn, a elwir yn brophwyd i'r Goruchaf: canys ti a âi o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef;
77 I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i'w bobl, trwy faddeuant o'u pechodau,
78 Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw, trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r uchelder,
79 I lewyrchu i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
80 A'r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhâwyd yn yr yspryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i'r Israel.
PENNOD II
Angel yn ei fynegi ir bugeiliaid: 13 a llawer yn canu moliant i Dduw am dano. 21 Enwaedu Crist. 22 Puredigaeth Mair. 28 Simeon ac Anna yn prophwydo am Grist: 40 ac yntau yn cynnyddu mein doethineb: 46 yn ymresymmu a'r doctoriaid yn y deml, 51 ac yn ufudd i'w rieni.
1 BU hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cesar, i drethu'r holl fyd.
2 (Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.)
3 A phawb a aethant i'w trethu, bob' mi. i'w ddinas ei hun.
4 A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea, o ddinas Nazareth, i Judea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fdd o dy a thylwyth Dafydd),
5 I'w drethu gyd â Mair, yr hon a ddyweddiasïd yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog.
6 A bu, tra oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni.
7 A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig, ac a'i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a'i dododd ef yn y preseb, am nad oedd iddynt le yn y llety.
8 Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd liw nos.
9 Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o'u hamgylch: ac ofni yn ddirfawr a wnaethant.
10 A'r angel a ddywedodd wrthynt Nac ofnwch: canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl:
11 Canys ganwyd i chwi heddiw Gc idwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crisi yr Arglwydd.
12 A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewit, cadachau, a'i ddodi yn y preseb.
13 Ac yn ddisymwth yr oedd gyd â'r angel lïaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd,
14 Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da.
15 A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i'r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd. Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni.;
16 A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Mair a Joseph, a'r dyn bach yn gorwedd yn y preseb.
17 A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn.
18 A phawb a'r a'i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt.
19 Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon.
20 A'r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt.
21 A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef IESU, yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ym ddŵyn ef yn y groth.
22 Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a'i dygasant ef i Jerusalem, i'w gyflwyno i'r Arglwydd,
23 (Fel yr ysgrifennwyd yn neddf ys Arglwydd, Pob gwryw cyntaf-anedig a elwir yn sanctaidd i'r Arglwydd;)
24 Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn .a-ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod, neu ddau gyw colomen.;
25 Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerusalem, a'i enw Simeon; a'r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a'r Yspryd Glân oedd arno.
26 Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Yspryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd.
27 Ac efe a ddaeth trwy'r yspryd i'r deml: a phan ddug ei rïeni y dyn bach Iesu, i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfiaith;
28 Yna efe a'i cymmerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,
29 Yr awrhon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air:
30 Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth,
31 Yr hon a barattoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd;
32 Goleuni i oleuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel;
33 Ac yr oedd Joseph a'i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwy amdano ef.
34 A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn;
35 (A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau.
36 Ac yr oedd Anna brophwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyd â gwr saith mlynedd o'i morwyndod;
37 Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid ai allan o'r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos.
38 A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerusalem.
39 Ac wedi iddynt orphen pob peth yn ol deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i'w dinas eu hun Nazareth.
40 A'r bachgen a gynnyddodd, ac a gryfhaodd yn yr yspryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.
41 ¶ A'i rieni ef a aent i Jerusalem bob blwyddyn ar wyl y pasc.
42 A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, hwynt-hwy a aethant i fynu i Jerusalem yn ol defod yr wyl.
43 Ac wedi gorphen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerusalem; ac ni wyddai Joseph a'i fam ef:
44 Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a'i ceisiasant ef ym mhlith eu cenedl a'u cydnabod.
45 A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gan ei geisio ef.
46 A bu, ar ol tridiau, gael o honynt hwy ef yn y deml, yn eistedd y nghanol y doctoriaid, yn gwrandaw arnynt, ac yn eu holi hwynt.
47 A synnu a wnaeth ar bawb a'r a'i clywsant ef, o herwydd ei ddeall ef a'i attebion.
48 A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A'i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a'th geisiasom di.
49 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i'm Tad?
50 A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt.
51 Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A'i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.
52 A'r Iesu a gynnyddodd mewn doethineb a chorpholaeth, a ffafr gyd â Duw a dynion.
PENNOD III.
1 Pregeth a bedydd Ioan: 15 ei dystiolaeth ef am Grist. 20 Herod yn carcharu Ioan. 21 Crist, wedi ei fedyddio, yn derbyn tystiolaeth o'r nef. 23 Oedran ac achau Crist o Joseph i fynu.
YN y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius
Cesar, a Phontius Pilat yn rhaglaw Judea, a Herod yn detrarch Galilea, a'i frawd Phylip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,
2 Dan yr arch-offeiriaid Annas a Chaiaphas, y daeth gair Duw at Ioan, mab Zacharïas, yn y diffaethwch.
3 Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau;
4 Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Esaias y prophwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llefain yn y diffaethwch, Parottowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn uniawn.
5 Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a'r gwyr-geimion a wneir yn uniawn, a'r geirwon yn ffyrdd gwastad:
6 A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw.
7 Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i'w bedyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhag-rybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod?
8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr wyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o'r cerrig hyn godi plant i Abraham.
9 Ac yr awrhon y mae y fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymmynir i lawr, ac a fwrir yn tân.
10 A'r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni?
11 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i'r neb sydd heb yr un; a'r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.
12 A'r publicanod hefyd a ddaethant i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, beth a wnawn ni?
13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.
14 A'r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywed odd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na chamachwynwch ar neb; a byddwch foddlawn i'ch cyflogau.
15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Crist;
16 Ioan a attebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddattod carrai ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd Glân, ac â thân.
17 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyrlanha ei lawr-dyrnu, ac a gasgl y gwenith i'w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.
18 A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i'r bobl.
19 Ond Herod y tetrarch, pan ger yddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Phylip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod,
20 A chwanegodd hyn hefyd heblaw y cwbl, ac a gauodd ar Ioan yn y carchar.
21 A bu, pan oeddid yn bedyddio yr holl bobl, a'r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddïo, agoryd y nef
22 A disgyn o'r Yspryd Glân mewn rhith corphorol, megis colommen, arno ef; a dyfod llef o'r nef yn dy wedyd, Ti yw fy anwyl Fab; ynot ti y'm boddlonwyd.
23 A'r Iesu ei hun oedd ynghylch dechreu ei ddengmlwydd ar hugain oed, mab (fel y tybid) i Joseph, fab Eli,
24 Fab Matthat, fab Lefi, fab Melchi, fab Janna, fab Joseph,
25 Fab Mattathias, fab Amos, fab Näum, fab Esli, fab Naggai,
26 Fab Maath, fab Mattathias, fab Semei, fab Joseph, fab Juda,
27 Fab Joanna, fab Rhesa, fab Zorobabel, fab Salathiel, fab Neri,
28 Fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam, fab Er,
29 Fab Jose, fab Eliezer, fab Jorim, fab Matthat, fab Lefi,
30 Fab Simeon, fab Juda, fab Joseph, fab Jonan, fab Eliacim,
31 Fab Melea, fab Mainan, fab Mattatha, fab Nathan, fab Dafydd,
32 Fab Jesse, fab Obed, fab Booz, fab Salmon, fab Naasson,
33 Fab Aminadab, fab Aram, fab Esrom, fab Phares, fab Juda,
34 Fab Jacob, fab Isaac, fab Abraham, fab Thara, fab Nachor,
35 Fab Saruch, fab Ragau, fab Phalec, fab Heber, fab Sala,
36 Fab Cainan, fab Arphaxad, fab Sem, fab Nöe, fab Lamech,
37 Fab Mathusala, fab Enoch, fab Jared, fab Maleleel, fab Cainan,
38 Fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.
PENNOD IV.
1 Temtiad ac ympryd Crist. 13 Y mae efe yn gorchfygu y cythraud: 14 yn dechreu pregethu. 16 Pobl Nazareth yn rhyfeddu am ei eiriau grasusol ef. 33 Y mae efe yn iacháu um CY threulig, 38 a mam guraig Petr, 40 a Hawer gleifion eraill. 41 Y cythreuliaid yn cydnabod Crist, ac yn cael cerydd am hynny. 43 Y mae efe yn pregethu trwy y dinasoedd.
A'R Iesu yn llawn o'r Yspryd Glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd gan yr yspryd i'r anialwch,
2 Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeugain niwrnod. Ac ni fwytta odd efe ddim o fewn y dyddiau hyn ny: ac wedi eu diweddu hwynt, ar ol hynny y daeth arno chwant bwyd.
3 A dywedodd diafol wrtho, Os mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y garreg hon fel y gwneler hi yn fara.
4 A'r Iesu a attebodd iddo, gan ddywedyd, Ysgrifenedig yw, Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair Duw.
5 A diafol, wedi ei gymmeryd ef i fynu i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr.
6 A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi.
7 Os tydi gan hynny a addoli oʻm blaen, eiddot ti fyddant oll.
8 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, Satan, yn fy ol i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi.
9 Ac efe a'i dug ef i Jerusalem, ac a'i gosododd ar binacl y deml, ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma:
10 Canys ysgrifenedig yw, Y gorchymyn efe i'w angelion o'th achos di, ar dy gadw di;
11 Ac y cyfodant di yn eu dwylaw, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg.
12 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.
13 Ac wedi i ddiafol orphen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd âg ef dros amser.
14 ¶ A'r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr yspryd i Galilea: a sôn a aeth am dano ef trwy yr holl fro oddi amgylch.
15 Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.
16 Ac efe a ddaeth i Nazareth, lle y magesid ef: ac yn ol ei arfer, efe a aeth i'r synagog ar y Sabbath, ac a gyfododd i fynu i ddarllen.
17 A rhodded atto lyfr y prophwyd Esaias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,
18 Yspryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, o herwydd iddo fy enneinio i; i bregethu i'r tlodion yr anfonodd fi, i iachâu y drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i'r caethion, a chaffaeliad golwg i'r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb,
19 I bregethu blwyddyn gymmeradwy yr Arglwydd. 20 Ac wedi iddo gau y llyfr, a'i roddi i'r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno.
21 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddyw y cyflawnwyd yr ysgrythyr hon yn eich clustiau chwi.
22 Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o'i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseph?
23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollawl y dywedwch y ddiareb hon wrthyf, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yn Capernaum, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun.
24 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nad yw un prophwyd yn gymmeradwy yn ei wlad ei hun.
25 Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddw- on oedd yn Israel yn nyddiau Eli- as, pan gauwyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy yr holl dir;
26 Ac nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elïas, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig weddw.
27 A llawer o wahan-gleifion oedd yn Israel yn amser Eliseus y prophwyd; ac ni lanhâwyd yr un o honynt, ond Naaman y Syriad.
28 A'r rhai oll yn y synagog, with glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint;
29 Ac a godasant i fynu, ac a³i bwriasant ef allan o'r ddinas, ac a'i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr.
30 Ond efe, gan fyned trwy eu canol hwynt, a aeth ymaith;
31 Ac a ddaeth i waered i Capernaum, dinas yn Galilea: ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y dyddiau Sabbath.
32 A bu arathr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef: canys ei ymadrodd ef oedd gyd âg awdurdod.
33 ¶ Ac yn y synagog yr oedd dyn a chanddo yspryd cythraul aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel, 34 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom a thi, Iesu o Nazareth a ddaethost ti i'n difetha ni? Myfi a'th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw.
35 A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Distawa, a dos allan o hono. A'r cythraul, wedi ei daflu ef i'r canol, a aeth allan o hono, heb wneuthur dim niwed iddo.
36 A daeth braw arnynt oll: a chyd-ymddiddanasant a'u gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn! gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysprydion aflan, a hwythau yn myned allan.
37 A sôn am dano a aeth allan i bob man o'r wlad oddi amgylch.
38 ¶ A phan gyfododd yr Iesu o'r synagog, efe a aeth i mewn i dy Simon. Ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o gryd blin: a hwy a attolygasant arno drosti hi.
39 Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y cryd; a'r cryd a'i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a wasanaethodd arnynt hwy.
40 ¶ A phan fachludodd yr haul, pawb a'r oedd ganddynt rai cleifion o amryw glefydau, a'u dygasant hwy atto ef; ac efe a roddes ei ddwylaw ar bob un o honynt, ac a'u hiachaodd hwynt.
41 A'r cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer, dan lefain a dy- wedyd, Ti yw Crist, Mab Duw. Ac efe a'u ceryddodd hwynt, ac ni adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Crist.
42 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, efe a aeth allan, ac a gychwynodd i le diffaeth: a'r bobloedd a'i ceisiasant ef; a hwy a ddaethant hyd atto, ac a'i hattaliasant ef rhag myned ymaith oddi wrthynt.
43 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canys i hyn y'm danfonwyd.
44 Ac yr oedd efe yn pregethu yn synagogau Galilea.
PENNOD V.
1 Crist yn dysgu y bobl allan o long Petr: 4 trwy helfa ryfeddol o bysgod, yn dangos pa fodd y gwnai efe ef a'i gyfeillion yn bysgodwyr dynion: 12 yn glanhau y gwahan-glwyfus: 16 yn gweddio yn y diffaethwch: 18 yn iachau un claf o'r parlys: 27 yn galw Matthew y publican: 29 megis Physygur eneidiau, yn bwytta gyd â phechadursaid: 34 yn rhag-fynegi ymprydiau a chystudd- iau i'r apostolio ar ol ei ddyrchafiad ef: 36 ac yn cyffelybu disgyblion lwrf gweiniaid i gostrelau hen, a dillad wedi treulio.
1 BU hefyd, a'r bobl yn pwyso atto i wrandaw gair Duw, yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret;
2 Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a'r pysgodwyr a aethent allan o honynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau.
3 Ac efe a aeth i mewn i un o'r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodd y bobloedd allan o'r llong.
4 A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i'r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa.
5 A Simon a attebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: etto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd.
6 Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a'u rhwyd hwynt a rwygodd.
7 A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion, oedd yn y llong arall, i ddyfod i'w cynnorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant; a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi.
8 A Simon Petr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau yr Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd.
9 Oblegid braw a ddaethai arno ef, a'r rhai oll oedd gyd âg ef, o herwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy;
10 A'r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd, meibion Zebedeus, y rhai oedd gyfrannogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion.
11 Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dilynasant ef.
12 A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele wr yn llawn o'r gwahan-glwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd âg ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhâu.
13 Yntau a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahan-glwyf a aeth ymaith oddi wrtho.
14 Ac efe a orchymynodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i'r offeiriad, acoffrwm dros dy lanhâd, fel y gorchymynodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
15 A'r gair am dano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i'w wrandaw ef, ac i'w hiachâu ganddo o'u clefydau.
16 ¶ Ac yr oedd efe yn cilio o'r neilldu yn y diffaethwch, ac yn gweddio.
17 A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno, y rhai a ddaethent o bob pentref yn Galilea, a Judea, a Jerusalem ac yr oedd gallu yr Arglwydd i'w hiachâu hwynt.
18 ¶ Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o'r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a'i ddodi ger ei fron ef.
19 A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a'i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy y pridd-lechau, yn y canol ger bron yr Iesu.
20 A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.
21 A'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymresymmu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddeu pechodau ond Duw yn unig?
22 A'r Iesu, yn gwybod eu hym resymiadau hwynt, a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymmu yn eich calonnau yr ydych?
23 Pa un hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?
24 Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddeu pechodau, (eb efe wrth y claf o'r parlys,) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymmer dy wely, a dos i'th dŷ.
25 Ac yn y man y cyfododd efe i fynu yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymmerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.
26 A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddyw.
27 ¶ Ac ar ol y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican, a'i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa; ac efe a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.
28 Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fynu, ac a'i dilynodd ef.
29 A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o bublicanod ac eraill; yn eistedd gyd â hwynt ar y bwrdd.
30 Eithr eu hysgrifenyddion a'u Phariseaid hwynt a furmurasant yn erbyn ei ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwytta ac yn yfed gyd â phublicanod a phechaduriaid?
31 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg; ond i'r rhai cleifion.
32 Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
33 ¶ A hwy a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddiau, a'r un modd yr eiddo y Phariseaid; ond yr eiddot ti yn bwytta ac yn yfed?
34 Yntau a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo y priodas-fab gyd â hwynt? 35 Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodas-fab oddi arnynt: ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.
36 ¶ Ac efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn: os amgen, y mae y newydd yn gwneuthur rhwygiad, a'r llain o'r newydd ni chyttuna a'r hen.
37 Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia y costrelau, ac efe a red allan, a'r costrelau a gollir.
38 Eithr gwin newydd sydd raid eifwrw mewn costrelau newyddion; a'r ddau a gedwir.
39 Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed gwin hen, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw yr hen.
PENNOD VI.
1 Crist yn argyhoeddi dallineb y Phariseaid ynghylch cadw y Sabbath, trwy ysgrythyrau, a rheswm, a gwyrthiau: 13 yn dewis deuddeg apostol: 17 yn iachau y cleifion: 20 a cher bron y bobl, yn pregethu i'w ddisgyblion fendithion a melldithion. 27 Pa fodd y mae i ni garu ein gelynion: 46 a chyssylltu ufudd-dod gweithredoedd da ynghyd a gwrandaw y gair; rhag, yn nryg-ddydd profedigaeth, i ni syrthio fel tŷ wedi ei adeiladu ar wyneb y ddaear, heb ddim sylfaen.
A BU ar yr ail prif Sabbath, fyned o hono trwy yr ŷd: a'i ddisgyblion a dynnasant y tywys, ac a'u bwyttasant, gwedi eu rhwbio a'u dwylaw.
2 A rhai o'r Phariseaid a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlawn ei wneuthur ar y Sabbathau?
3 A'r Iesu gan atteb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch hyn chwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd âg ef;
4 Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y cymmerth ac y bwyttaodd y bara gosod, ac a'i rhoddes hefyd i'r rhai oedd gyd âg ef; yr hwn nid yw gyfreithlawn ei fwytta, ond i'r offeiriaid yn unig?
5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Sabbath hefyd.
6 ¶ A bu hefyd ar Sabbath arall, iddo fyned i mewn i'r synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddyn a'i law ddehau wedi gwywo.
7 A'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid a'i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Sabbath; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef.
8 Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd a'r llaw wedi gwywo, Cyfod i fynu, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fynu, ac a safodd.
9 Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynaf i chwi, Beth sydd gyfreithlawn ar y Sabbathau gwneuthur da, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli?
10 Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.
11 A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i'r Iesu.
12 A bu yn y dyddiau hynny, fyned o hono ef allan i'r mynydd i weddio; a pharhâu ar hyd y nos yn gweddio Duw.
13 A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd atto ei ddisgyblion: ac o honynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion;
14 Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Petr,) ac Andreas ei frawd; Iago, ac Ioan; Phylip, a Bartholomeus;
15 Matthew, a Thomas; Iago mab Alpheus, a Simon a elwir Zelotes;
16 Judas brawd Iago, a Judas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.
17 ¶ Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a safodd mewn gwastattir; a'r dyrfa o'i ddisgyblion, a llïaws mawr o bobl o holl Judea a Jerusalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrandaw arno, ac i'w hiachâu o'u clefydau,
18 A'r rhai a flinid gan ysprydion aflan: a hwy a iachâwyd.
19 A'r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd âg ef; am fod nerth yn myned o hono allan, ac yn iachâu pawb.
20 ¶ Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion, ac a ddy- wedodd, Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.
21 Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awrhon: canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awrhon: canys chwi a chwerddwch.
22 Gwyn eich byd pan y'ch casao dynion, a phan y'ch didolant oddi wrthynt, ac y'ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn.
23 Byddwch lawen y dydd hwnnw, allemmwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i'r prophwydi.
24 Eithr gwae chwi y cyfoethogion! canys derbyniasoch eich diddanwch.
25 Gwae chwi y rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awrhon! canys chwi a alerwch ac a wylwch.
26 Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda am danoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i'r gau-brophwydi.
27 ¶ Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrandaw, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i'r rhai a'ch casânt:
28 Bendithiwch y rhai a'ch melldithiant, a gweddiwch dros y rhai a'ch drygant.
29 Ac i'r hwn a'th darawo ar y naill gern, cynnyg y llall hefyd; ac i'r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd.
30 A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo yn dwyn yr eiddot, na chais eilchwyl.
31 Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud.
32 Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru y rhai a'u câr hwythau.
33 Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnant dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi oblegid y mae y pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth.
34 Ac os rhoddwch echwyn i'r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi ? oblegid y mae y pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.
35 Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a'ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i'r Goruchaf: canys daionus yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.
36 Byddwch gan hynny drugarogion, megis ag y mae eich Tad yn drugarog.
37 Ac na fernwch, ac ni'ch bernir: na chondemniwch, ac ni'ch condemnir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau:
38 Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â'r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.
39 Ac efe a ddywedodd ddammeg wrthynt: A ddichon y dall dywyso Ꭹ dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd?
40 Nid yw y disgybl uwch law ei athraw: eithr pob un perffaith a fydd fel ei athraw.
41 A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
42 Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gâd i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o'th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.
43 Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da.
44 Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin.
45 Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a'r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru.
46 ¶ Paham hefyd yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd?
47 Pwy bynnag a ddêl attaf fi, ac a wrendy fy ngeiriau, ac a'u gwnelo hwynt, mi a ddangosaf i chwi ibwy y mae efe yn gyffelyb:
48 Cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y llif-ddyfroedd a gurodd ar y tŷ hwnnw, ac ni allai ei siglo; canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig.
49 Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladai dŷ ar y ddaear, heb sail; ar yr hwn y curodd y llif-ddyfroedd, ac yn y fan y syrthiodd: a chwymp y tŷ hwnnw oedd fawr.
PENNOD VII.
1 Crist yn caffael mwy o ffydd yn y canwriad, un o'r Cenhedloedd, nag yn yr un o'r Iuddewon: 10 yn iachau ei was ef yn ei absen: 11 yn cyfodi o farw i fyw fab y wraig weddw o Naïn: 19 yn atteb cenhadon Ioan, trwy ddangos ei wyrthiau : 24 yn tystiolaethu i'r bobl ei feddwl am Ioan: 31 yn bwrw bai ar yr Iuddewon, y rhai ni ellid eu hennill na thrwy ymarweddiad Ioan na'r eiddo yr Iesu 36 ac yn dangos trwy achlysur y wraig oedd bechadures pa fodd y mae efe yn gyfaill i bechaduriaid, nid i'w maentumio mewn pechodau, ond i faddeu iddynt eu pechodau, ar eu ffydd a'u hedifeirwch.
1 Ac wedi iddo orphen ei holl ymadroddion lle y clywai y bobl, efe a aeth i mewn i Capernaum.
2 A gwas rhyw ganwriad, yr hwn oedd anwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ym mron marw.
3 A phan glybu efe sôn am yr Iesu, efe a ddanfonodd atto henuriaid yr Iuddewon, gan attolwg iddo ddyfod a iachâu ei was ef.
4 Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a attolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur o honot hyn iddo:
5 Canys y mae yn caru ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd i ni synagog.
6 A'r Iesu a aeth gyd â hwynt. Ac efe weithian heb fod neppell oddi wrth y tŷ, y canwriad a anfonodd gyfeillion atto, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd:
7 O herwydd paham ni'm tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod attat: eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas.
8 Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: ac meddaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.
9 Pan glybu yr Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymmaint ffydd, na ddo yn yr Israel.
10 A'r rhai a anfonasid, wedi idd- ynt ddychwelyd i'r tŷ, a gawsant y gwas a fuasai glaf, yn holliach.
11 ¶ A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Naïn; a chyd âg ef yr aeth llawer o'i ddisgyblion, a thyrfa fawr.
12 A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyd â hi.
13 A'r Arglwydd pan y gwelodd hi, a gymmerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla.
14 A phan ddaeth attynt, efe a gyffyrddodd a'r elor: a'r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant. Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuangc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod.
15 A'r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a'i rhoddes i'w fam. 16 Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, Ymwelodd Duw â'i bobl.
17 A'r gair hwn a aeth allan am dano trwy holl Judea, a thrwy gwbl o'r wlad oddi amgylch.
18 A'i ddisgyblion a fynegasant i Ioan hyn oll.
19 ¶ Ac Ioan, wedi galw rhyw ddau o'i ddisgyblion atto, a anfon- odd at yr Iesu, gan ddywedyd, Ai ti yw yr hwn sydd yn dyfod? ai un arall yr ym yn ei ddisgwyl?
20 A'r gwŷr pan ddaethant atto, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a'n danfonodd ni attat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw yr hwn sydd yn dyfod? ai arall yr ym yn ei ddisgwyl?
21 A'r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau, a phläau, ac ysprydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg.
22 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhâu, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr efengyl.
23 A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi.
24 ¶ Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Beth yr aethoch allan i'r di ffaethwch i'w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt?
25 Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.
26 Eithr beth yr aethoch allan i'w weled? Ai prophwyd? Yn ddïau meddaf i chwi, a llawer mwy na phrophwyd.
27 Hwn yw efe am yr un yr ysgrifenwyd, Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barottoa dy ffordd o'th flaen.
28 Canys meddaf i chwi, Ym mhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes brophwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef.
29 A'r holl bobl a'r oedd yn gwrandaw, a'r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan.
30 Eithr y Phariseaid a'r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gynghor Duw, heb eu bedyddio ganddo.
31 ¶ A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg ?
32 Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth eu gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch.
33 Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwytta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo.
34 Daeth Mab y dyn yn bwytta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid.
35 A doethineb a gyfiawnhâwyd gan bawb o'i phlant.
36 ¶ Ac un o'r Phariseaid a ddymunodd arno fwytta gyd âg ef: ac yntau a aeth i dŷ y Pharisead, ac a eisteddodd i fwytta.
37 Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ y Pharisead, a ddug flwch o ennaint:
38 A chan sefyll wrth ei draed ef o'r tu ol, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a'u hirodd â'r ennaint.
39 A phan welodd y Pharisead, yr hwn a'i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai hwn brophwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw yr hon sydd yn cyffwrdd âg ef: canys pechadures yw hi.
40 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i'w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athraw, dywed.
41 Dau ddyledwr oedd i'r un echwynwr: y naill oedd arno bùm càn ceiniog o ddyled, a'r llall ddeg a deugain.
42 A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o'r rhai hyn a'i câr ef yn fwyaf?
43 A Simon a attebodd ac a ddywedodd, Yr wyf fi yn tybied mai yr hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist.
44 Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A weli di y wraig hon? mi a ddeuthum i'th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i'm traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen.
45 Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddeuthum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed.
46 Fy mhen âg olew nid iraist: ond hon a irodd fy nhraed âg ennaint.
47 O herwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei haml bechodau hi; oblegid hi a garodd yn fawr: ond y neb y maddeuer ychydig iddo, a gâr ychydig.
48 Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau.
49 A'r rhai oedd yn cyd-eistedd i fwytta a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd yn maddeu pechodau hefyd?
50 Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd a'th gadwodd; dos mewn tangnefedd.
PENNOD VIII.
1 Y gwragedd yn gweini í Grist o'u golud. 4 Crist, wedi iddo bregethu o fan i fan, a'i apostolion yn ei ganlyn, yn gosod allan ddammeg yr hauwr; 16 a'r ganwyll: 21 yn dangos pwy ydyw ei fam a'i frodyr 22 yn ceryddu y gwyntoedd: 26 yn bwrw y lleng gythreuliaid allan o'r dyn i'r gen faint foch. 37 Y Gadareniaid yn ei wrthod ef: 43 yntau yn iachâu y wraig d'i diferlif gwaed, 49 ac yn bywhdu merch Jairus.
1 A BU wedi hynny, iddo fyned trwy bob dinas a thref, gan bregethu, ac efengylu teyrnas Dduw: a'r deuddeg oedd gyd âg ef;
2 A gwragedd rai, a'r a iachesid oddi wrth ysprydion drwg a gwendid; Mair yr hon a elwid Magdalen, o'r hon yr aethai saith gythraul allan;
3 Joanna, gwraig Chusa goruchwyliwr Herod, a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o'r pethau oedd ganddynt.
4 ¶ Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghyd, a chyrchu atto o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddammeg:
5 Yr hauwr a aeth allan i hau ei had: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd; ac ehediaid y nef a'i bwyttaodd.
6 A pheth arall a syrthiodd ar y graig; a phan eginodd, y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr.
7 A pheth arall a syrthiodd ym mysg drain; a'r drain a gyd-dyfasant, ac a'i tagasant ef.
8 A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd a chlustiau ganddo i wran daw, gwrandawed.
9 A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddammeg oedd hon?
10 Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant.
11 A dyma y ddammeg: Yr had yw gair Duw.
12 A'r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw y rhai sydd yn gwrandaw; wedi hynny y mae y diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair o'u calon hwynt, rhag iddynt gredu, a bod yn gadwedig.
13 A'r rhai ar y graig, yw y rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.
14 A'r hwn a syrthiodd ym mysg drain, yw y rhai a wrandawsant; ac wedi iddynt fyned ymaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd.
15 A'r hwn ar y tir da, yw y rhai hyn, y rhai & chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrandaw y gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.
16 ¶ Nid yw neb wedi goleu canwyll, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei dodi dan wely; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren, fel y caffo y rhai a ddel i mewn weled y goleuni.
17 Canys nid oes dim dirgel, a'r ni bydd amlwg; na dim cuddiedig, a'r nis gwybyddir, ac na ddaw i'r goleu.
18 Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: canys pwy bynnag y mae ganddo, y rhoddir iddo; a'r neb nid oes ganddo, ie, yr hyn y mae yn tybied ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.
19 Daeth atto hefyd ei fam a'i frodyr; ac ni allent ddyfod hyd atto gan y dorf.
20 A mynegwyd iddo gan rai, yn dywedyd, Y mae dy fam a'th frod- yr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled.
21 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy mam i a'm brodyr i yw y rhai hyn sydd yn gwrandaw gair Duw, ac yn ei wneuthur.
22 ¶ A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a'i ddisgyblion: a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i'r tu hwnt i'r llyn. A hwy a gychwynasant.
23 Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chawod o wynt a ddisgynodd ar y llyn; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd.
24 A hwy a aethant atto, ac a'i deffroisant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu am danom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a'r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pale y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni, a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth eu gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i'r gwyntoedd ac i'r dwfr hefyd, a hwythau yn ufuddhâu iddo?
26 ¶ A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o'r tu arall, ar gyfer Galilea.
27 Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu âg ef ryw wr o'r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau.
28 Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu, Fab Duw goruchaf? yr wyf yn attolwg i ti na'm poenech.
29 (Canys efe a orchymynasai i'r yspryd aflan ddyfod allan o'r dyn. Canys llawer o amserau y cipiasaief; ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau; ac wedi dryllio y rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythraul i'r diffaethwch.)
30 A'r Iesu a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef.
31 A hwy a ddeisyfasant arno, na orchymynai iddynt fyned i'rdyfnder. 32 Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd: a hwynt-hwy a attolygasant iddo adael idd ynt fyned i mewn i'r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt.
33 A'r cythreuliaid a aethant allan o'r dyn, ac a aethant i mewn i'r moch: a'r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i'r llyn, ac a foddwyd.
34 A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoisant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad.
35 A hwy a aethant allan i weled y peth a wnelaid; ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn, o'r hwn yr aethai y cythreuliaid allan, yn ei ddillad, a'i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnasant.
36 A'r rhai a welsent, a fynegasant hefyd iddynt pa fodd yr iachasid y cythreulig.
37 ¶ A'r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt; am eu bod mewn ofn mawr. Ac efe wedi myned i'r llong, a ddychwelodd.
38 A'r gwr o'r hwn yr aethai y cythreuliaid allan, a ddeisyfodd arno gael bod gyd âg ef: eithr yr Iesu a'i danfonodd ef ymaith, gan ddywedyd,
39 Dychwel i'th dŷ, a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth, dan bregethu trwy gwbl o'r ddinas, faint a wnaethai yr Iesu iddo.
40 A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o'r bobl ef: canys yr oeddynt oll yn disgwyl am dano ef.
41 Ac wele, daeth gwr a'i enw Jairus; ac efe oedd lywodraethwr y synagog: ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a attolygodd iddo ddyfod i'w dŷ ef:
42 O herwydd yr oedd iddo ferch unig-anedig, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw. Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a'i gwasgent ef.
43 ¶ A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlyn edd, yr hon a dreuliasai ar physygwyr ei holl fywyd, ac nis gallai gael gan neb ei hiachâu,
44 A ddaeth o'r tu cefn, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef: ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi.
45 A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyffyrddodd â mi? Ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Petr, a'r rhai oedd gyd âg ef, O Feistr, y mae y bobloedd yn dy wasgu, ac yn dy flino; ac a ddywedi di, Pwy yw a gyffyrddodd â mi?
46 A'r Iesu a ddywedodd, Rhyw un a gyffyrddodd â mi: canys mi a wn fyned rhinwedd allan o honof.
47 A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo, y'ngŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddasai hi âg ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd.
48 Yntau a ddywedodd wrthi, Cymmer gysur, ferch; dy ffydd a'th iachaodd: dos mewn tangnefedd.
49 ¶ Ac efe etto yn llefaru, daeth un o dŷ llywodraethwr y synagog, gan ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch: na phoena mo'r Athraw.
50 A'r Iesu pan glybu hyn, a'i hattebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna cred yn unig, a hi a iachêir.
51 Ac wedi ei fyned ef i'r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn, ond Petr, ac Iago, ac Ioan, a thad yr eneth a'i mam.
52 Ac wylo a wnaethant oll, a chwynfan am dani. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: nid marw hi, eithr cysgu y mae.
53 A hwy a'i gwatwarasant ef, am iddynt wybod ei marw hi.
54 Ac efe a'u bwriodd hwynt oll allan, ac a'i cymmerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd, gan ddywedyd, Herlodes, cyfod.
55 A'i hyspryd hi a ddaeth drachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd: ac efe a orchymynodd roi bwyd iddi.
56 A synnu a wnaeth ar ei rhïeni hi: ac efe a orchymynodd iddynt, na ddywedent i neb y peth a wnaethid.
PENNOD IX.
1 Crist yn anfon ei apostolion i wneuthur rhyfeddodau, ac i bregethu. 7 Herod yn chwennych gweled Crist. 10 Crist yn porthi pum mil: 18 yn ymofyn beth yr oedd y byd yn ei dybied am dano: 22 yn rhag-fynegi ei ddioddefaint: 23 yn gosod allan i bawb siampl o'i ddioddefgarwch. 28 Eiwedd-newidiad ef. 37 Mae efe yn iachdu y lloerig: 43 a thrachefn yn rhag-rybuddio ei ddisgyblion am ei ddioddefaint: 46 yn canmol gostyngeiddrwydd; 51 yn gorchymyn iddynt ddangos llarieidd-dra tu ag at bawb, heb chwennych dial. 57 Rhai yn chwennych ei ganlyn ef, ond dan ammod.
1 AC efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl, ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iachâu clefydau.
2 Ac efe a'u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iachâu y rhai cleifion.
3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymmerwch ddim i'r daith, na ffyn, nac ysgrepan, na bara, nac arian; ac na fydded gennych ddwy bais bob un.
4 Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadowch.
5 A pha rai bynnag ni'ch derbyniant, pan eloch allan o'r ddinas honno, ysgydwch hyd yn nod y llwch oddi wrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt.
6 Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethant trwy y trefi, gan bregethu yr efengyl, a iachâu ym. mhob lle.
7 ¶ A Herod y tetrarch a glybu y cwbl oll a wnaethid ganddo; ac efe a betrusodd, am fod rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw;
8 A rhai eraill, ymddangos o Elïas; a rhai eraill, mai prophwyd, un o'r rhai gynt, a adgyfodasai.
9 A Herod a ddywedodd, Ioan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau am dano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.
10 ¶ A'r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo y cwbl a wnaethent. Ac efe a'u cymmerth hwynt, ac a aeth o'r neilldu, i le anghyfannedd yn perthynu i'r ddinas a elwir Bethsaida.
11 A'r bobloedd pan wybuant, a'i dilynasant ef: ac efe a'u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisieu eu hiachâu.
12 A'r dydd a ddechreuodd hwyrhâu; a'r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i'r trefi, ac i'r wlad oddi amgylch, i lettŷa, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd.
13 Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwytta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pùm torth, a dau bysgodyn, oni bydd i ni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll.
14 Canys yr oeddynt ynghylch pùm mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain.
15 Ac felly y gwnaethant; a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd.
16 Ac efe a gymmerodd y pùm torth, a'r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fynu i'r nef, ac a'u bendithiodd hwynt, ac a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'r disgyblion i'w gosod ger bron y bobl.
17 A hwynt-hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friw-fwyd, ddeuddeg basgedaid.
18 ¶ Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddio ei hunan, fod ei ddisgyblion gyd âg ef: ac efe a ofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae y bobl yn dywedyd fy mod i?"
19 Hwythau gan atteb a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ond eraill, mai Elias; ac eraill, mai rhyw brophwyd o'r rhai gynt a adgyfododd.
20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phetr gan atteb a ddywedodd, Crist Duw.
21 Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb;
22 Gan ddywedyd, Mae yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a'i wrthod gan yr henuriaid, a'r arch-offeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd adgyfodi.
23 ¶ Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi.
24 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a'i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o'm hachos i, hwnnw a'i ceidw hi.
25 Canys pa lesâd i ddyn, er ennill yr holl fyd, a'i ddifetha ei hun, neu fod wedi ei golli?
26 Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a'r Tad, a'r angelion sanctaidd.
27 Eithr dywedaf i chwi yn wir, Y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r ni archwaethant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw.
28 ¶ A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi y geiriau hyn, gymmeryd o hono ef Petr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fynu i'r mynydd i weddïo.
29 Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynebpryd ef a newidiwyd, a'i wisg oedd yn wèn ddisglaer.
30 Ac wele, dau wr a gyd-ymddiddanodd âg ef, y rhai oedd Moses ac Elias:
31 Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerusalem.
32 A Phetr, a'r rhai oedd gyd âg ef, oeddynt wedi trymhâu gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a'r ddau wr y rhai oedd yn sefyll gyd âg ef.
33 A bu, a hwy yn ymadaw oddi wrtho ef, ddywedyd o Petr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.
34 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmmwl, ac a'u cysgododd hwynt: a hwynt-hwy a ofnasant wrth fyned o honynt i'r cwmmwl.
35 A daeth llef allan o'r cwmmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab anwyl; gwrandewch ef.
36 Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o'r pethau a welsent.
37 ¶ A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o'r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod âg ef.
38 Ac wele, gwr o'r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athraw, yr wyf yn attolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig-anedig yw.
39 Ac wele, y mae yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yntau yn ddisymmwth yn gwaeddi; ac y mae yn ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef.
40 Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant.
41 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlawn a throfaus, pa hyd y byddaf gyd â chwi, ac y'ch goddefaf? dwg dy fab yma.
42 Ac fel yr oedd efe etto yn dyfod, y cythraul a'i rhwygodd ef, ac a'i drylliodd a'r Iesu a geryddodd yr yspryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a'i rhoddes ef i'w dad.
43 ¶ A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai yr Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
44 Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dyn a draddodir i ddwylaw dynion.
45 Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel nas deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn âg ef am y gair hwn.
46 ¶ A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf o honynt.
47 A'r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymmerth fachgennyn, ac a'i gosododd yn ei ymyl,
48 Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio y bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a'm derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnuw a fydd mawr.
49 ¶ Ac Ioan a attebodd ac a ddywedodd, O Feistr, ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid; ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyd â ni.
50 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch iddo: canys y neb nid yw i'n herbyn, trosom ni y mae.
51 ¶ A bu, pan gyflawnwyd y dyddian y cymmerid ef i fynu, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerusalem.
52 Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i barottôi iddo ef.
53 Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tu a Jerusalem.
54 A'i ddisgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynmi di ddywedyd o honom am ddyfod tân i lawr o'r nef, a'u difa hwynt, megis y gwnaeth Elias?
55 Ac efe a drodd, ac a'u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba yspryd yr ydych chwi.
56 Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw. A hwy a aethant i dref arall.
57 ¶ A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.
58 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffauau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr.
59 Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.
60 Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gâd i'r meirw gladdu eu meirw; ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw.
61 Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a'th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gâd i mi yn gyntaf ganu yn iach i'r rhai sydd yn fy nhy.
62 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymmwys i deyrnas Dduw.
PENNOD X.
1 Crist yn anfon allan ar unwaith ddeg disgybl a thri ugain i wneuthur gwyrthiau, ac i bregethu; 17 yn eu rhybuddio hwy i fod yn ostyngedig, ac ym mha beth y gorfoleddent: 21 yn diolch i'w Dad am ei ras: 23 yn mawrygu dedwydd gyflwr ei eglwys: 25 yn dysgu y cyfreithiwr y modd i gael bywyd tragywyddol, ac i gymmeryd pawb yn gymmydog iddo, a'r a fo ag eisieu ei drugaredd ef arno: 41 yn argyhoeddi Martha, ac yn canmol Mair ei chwaer hi.
WEDI y pethau hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ddeg a thri ugain eraill hefyd, ac a'u danfonodd hwynt bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod.
2 Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: gweddiwch gan hynny ar Arglwydd y cynhauaf, am ddanfon allan weith- wyr i'w gynhauaf.
3 Ewch: wele, yr wyf fi yn eich danfon chwi fel ŵyn ym mysg bleiddiaid.
4 Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd. 5 Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i'r tŷ hwn.
6 Ac o bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd a orphwys arno: os amgen, hi a ddychwel attoch chwi.
7 Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwytta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt: canys teilwng yw i'r gweithiwr ei gyflog. Na threiglwch o dŷ i dŷ.
8 A pha ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwyttêwch y cyfryw bethau ag a rodder ger eich bronnau:
9 Ac iachêwch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Daeth teyrnas Dduw yn agos attoch.
10 Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i'w heolydd, a dywedwch,
11 Hyd yn nod y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o'ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fod teyrnas Dduw wedi nesâu attoch.
12 Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sod- om yn y dydd hwnnw, nag i'r ddinas honno.
13 Gwae di, Chorazin! gwae di, Bethsaida canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachlïan a lludw.
14 Eithr esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi. 15 A thithau, Capernaum, yr hon ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern.
16 Y neb sydd yn eich gwrandaw chwi, sydd yn fy ngwrandaw i; a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a'r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu yr hwn a'm hanfonodd i.
17 ¶ A'r deg a thri ugain a ddychwelasant gyd â llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn nod y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di.
18 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o'r nef.
19 Wele, yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirph ac ysgorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi.
20 Eithr yn hyn na lawenhêwch, fod yr ysprydion wedi eu darostwng ichwi; ond llawenhêwch yn hytrach, am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd.
21 ¶ Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr yspryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio o honot y pethau hyn oddi wrth y doethion a'r deallus, a'u datguddio o honot i rai bychain: yn wir, O Dad; oblegid felly y gwelid yn dda yn dy olwg di.
22 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni ŵyr neb pwy yw y Mab, ond y Tad; na phwy yw y Tad, ond y Mab, a'r neb y mynno y Mab ei ddatguddio iddo.
23 ¶ Ac efe a drodd at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd o'r neilldu, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled:
24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o brophwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
25 ¶ Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athraw, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragywyddol?
26 Yntau a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni?
27 Ac efe gan atteb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, ac a'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac a'th holl feddwl; a'th gymmydog fel ti dy hun.
28 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a attebaist yn uniawn gwna hyn, a byw fyddi.
29 Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhâu ei hun, a ddywedodd wrth. yr Iesu, A phwy yw fy nghymmydog?
30 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerusalem i Jericho, ac a syrthiodd ym mysg lladron; y rhai wedi ei ddïosg ef, a'i archolli, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner marw.
31 Ac ar ddamwain, rhyw offeiriad a ddaeth i waered y ffordd honno: a phan ei gwelodd, efe a aeth o'r tu arall heibio.
32 A'r un ffunud Lefiad hefyd, wedi dyfod i'r fan, a'i weled ef, a aeth o'r tu arall heibio.
33 Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, a ddaeth atto ef: a phan ei gwelodd, a dosturiodd,
34 Ac a aeth atto, ac a rwymodd ei archollion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin; ac a'i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i dug ef i'r lletty, ac a'i hamgeleddodd.
35 A thrannoeth wrth fyned ymaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a'u rhoddes i'r llettŷwr, ac a ddywedodd wrtho, Cymmer ofal drosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn, mi a'i talaf i ti.
36 Pwy gan hynny o'r tri hyn, yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymmydog i'r hwn a syrthiasai ym mhlith y lladron?
37 Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd âg ef. A'r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd.
38 ¶ A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod o hono i ryw dref: a rhyw wraig, a'i hénw Martha, a'i derbyniodd ef i'w thŷ.
39 Aci hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef.
40 Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll ger llaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennyt am i'm chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy helpio.
41 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt ynghylch llawer o bethau:
42 Eithr un peth sydd angenrheidiol: a Mair a ddewisedd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arni.
PENNOD XI.
1 Crist yn dysgu gweddio: a hynny heb ddiffygio: 11 gan sicrhau y rhydd Duw felly i ni bethau da. 14 Wrth fwrw allan gythraul mud, y mae efe yn ceryddu y Phariseaid cablaidd: 28 ac yn dangos pwy sydd fendigedig: 29 ac yn pregethu i'r bobl; 37 ac yn argyhoeddi ffug sancteiddrwydd y Phariseaid, a'r ysgrifenyddion, a'r cyfreithwyr.
A BU, ac efe mewn rhyw fan yn gweddio, pan beidiodd, ddywedyd o un o'i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd Ioan i'w ddisgyblion.
2 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
3 Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol.
4 A maddeu i ni ein pechodau : canys yr ydym ninnau yn maddeu i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.
5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy o honoch fydd iddo gyfaill, ac a à atto hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn;
6 Canys cyfaill i mi a ddaeth attaf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i'w ddodi ger ei fron ef:
7 Ac yntau oddi mewn a ettyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae y drws yn gauad, a'm plant gyd â mi yn y gwely; ni allaf godi a'u rhoddi i ti.
8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; etto o herwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynnifer ag y sydd arno eu heisieu.
9 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi.
10 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i'r hwn sydd yn curo, yr agorir.
11 Os bara a ofyn mab i un o honoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarph yn lle pysgodyn?
12 Neu os gofyn efe ŵy, a ddyry efe ysgorpion iddo?
13 Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i'ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r nef yr Yspryd Glân i'r rhai a ofyno ganddo?
14 ¶ Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i'r cythraul fyned allan, i'r mudan lefaru; a'r bobloedd a ryfeddasant.
15 Eithr rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.
16 Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o'r nef.
17 Yntau, yn gwybod en meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir; a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth.
18 Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelzebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid.
19 Ac os trwy Beelzebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.
20 Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diammeu ddyfod teyrnas Dduw attoch chwi.
21 Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae yr hyn sydd ganddo mewn heddwch:
22 Ond pan ddel un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef.
23 Y neb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn a'r neb nid yw yn casglu gyd â mi, sydd yn gwasgaru. 24 Pan êl yr yspryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorphwysdra : a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan.
25 A phan ddel, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a'i drefnu.
26 Yna yr â efe, ac y cymmer atto saith yspryd eraill gwaeth nag ef ei hun; a hwy a ânt i mewn, ac a arhosant yno: a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na'i ddechreuad.
27 ¶ A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a'th ddug di, a'r bronnau a sugnaist.
28 Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrandaw gair Duw, ac yn ei gadw.
29 Ac wedi i'r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd daywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonas y prophwyd.
30 Canys fel y bu Jonas yn arwydd i'r Ninifeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i'r genhedlaeth hon.
31 Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â gwyr y genhedlaeth hon, ac a'u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrandaw doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma.
32 Gwŷr Ninife a godant i fynu yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt edifarhâu wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma.
33 Ac nid yw neb wedi goleu canwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo y rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.
34 Canwyll y corph yw y llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorph hefyd fydd oleu; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorph hefyd fydd tywyll.
35 Edrych am hynny rhag i'r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch.
36 Os dy holl gorph gan hynny sydd oleu, heb un rhan dywyll yn ddo, bydd y cwbl yn oleu, megis pan fo canwyll â'i llewyrch yn dy oleuo di.
37 ¶ Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead a ddymunodd arno giniawa gyd âg ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwytta.
38 A'r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen ciniaw.
39 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhâu y tu allan i'r cwppan a'r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.
40 O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd o fewn hefyd?
41 Yn hytrach rhoddwch elusen o'r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lân i chwi.
42 Eithr gwae chwi y Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymmu y mintys, a'r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.
43 Gwae chwi y Phariseaid! canys yr ydych yn caru y prif-gadeiriau yn y synagogau, a chyfarch yn y marchnadoedd.
44 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! am eich bod fel beddau anamlwg, a'r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt.
45 ¶ Ac un o'r cyfreithwyr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Athraw, wrth ddywedyd hyn, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd.
46 Yntau a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr! canys yr ydych yn llwytho dynion â beichiau anhawdd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd â'r beichiau âg un o'ch bysedd.
47 Gwae chwychwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau y prophwydi, a'ch tadau chwi a'u lladdodd hwynt.
48 Yn wir yr ydych yn tystiolaethu, ac yn gyd-foddlawn i weithredoedd eich tadau: canys hwynt-hwy yn wir a'u lladdasant hwy, a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt.
49 Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw, Anfonaf attynt brophwydi ac apostolion, a rhai o honynt a laddant ac a erlidiant:
50 Fel y gofyner i'r genhedlaeth hon waed yr holl brophwydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y byd;
51 O waed Abel hyd waed Zacharias, yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a'r deml: diau meddaf i chwi, Gofynir ef i'r genhedlaeth hon.
52 Gwae chwychwi, y cyfreithwyr! canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a'r rhai oedd yn myned a waharddasoch chwi.
53 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid fod yn daer iawn daer iawn arno, a'i annog i ymadrodd am lawer o bethau;
54 Gan ei gynllwyn ef, a cheisio hela rhyw beth o'i ben ef, i gael achwyn arno.
PENNOD XII.
1 Crist yn pregethu i'w ddisgyblion am ochel rhagrith, ac ofn wrth ddatgan ei athrawiaeth ef: 13 yn rhybuddio y bobl i ochelyd cybydd-dra, trwy ddammeg y gwr goludog a adeiladodd ysguboriau mwy. 22 Ni wasanaetha i ni fod yn rhy ofalus am bethau bydol; 31 ond ceisio teyrnas Dduw, 33 a rhoddi elusen, 36 a bod yn barod i agoryd in Harglwydd pan guro, pa bryd bynnag y delo. 41 Y dylai gweinidogion Crist edrych ar eu siars, 49 a disgwyl am erlid. 54 Rhaid i'r bobl dderbyn yr amser hwn o ras, 58 oblegid peth ofnadwy yw marw heb gymmodi.
YN y cyfamser, wedi i fyrddiwn bobl ymgasglu ynghyd, hyd oni ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith.
2 Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nas datguddir; na dirgel, a'r nis gwybyddir.
3 Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y goleu; a'r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai.
4 Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corph, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i'w wneuthur.
5 Ond rhag-ddangosaf i chwi pwy a ofnwch Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch.
6 Oni werthir pump o adar y tô er dwy ffyrling? ac nid oes un o hon- ynt mewn anghof ger bron Duw:
7 Ond y mae hyd yn nod blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch yr ydych chwi yn well na llawer o adar y tô.
8 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a'm haddefo i ger bron dynion, Mab y dyn hefyd a'i haddef yntau ger bron angelion Duw.
9 A'r hwn a'm gwado i ger bron dynion, a wedir ger bron angelion Duw.
10 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i'r neb a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir.
11 A phan y'ch dygant i'r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a'r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a atteboch, neu beth a ddywedoch: 12 Canys yr Yspryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd.
13 A rhyw un o'r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athraw, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth.
14 Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a'm gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi?
15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd-dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.
16 ¶ Ac efe a draethodd wrthynt ddammeg, gan ddywedyd, Tir rhyw wr goludog a gnydiodd yn dda.
17 Ac efe a ymresymmodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo?
18 Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a'm dâ.
19 A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt ddå lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynydd- oedd: gorphwys, bwytta, ŷf, bydd lawen.
20 Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a barottoaist?
21 Felly y mae yr hwn sydd yn trysori iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw.
22 ¶ Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymmerwch ofal am eich bywyd, beth a fwyttaoch; nac am eich corph, beth a wisgoch.
23 Y mae y bywyd yn fwy na'r ymborth, a'r corph yn fwy na'r dillad.
24 Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i'r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na'r adar?
25 A phwy o honoch, gan gymmeryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli?
26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymmeryd gofal am y lleill?
27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn.
28 Ac os yw Duw felly yn dilladu y llysieuyn, yr hwn sydd heddyw yn y maes, ac y fory a deflir i'r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd?
29 Chwithau na cheisiwch beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch ammheüus.
30 Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisieu y pethau hyn.
31 ¶ Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a'r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg.
32 Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i'ch Tad roddi i chwi y deyrnas.
33 Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf.
34 Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd.
35 Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu, a'ch canhwyllau wedi eu goleu:
36 A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o'r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd.
37 Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddel, yn neffro: yn wir, meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwytta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy.
38 Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth, ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a'u cael hwynt felly, gwyn eu byd y gweision hynny.
39 A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gwr y tŷ pa awr y deuai y lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dy trwodd.
40 A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn. 41 TA Phetr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddammeg hon, ai wrth bawb hefyd?
42 A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw y goruchwyliwr ffyddlawn a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd?
43 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddel, yn gwneuthur felly.
44 Yn wir meddaf i chwi, Efe a'i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl a'r y sydd eiddo.
45 Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechreu curo y gweision a'r morwynion, a bwytta ac yfed, a meddwi;
46 Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyd â'r anffyddloniaid.
47 A'r gwas hwnnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbarottodd, ac ni wnaeth yn ol ei ewyllys ef, a gurir à llawer ffonnod.
48 Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonnodiau, a gurir âg ychydig fonnodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynir ganddo; a chyd a'r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynant ganddo.
49 Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear: a pheth a fynnaf os cynneuwyd ef eisoes?
50 Eithr y mae gennyf fedydd i'm bedyddio âg ef; ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orphener!
51 Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i'w roddi ar y ddaear? nag ê, meddaf i chwi; ond yn hytrach ymrafael:
52 Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri.
53 Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a'r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch, a'r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.
54 ¶ Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmmwl yn codi o'r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae.
55 A phan weloch y deheu-wynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres: ac fe fydd.
56 O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynebpryd y ddaear a'r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?
57 A phaham nad ydych, ïe, o honoch eich hunain, yn barnu yr hyn sydd gyfiawn?
58 ¶ Canys tra fyddech yn myned gyd a'th wrthwynebwr at lywodraethwr, gwna dy oreu ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog, ac i'r swyddog dy daflu yng ngharchar:
59 Yr wyf yn dywedyd i ti, Nad âi di ddim oddi yno, hyd oni thelych, ïe, yr hatling eithaf.
PENNOD XIII.
1 Crist yn pregethu edifeirwch, wrth gospedigaeth y Galileaid, ac eraill. 6 Y figysbren diffrwyth ni chaiff sefyll. 11 Crist yn iachau y wraig oedd wedi crymmu: 18 yn dangos galluog weithrediad y gair y'nghalonnau ei etholedigion, trwy ddammeg y gronyn mustard, a'r surdoes: 24 yn annog i fyned i mewn trwy y porth cyfyng: 31 ac yn argyhoeddi Herod, a Jerusalem. Aº A amser hwnnw rai yn mynegi yr oedd yn bresennol y cyfiddo am y Galileaid, y rhai y cymmysgasai Pilat eu gwaed ynghyd â'u haberthau.
2 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na'r holl Galileaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau?
3 Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhêwch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd.
4 Neu y deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ao a'u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn bechaduriaid mwy na'r holl ddynion oedd yn cyfanneddu yn Jerusalem?
5 Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhêwch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd.
6 ¶ Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon: Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan; ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac nis cafodd.
7 Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllannydd, Wele, tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn; ac nid ydwyf yn cael dim: torr ef i lawr; paham y mae efe yn diffrwytho y tir?
8 Ond efe gan atteb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o'i amgylch, a bwrw tail :
9 Ac os dwg efe ffrwyth, da: onid ê, gwedi hynny torr ef i lawr.
10 Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o'r synagogau ar y Sabbath.
11 ¶ Ac wele, yr oedd gwraig ag ynddi yspryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cyd-grymmu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymuniawnu.
12 Pan welodd yr Iesu hon, efe a'i galwodd hi atto, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid.
13 Ac efe a roddes ei ddwylaw arni; ac yn ebrwydd hi a uniawnwyd, ac a ogoneddodd Dduw.
14 A'r arch-synagogydd a attebodd yn ddigllawn, am i'r Iesu iachâu ar y Sabbath, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithio: ar y rhai hyn gan hynny deuwch, a iachâer chwi: ac nid ar y dydd Sabbath.
15 Am hynny yr Arglwydd a'i hattebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pob un o honoch ar y Sabbath ei ŷch neu ei asyn o'r preseb, a'i arwain i'r dwfr?
16 Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhâu o'r rhwym hwn ar y dydd Sabbath?
17 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant: a'r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wnaid ganddo.
18 ¶ Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn debyg? ac i ba beth y cyffelybaf hi?
19 Tebyg yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a'i hauodd yn ei ardd; ac efe a gynnyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef.
20 A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw ?
21 Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni surodd y cwbl oll.
22 Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi, gan athrawiaethu, ac ymdeithio tu a Jerusalem.
23 ¶ A dywedodd un wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt,
24 Ymdrechwch am fyned i mewn trwy y porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant.
25 Gwedi cyfodi gwr y tŷ, a chau y drws, a dechreu o honoch sefyll oddi allan, a churo y drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau atteb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim o honoch o ba le yr ydych:
26 Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwyttasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein heolydd ni.
27 Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwyr anwiredd.
28 Yno y bydd wylofain a rhingeian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a'r holl brophwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan.
29 A daw rhai o'r dwyrain, ac o'r gorllewin, ac o'r gogledd, ac o'r dehau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw.
30 Ac wele, olaf ydyw y rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw y rhai a fyddant olaf.
31 ¶ Y dwthwn hwnnw y daeth atto ryw Phariseaid, gan ddywedyd wrtho, Dos allan, a cherdda oddi yma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.
32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, a dywedwch i'r cadnaw hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iachâu heddyw ac y fory, a'r trydydd dydd y'm perffeithir.
33 Er hynny rhaid i mi ymdaith heddyw ac y fory, a thrennydd : canys ni all fod y derfydd am brophwyd allan o Jerusalem.
34 O Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a anfonir attat: pa sawl gwaith y mynnaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!
35 Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.
PENNOD XIV.
2 Crist yn iachau y dropsi ar y Sabbath: 7 yn dysgu gostyngeiddrwydd; 12 a gwneuthur ciniawau ir tlodion: 16 wrth ddammeg y supper mawr, yn dangos pa fodd y cauir dynion d meddyliau bydol, y rhai a ddiystyrant air Duw, allan o'r nef. 25 Rhaid i'r rhai a fynnai fod yn ddisgyblion iddo, i ddwyn eu croes, a gwneuthur eu cyfrifon ym mlaen llaw; rhag iddynt trwy gywilydd syrthio oddi wrtho ar ol hynny, 34 a myned yn gwbl ddilês, fel halen wedi colli ei flas.
BU hefyd, pan ddaeth efe i dŷ un o bennaethiaid y Phariseaid ar y Sabbath, i fwytta bara, iddynt hwythau ei wylied ef.
2 Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o'r dropsi.
3 A'r Iesu gan atteb a lefarodd wrth y cyfreithwyr a'r Phariseaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iachâu ar y Sabbath?
4 A thewi a wnaethant. Ac efe a'i cymmerodd atto, ac a'i hiachaodd ef, ac a'i gollyngodd ymaith;
5 Ac a attebodd iddynt hwythau, ac a ddywedodd, Asyn neu ŷch pa un o honoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd nis tyn ef allan ar y dydd Sabbath?
6 Ac ni allent roi atteb yn ei erbyn ef am y pethau hyn.
7 ¶ Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion ddammeg, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf; gan ddywedyd wrthynt,
8 Pan y'th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle uchaf, rhag bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo;
9. Aci hwn a'th wahoddodd di ac yntau ddyfod, a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn; ac yna dechreu o honot ti trwy gywilydd gymmeryd y lle isaf.
10 Eithr pan y'th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf; fel pan ddelo yr hwn a'th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cyfaill, eistedd yn uwch i fynu: yna y bydd i ti glod yngwydd y rhai a eisteddant gyd â thi ar y bwrdd.
11 Canys pob un a'r a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
12 ¶ Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a'i gwa- hoddasai ef, Pan wnelych giniaw neu swpper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th geraint, na'th gymmydogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti.
13 Eithr pan wnelych wledd, galw y tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:
14 A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn adgyfodiad y rhai cyfiawn.
15 A phan glywodd rhyw un o'r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwyttao fara yn nheyrnas Dduw.
16 Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw wr a wnaeth swpper mawr, ac a wahoddodd lawer:
17 Ac a ddanfonodd ei was bryd swpper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod.
18 A hwy oll a ddechreuasant yn un-fryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned a'i weled: attolwg i ti, cymmer fi yn esgusodol.
19 Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bùm iau o ychain, ac yr ydwyf yn myned i'w profi hwynt: attolwg i ti, cymmer fi yn esgusodol.
20 Ac arall a ddywedodd, Mi a brïodais wraig; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod.
21 A'r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gwr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion.
22 A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynaist; ac etto y mae lle.
23 A'r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i'r prifffyrdd a'r cacau, a chymmell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.
24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o'r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o'm swpper i.
25 ¶ A llawer o bobl a gyd-gerddodd âg ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt,
26 Os daw neb attaf fi, ac ni chasao ei dad, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ïe, a'i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.
27 A phwy bynnag ni ddycco ei groes, a dyfod ar fy ol i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.
28 ¶ Canys pwy o honoch chwi a'i fryd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw y draul, a oes ganddo a'i gorpheno?
29 Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orphen, ddechreu o bawb a'i gwelant ei watwar ef,
30 Gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orphen.
31 Neu pa frenhin yn myned i ryfel yn erbyn brenhin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe à deng mil gyfarfod a'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef âg ugain mil?
32 Ac os amgen, tra fyddo efe ym mhell oddi wrtho, efe a enfyn gennadwri, ac a ddeisyf ammodau heddwch.
33 Felly hefyd, pob un o honoch chwithau nid ymwrthodo â chymmaint oll ag a feddo, ni all fod ddisgybl i mi. yn
34 ¶ Da yw yr halen: eithro bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef?
35 Nid yw efe gymmwys nac i'r tir, nac i'r dommen; ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.
PENNOD XV.
1 Dammeg y ddafad a gollesid, 8 y darn arian, 14 a'r mab afradlon.
Ac yr oedd holl bublicanod a'r pechaduriaid yn nesâu atto ef, i wrandaw arno.
2 A'r Phariseaid a'r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwytta gyd â hwynt.
3 ¶ Ac efe a adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddywedyd,
4 Pa ddyn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un o honynt, nid yw yn gadael yr amyn un pùm ugain yn yr anialwch, ac yn myned ar ol yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?
5 Ac wedi iddo ei chael, efe a'i dŷd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen.
6 A phan ddêl adref, efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a'i gymmydogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyd â mi; canys cefais fy nafad a gollasid.
7 Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pùm ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.
8 ¶ Neu pa wraig a chanddi ddeg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni oleu ganwyll, ac ysgubo y tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo ef?
9 Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a'i chymmydogesau, gan ddywedyd, Cydlawenhêwch â mi; canys cefais y dryll a gollaswn.
10 Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd y'ngŵydd angelion Duw am un pechadur a edifarhao.
11 ¶ Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw wr ddau fab:
12 A'r ieuangaf o honynt a ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.
13 Ac ar ol ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymmerth ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgarodd ei ddâ, gan fyw yn afradlon.
14 Ac wedi iddo dreulio y cwbl, y cododd newyn mawr trwy y wlad honno; ac yntau a ddechreuodd fod mewn eisieu.
15 Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a'i hanfonodd ef i'w feusydd i borthi moch.
16 Ac efe a chwennychai lenwi ei fol â'r cibau a fwyttâi y moch; ac ni roddodd neb iddo.
17 A phan ddaeth atto ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o'r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a'u gweddill o fara, a minnau yn marw o newyn?
18 Mi a godaf, ac a âf at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau;
19 Ac mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fabiti: gwna fi fel un o'th weision cyflog.
20 Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe etto ym mhell oddi wrtho, ei dad a'i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd.
21 A'r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng i'm galw yn fab i ti.
22 A'r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch am dano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed:
23 A dygwch y llo pasgedig, a lleddwch ef; a bwyttâwn, a byddwn lawen.
24 Canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen.
25 Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesâu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio.
26 Ac wedi iddo alw un o'r gweision, efe a ofynodd beth oedd hyn.
27 Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth; a'th dad a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach.
28 Ond efe a ddigiodd, ac nid âi i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd âg ef.
29 Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynnifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dy orchymyn; ac ni roddaist fyn erioed i mi, i fod yn llawen gyd a'm cyfeillion:
30 Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywyd di gyd â phutteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig.
31 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyd â mi, a'r eiddof fi oll ydynt eiddot ti.
32 Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.
PENNOD XVI.
1 Dammeg y goruchwyliwr anghyfiawn. 14 Crist yn ceryddu rhagrith y Phariseaid cybyddlyd. 19 Y glwth goludog, a Lazarus y cardottyn.
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw wr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei ddâ ef.
2 Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn oruchwyliwr.
3 A'r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf: cloddio nis gallaf, a chardotta sydd gywilyddus gennyf.
4 Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y'm bwrier allan o'r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i'w tai.
5 Ac wedi iddo alw atto bob un o ddyledwyr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnat ti o ddyled i'm harglwydd?
6 Ac efe a ddywedodd, Càn mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifena ddeg a deugain.
7 Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Càn mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen, ac ysgrifena bedwar ugain.
8 A'r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni.
9 Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o'r mammon anghyfiawn: fel, pan fo eisieu arnoch, y'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll.
10 Y neb sydd ffyddlawn yn y lleiaf, sydd ffyddlawn hefyd mewn llawer; a'r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.
11 Am hynny, oni buoch ffyddlawn yn y mammon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud?
12 Ac oni buoch ffyddlawn yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun?
13 Ni ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mammon.
14 A'r Phariseaid hefyd, y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a'i gwatwarasant ef.
15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi yw y rhai sydd yn eich cyfiawnhâu eich hunain ger bron dynion; eithr Duw a ŵyr eich calonnau chwi: canys y peth sydd uchel gyd â dynion, sydd ffiaidd ger bron Duw.
16 Y gyfraith a'r prophwydi oedd hyd Ioan: er y pryd hwnnw y pregethir teyrnas Dduw, a phob dyn sydd yn ymwthio iddi.
17 A haws yw i nef a daear fyned heibio, nag i un tippyn o'r gyfraith ballu.
18 Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a brïodo un arall, y mae efe yn godinebu; a phwy bynnag a briodo yr hon a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gwr, y mae efe yn godinebu.
19 ¶ Yr oedd rhyw wr goludog, ac a wisgid & phorphor a llian main, ac yr oedd yn cymmeryd byd da yn helaethwych beunydd:
20 Yr oedd hefyd ryw gardottyn, a'i enw Lazarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd,
21 Ac yn chwennychu cael ei borthi â'r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gwr cyfoethog; ond y cwn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef.
22 A bu, i'r cardottyn farw, a'i ddwyn gan yr angelion i fynwes Abraham. A'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd:
23 Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes.
24 Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O. dad Abraham, trugarhâ wrthyf, a danfon Lazarus, i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a'm poenir yn y fflam hon.
25 Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lazarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau.
26 Ac heb law hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhâwyd gagendor mawr: fel na allo y rhai a fynnent, dramwy oddi yma attoch chwi; na'r rhai oddi yna, dramwy attom ni.
27 Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn attolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon o honot ef i dy fy nhad;
28 Canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod o honynt hwythau hefyd i'r lle poenus hwn.
29 Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a'r prophwydi; gwrandawant arnynt hwy.
30 Yntau a ddywedodd, Nag ê, y tad Abraham: eithr os â un oddi wrth y meirw attynt, hwy a edifarhânt.
31 Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a'r prophwydi, ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw.
PENNOD XVII.
1 Crist yn dysgu gochelyd achosion rhwystr. 3 Am faddeu bawb i'w gilydd. 6 Gallu ffydd. 7 Pa fodd yr ydym ni yn rhwymedig i Dduw, ac nid efe ini. 11 Y mae yn iachau deg o wahangleifion. 20 Am deyrnas Dduw, a dyfodiad Mab y dyn.
Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Ni all na ddôl rhwystrau: ond gwae efe trwy yr hwn y deuant!
2 Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef; a'i daflu i'r môr, nag iddo rwystro un o'r rhai bychain hyn.
3 ¶ Edrychwch arnoch eich hunain. Os pecha dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef; ac os edifarhâ efe, maddeu iddo.
4 Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith yn y dydd droi attat, gan ddywedyd, Y mae yn edifar gennyf; maddeu iddo.
5 A'r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd ni.
6 A'r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai gennych ffydd gymmaint a gronyn o had mwstard, chwi a ellych ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhâi i chwi.
7 Eithr pwy o honoch chwi ag iddo was yn aredig, neu yn bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o'r maes, Dos ac eistedd i lawr i fwytta?
8 Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i swpperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwytta ac yfed; ac wedi hynny y bwyttêi ac yr yfi dithau?
9 Oes ganddo ddiolch i'r gwas hwnnw, am wneuthur o hono y pethau a orchymynasid iddo? Nid wyf yn tybied.
10 Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchymynwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.
11 ¶ Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerusalem, fyned o hono ef trwy ganol Samaria a Galilea.
12 A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu âg ef ddeg o wŷr gwahan-gleifion, y rhai a safasant o hirbell:
13 A hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu Feistr, trugarhá wrthym.
14 A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hun- ain i'r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a'u glanhawyd hwynt.
15 Ac un o honynt, pan welodd ddarfod ei iachâu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel.
16 Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd efe.
17 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, Oni lanhâwyd y deg? ond pa le y mae y naw?
18 Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn.
19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: dy ffydd a'th iachaodd.
20 ¶ A phan ofynodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl.
21 Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele accw: canys wele, teyrn- as Dduw, o'ch mewn chwi y mae.
22 Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwennychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch.
23 A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; neu, Wele accw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt.
24 Canys megis y mae y fellten a felltenna o'r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef.
25 Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a'i wrthod gan y genhedlaeth hon.
26 Ac megis y bu yn nyddiau Nöe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn.
27 Yr oeddynt yn bwytta, yn yfed, yn gwreicca, yn gŵra, hyd y dydd yr aeth Nöe i mewn i'r arch; a daeth, y diluw, ac a'u difethodd hwynt oll.
28 Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot: yr oeddynt yn bwytta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;
29 Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, y gwlawiodd tân a brwm- stan o'r nef, ac a'u difethodd hwynt oll:
30 Fel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.
31 Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a'i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgyned i'w cymmeryd hwynt; a'r hwn a fyddo yn y maes, yr un ffunud na ddychweled yn ei ol
32 Cofiwch wraig Lot.
33 Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a'i cyll; a phwy bynnag a'i cyll, a'i bywhâ hi.
34 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.
35 Dwy a fydd yn malu yn yr un lle; y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.
36 Dau a fyddant yn y maes; y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.
37 A hwy a attebasant ac a ddywedasant wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le bynnag y byddo y corph, yno yr ymgasgl yr eryrod.
PENNOD XVIII.
3 Am y weddw daer. 9 Am y Pharisead a'r publican. 15 Dwyn plant at Grist. 18 Y llywydd a fynnai ganlyn Crist, ond a rwystrir gan ei gyfoeth. 28 Gwobr y rhai a ymadawant dr cwbl oll er ei fwyn ef. 31 Y mae efe yn rhagfynegi ei farwolaeth; 35 ac yn rhoddi i ddyn dall ei olwg.
AC efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, fod yn rhaid gweddio yn wastad, ac heb ddiffygio;
2 Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn.
3 Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth atto ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr.
4 Ac efe nis gwnai dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn;
5 Etto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a'i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a'm syfrdanu i.
6 A'r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyflawn.
7 Ac oni ddïal Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt?
8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear?
9 Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill:
10 Dau wr a aeth i fynu i'r demli weddïo; un yn Pharisead, a'r llall yn bublican.
11 Y Pharisead o'i sefyll a weddiodd rhyngddo ag ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith.
12 Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymmu cymmaint oll ag a feddaf.
13 A'r publican, gan sefyll ohirbell, ni fynnai gymmaint a chodi ei olygon tu a'r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur.
14 Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i'w dy wedi ei gyfiawnhâu yn fwy na'r llall: canys pob un a'r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a'r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
15 ¶ A hwy a ddygasant atto blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r disgyblion pan welsant, a'u ceryddasant hwy.
16 Eithr yr Iesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Gadêwch i'r plant bychain ddyfod attaf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw.
17 Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.
18 ¶ A rhyw lywodraethwr a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Athraw da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddaf fi fywyd tragywyddol?
19 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y'm gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw.
20 Ti a wyddost y gorchymynion, Na odineba, Na ladd, Na ladratta, Na ddwg gam dystiolaeth, Anrhydedda dy dad a'th fam.
21 Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o'm hieuengetid.
22 A'r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth etto yn ol i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.
23 Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn.
24 A'r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!
25 Canys haws yw i gamel fyned trwy grai y nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.
26 A'r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig?
27 Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd ammhosibl gyd â dynion, sydd bosibl gyd â Duw.
28 A dywedodd Petr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di.
29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rïeni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,
30 A'r nis derbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol.
31 ¶ Ac efe a gymmerodd y deuddeg atto, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem; a chyflawnir pob peth a'r sydd yn ysgrifenedig trwy y prophwydi am Fab y dyn.
32 Canys efe a draddodir i'r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a ammherchir, ac a boerir arno:
33 Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.
34 A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.
35 ¶ A bu, ac efe yn nesâu at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardotta:
36 A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynodd pa beth oedd hyn.
37 A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nazareth oedd yn myned heibio.
38 Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
39 A'r rhai oedd yn myned o'r blaen a'i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
40 A'r Iesu a safodd, ac a orchymynodd ei ddwyn ef atto. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynodd iddo,
41 Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael o honof fy ngolwg.
42 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymmer dy olwg: dy ffydd a'th iachaodd.
43 Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A'r holl bobl, pan welsant, a roisant foliant i Dduw.
PENNOD XIX.
1 Am Zaccheus y publican. 11 Y deg darn o arian. 28 Crist yn marchogaeth i Jerusalem mewn gorfoledd: 41 yn wylo drosti: 45 yn gyrru y prynwyr a'r gwerthwyr allan o'r deml; 47 gan athrawiaethu beunydd ynddi. Y llywodraethwyr a fynnent ei ddifetha ef, oni bai rhag ofn y bobl.
A'R Iesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Jericho.
2 Ac wele wr a elwid wrth ei enw Zaccheus, ac efe oedd ben-publican, a hwn oedd gyfoethog.
3 Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorpholaeth.
4 Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i sycamor-wydden, fel y gallai ei weled ef: oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.
5 A phan ddaeth yr Iesu i'r lle, efe a edrychodd i fynu, ac a'i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Zaccheus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di.
6 Ac efe a ddisgynodd ar frys, ac a'i derbyniodd ef yn llawen.
7 A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned o hono ef i mewn i lettya at wr pechadurus.
8 A Zaccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i'r tlodion; ac os dygais ddim o'r eiddo neb trwy gam-achwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd.
9 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddyw y daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, o herwydd ei fod yntau yn fab i Abraham.
10 Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.
11 ¶ Ac a hwy yn gwrandaw ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddammeg, am ei fod efe yn agos i Jerusalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan.
12 Am hynny y dywedodd efe, Rhyw wr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo ei hun, ac i ddychwelyd.
13 Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnattêwch hyd oni ddelwyf.
14 Eithr ei ddinaswyr a'i casasant ef, ac a ddanfonasant gennadwri ar ei ol ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom.
15 A bu, pan ddaeth efe yn ei ol, wedi derbyn y deyrnas, erchi o hono ef alw y gweision hyn atto, i'r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnatta.
16 A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a ennillodd ddeg punt.
17 Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da am i ti fod yn ffyddlawn yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas.
18 A'r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt.
19 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bùm dinas.
20 Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napcyn:
21 Canys mi a'th ofnais, am dy fod yn wr tost: yr wyt ti yn cymmeryd i fynu y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist.
22 Yntau a ddywedodd wrtho, O'th enau dy hun y'th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn wr tost, yn cymmeryd i fynu y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais:
23 A phaham na roddaist fy arian i i'r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyd â llog?
24 Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i'r hwn sydd a deg punt ganddo;
25 (A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt;)
26 Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ïe, yr hyn sydd ganddo.
27 A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynnasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.
28 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fynu i Jerusalem.
29 Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethphage a Bethania, i'r mynydd a elwir Olew-wydd, efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
30 Gan ddywedyd, Ewch i'r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma.
31 Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fod yn rhaid i'r Arglwydd wrtho.
32 A'r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt.
33 Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchennogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol?
34 A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i'r Arglwydd wrtho ef.
35 A hwy a'i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno.
36 Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd.
37 Ac weithian, ac efe yn nesâu at ddisgynfa mynydd yr Olew-wydd, dechreuodd yr holl lïaws disgyblion lawenhâu, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent;
38 Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenhin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf.
39 A rhai o'r Phariseaid o'r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athraw, cerydda dy ddisgyblion.
40 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai y rhai hyn, y llefai y cerrig yn y fan.
41 Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti,
42 Gan ddywedyd, Pe gwybuasit dithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid.
43 Canys daw y dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant glawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchant, ac a'th warchaeant o bob parth,
44 Ac a'th wnant yn gyd-wastad â'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; o herwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.
45 Ac efe a aeth i mewn i'r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu;
46 Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ i, ty gweddi yw: eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
47 Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a phennaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef;
48 Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrandaw arno.
PENNOD XX.
1 Crist yn profi ei awdurdod, trwy ymofyn am fedydd Ioan. 9 Dammeg y winllan. 19 Am roddi teyrnged i Cesar. 27 Y mae efe yn gorchfygu y Saduceaid, y rhai a wadent yr adgyfodiad. 41 Y modd y mae Crist yn fab Dafydd. 45 Y mae efe yn rhybuddio ei ddisgyblion i ochelyd yr ysgrifenyddion.
A DIGWYDDODD ar un o'r dyddiau hynny, ac efe yn dysgu y bobl yn y deml, ac yn pregethu yr efengyl, ddyfod arno yr arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion, gyd â'r henuriaid,
2 A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw yr hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon?
3 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi:
4 Bedydd Ioan, ai o'r nef yr ydoedd, ai o ddynion?
5 Eithr hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef?
6 Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a'n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl-gredu fod Ioan yn brophwyd.
7 A hwy a attebasant, nas gwyddent o ba le.
8 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
9 ¶ Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddammeg hon wrth y bobl: Rhyw wr a blannodd winllan, ac a'i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser.
10 Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i hanfonasant ymaith yn wag-law.
11 Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a ammharchasant hwnnw hefyd, ac a'i hanfonasant ymaith yn wag-law.
12 Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a'i bwriasant ef allan.
13 Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy anwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef.
14 Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymmasant a'u gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn eiddom ni.
15 A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?
16 Efe a ddaw, ac a ddifetha y llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na atto Duw.
17 Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifenwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl?
18 Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef.
19 ¶ A'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylaw arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddammeg hon.
20 A hwy a'i gwyliasant ef, ac a yrrasant gynllwynwyr, y rhai a gymmerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i'w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw.
21 A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd.
22 Ai cyfreithlawn i ni roi teyrnged i Cesar, ai nid yw?
23 Ac efe a ddeallodd eu cyfrwysdra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi?
24 Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraph pwy sydd arni? A hwy a attebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cesar.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Cesar, a'r eiddo Duw i Dduw.
26 Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef ger bron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei atteb ef, hwy a dawsant â sôn.
27 ¶ A rhai o'r Saduceaid (y rhai sydd yn gwadu nad oes adgyfodiad,) a ddaethant atto ef, ac a ofynasant iddo,
28 Gan ddywedyd, Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni, Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw o hono yn ddiblant, ar gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi had i'w frawd.
29 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerodd wraig, ac a fu farw yn ddiblant.
30 A'r ail a gymmerth y wraig, ac a fu farw yn ddiblant.
31 A'r trydydd a'i cymmerth hi; ac yr un ffunud y saith hefyd: ac ni adawsant blant, ac a fuont feirw.
32 Ac yn ddiweddaf oll bu farw y wraig hefyd.
33 Yn yr adgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy un o honynt yw hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.
34 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrthynt, Plant y byd hwn sydd yn gwreicca, ac yn gŵra:
35 Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnnw, a'r adgyfodiad oddi wrth y meirw, nid ydynt nac yn gwreicca, nac yn gŵra:
36 Canys nis gallant farw mwy: oblegid cyd-stad ydynt a'r angelion; a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr adgyfodiad.
37 Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob.
38 Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.
39 Yna rhai o'r ysgrifenyddion gan atteb a ddywedasant, Athraw, da y dywedaist.
40 Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef.
41 ¶ Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod Crist yn fab i Dafydd?
42 Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Psalmau, Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,
43 Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i'th draed di.
44 Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?
45 Ac a'r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
46 Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad lleision, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif-gadeiriau yn y synagogau, a'r prif-eisteddleoedd yn y gwleddoedd;
47 Y rhai sydd yn llwyr-fwytta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir-weddio: y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.
PENNOD XXI.
1 Crist yn canmol y weddw dlawd: 5 yn rhagfynegi dinystr y deml a dinas Jerusalem: 25 a'r arwyddion a fydd o flaen y dydd diweddaf: 34 ac yn eu hannog hwy i fod yn wyliadurus. 37 Arfer Crist tra fu yn Jerusalem.
AC wedi iddo edrych i fynu, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r drysorfa.
2 Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.
3 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll:
4 Canys y rhai hyn oll o'r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymmau Duw: eithr hon o'i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.
5 ¶ Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml, ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd,
6 Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw y dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a'r nis dattodir.
7 A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo y pethau hyn ar ddyfod?
8 Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; a'r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hol hwynt.
9 A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymmerwch fraw: canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man.
10 Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:
11 A daear-grynfäau mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o'r nef.
12 Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylaw arnoch, ac a'ch erlidiant, gan eich traddodi i'r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn ger bron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i.
13 Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth.
14 Am hynny rhoddwch eich bryd ar na rag-fyfyrioch beth a atteboch: y deml a Jerusalem.
15 Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwyneb- wyr na dywedyd yn ei herbyn na'i gwrth-sefyll.
16 A chwi a fradychir, ie, gan rïeni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai o honoch y parant farwolaeth.
17 A chas fyddwch gan bawb o herwydd fy enw i.
18 Ond ni chyll blewyn o'ch pen chwi.
19 Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.
20 A phan weloch Jerusalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfannedd-dra hi wedi nesâu.
21 Yna y rhai fyddant yn Judea, ffoant i'r mynyddoedd; a'r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant; a'r rhai a fyddant yn y meusydd, nac elont i mewn iddi.
22 Canys dyddiau dial yw y rhai hyn, i gyflawni yr holl bethau a ysgrifenwyd.
23 Eithr gwae y rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn.
24 A hwy a syrthiant trwy fin y. cleddyf, a chaeth-gludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerusalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd.
25 ¶ A bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng-gynghor; a'r môr a'r tonnau yn rhuo;
26 A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
27 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmmwl, gyd â gallu a gogoniant mawr.
28 A phan ddechreuo y pethau hyn ddyfod, edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesâu.
29 Ac efe a ddywedodd ddammeġ iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a'r holl brennau;
30 Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch ac a wyddoch o honoch eich hun, fod yr haf yn agos.
31 Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.
32 Yn wir meddaf i chwi, Nid â yr oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.
33 Y nef a'r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
34 ¶ Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonnau un amser drymhâu trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth;
35 Canys efe a ddaw, fel magl, ar warthaf pawb oll a'r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear.
36 Gwyliwch gan hynny a gweddiwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddïange rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mab y dyn.
37 A'r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a'r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olew-wydd.
38 A'r holl bobl a fore-gyrchent atto ef yn y deml, i'w glywed ef.
PENNOD XXII.
1 Yr Iuddewon yn cyd-fwriadu yn erbyn Crist. 3 Satan yn parottoi Judas i'w fradychu ef. 7 Yr apostolion yn arlwyo y pasc. 19 Crist yn ordeinio ei swpper sanctaidd 21 yn guddiedig yn rhagddywedyd am y bradychwr: 24 yn annog y rhan arall o'i apostolion i ochelyd rhyfyg: 31 yn sicrhâu Petr na phallai ei ffydd ef: 34 ac er hynny y gwadai efe ef dair gwaith: 39 yn gweddio yn y mynydd; ac yn chwysu y gwaed: 47 yn cael ei fradychu â chusan: 50 yn iachâu clust Malchus: 54 yn cael ei wadu dair gwaith gan Petr, 63 a'i ammherchi yn gywilyddus; 66 ac yn cyfaddef ei fod yn Fab Duw.
A NESAODD gwyl y bara croyw, Α yr hon a elwir y pasc.
2 A'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.
3 ¶ A Satan a aeth i mewn i Judas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi y deuddeg.
4 Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â'r arch-offeiriaid a'r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt.
5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gyttunasant ar roddi arian iddo.
6 Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i'w fradychu ef iddynt yn absen y bobl.
7 ¶ A daeth dydd y bara croyw, ar hwn oedd rhaid lladd y pasc.
8 Ac efe a anfonodd Petr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, parottowch i ni y pasc, fel y bwyttaom.
9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni barottôi o honom?
10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i'r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i'r ty lle yr êl efe i mewn.
11 A dywedwch wrth wr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae y lletty, lle y gallwyf fwytta y pasc gyd a'm disgyblion?.
12 Ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr, wedi ei thaenu: yno parottowch.
13 A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a barottoisant y pasc.
14 A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a'r deuddeg apostol gyd âg ef.
15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwennychais yn fawr fwytta y pasc hwn gyd â chwi cyn dioddef o honof.
16 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwyttâf fi mwyach o hono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw.
17 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith:
18 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.
19 Ac wedi iddo gymmeryd bara, a rhoi diolch, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorph yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf.
20 Yr un modd y cwppan hefyd wedi swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw y testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.
21 ¶ Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyd â mi ar y bwrdd.
22 Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu eithr gwae y dyn hwnnw, trwy yr hwn y bradychir ef!
23 Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy o honynt oedd yr hwn a wnai hynny.
24 ¶ A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a dybygid ei fod yn fwyaf.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a'r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion.
26 Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a'r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini.
27 Canys pa un fwyaf, ai yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai yr hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu.
28 A chwychwi yw y rhai a arhosasoch gyd â mi yn fy mhrofedigaethau.
29 Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau;
30 Fel y bwyttaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
31 ¶ A'r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a'ch ceisiodd chwi, i'ch nithio fel gwenith:
32 Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y'th dröer, cadarnhâ dy frodyr.
33 Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyd â thi i garchar, aci angau.
34 Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Petr, Na chân y ceiliog heddyw, nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi.
35 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y'ch anfonais heb na phwrs, na Bradychu Crist. chôd, nac esgidiau, a fo arnoch eisieu dim? A hwy a ddywedasant, Na ddo ddim.
36 Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymmered; a'r un modd god: a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.
37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid etto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifenwyd; sef, A chyd a'r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i'r pethau am danaf fi.
38 A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39 ¶ Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ol ei arfer, i fynydd yr Olew-wydd; a'i ddisgyblion hefyd a'i canlynasant ef.
40 A phan ddaeth efe i'r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth.
41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tu ag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd,
42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwppan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.
43 Ac angel o'r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef.
44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddiodd yn ddyfalach: a'i chwys ef oedd fel defnynau gwaed yn disgyn ar y ddaear.
45 A phan gododd efe o'i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a'u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch;
46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth.
47 ¶ Ac efe etto yn llefaru, wele dyrfa; a'r hwn a elwir Judas, un o'r deuddeg, oedd yn myned o'u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i'w gusanu ef.
48 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Judas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn?
49 A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a darâwn ni â chleddyf?
50 ¶ A rhyw un o honynt a darawodd was yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddehau ef.
51 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â'i glust, ac a'i hiachaodd ef.
52 A'r Iesu a ddywedodd wrth arch-offeiriaid, a blaenoriaid y deml, a'r henuriaid, y rhai a ddaethent atto, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn?
53 Pan oeddwn beunydd gyd â chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylaw i'm herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu y tywyllwch.
54 ¶ A hwy a'i daliasant ef, ac a'i harweiniasant, ac a'i dygasant i mewn i dŷ yr arch-offeiriad. A Phetr a ganlynodd o hirbell.
55 Ac wedi iddynt gynneu tân y'nghanol y neuadd, a chyd-eistedd o honynt, eisteddodd Petr yntau yn eu plith hwynt.
56 A phan ganfu rhyw langces ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gyd âg ef.
57 Yntau a'i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef.
58 Ac ychydig wedi, un arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un o honynt. A Phetr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf. .
59 Ac ar ol megis yspaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gyd âg ef: canys Galilead yw.
60 A Phetr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe etto yn Ilefaru, canodd y ceiliog.
61 A'r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Petr. A Phetr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith.
62 A Phetr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.
63 A'r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a'i gwatwarasant ef, gan ei daro.
64 Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a'i tarawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Prophwyda, pwy yw yr hwn a'th darawodd di?
65 A llawer o bethau eraill, gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.
66 A phan aeth hi yn ddydd, ymgynhullodd henuriaid y bobl, a'r arch-offeiriaid, a'r ysgrifenyddion, ac a'i dygasant efi'w cynghor hwynt,
67 Gan ddywedyd, Ai ti yw Crist? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim:
68 Ac os gofynaf hefyd i chwi, ni'm hattebwch, ac ni'm gollyngwch ymaith.
69 År ol hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw.
70 A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod.
71 Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o'i enau ef ei hun.
PENNOD XXIII.
1 Cyhuddo yr Iesu ger bron Pilat, a'i anfon at Herod; 8 a Herod yn ei watwar ef. 12 Herod a Philat yn cymmodi d'u gilydd. 13 Y bobl yn deisyf cael Barabbas; a Philat yn ei ollwng ef iddynt, ac yn rhoddi yr Iesu i'w groeshoelio. 27 Yntau yn mynegi i'r gwragedd, a alarent o'i blegid ef, ddinystr Jerusalem: 34 yn gweddio dros ei elynion. 39 Crogi dau ddrwg-weithredwyr gyd ag ef. 46 Ei farwolaeth, 50 a'i gladdedigaeth ef.
A'R holl laws o honynt a gyfodasant, ac a'i dygasant ef at Pilat:
2 Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gwyrdroi y bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Cesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenhin.
3 A Philat a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti ᎩᎳ Brenhin yr Iuddewon? Ac efe a attebodd iddo, ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd.
4 A dywedodd Pilat wrth yr archoffeiriaid a'r bobl, Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn.
5 A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffrôi y bobl, gan ddysgu trwy holl Judea, wedi dechreu o Galilea hyd yma.
6 A phan glybu Pilat sôn am Galilea, efe a ofynodd ai Galilead oedd y dyn.
7 A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a'i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerusalem y dyddiau hynny.
8 ¶ A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer am dano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef.
9 Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid attebodd ddim iddo.
10 A'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug.
11 A Herod a'i filwyr, wedi iddo ei ddïystyru ef, a'i watwar, a'i wisgo â gwisg glaerwen, a'i danfonodd ef drachefn at Pilat.
12 ¶ A'r dwthwn hwnnw yr aeth Pilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'u gilydd.
13 ¶ A Philat, wedi galw ynghyd yr arch-offeiriaid, a'r llywiawdwyr, a'r bobl,
14 A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn attaf fi, fel un a fyddai yn gŵyrdroi y bobl: ac wele, myfi a'i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef am danynt:
15 Na Herod chwaith: canys anfonais chwi atto ef; ac wele, dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed iddo.
16 Am hynny mi a'i cer- yddaf ef, ac a'i gollyngaf ymaith.
17 Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr wyl.
18 A'r holl laws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd:
19 (Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.)
20 Am hynny Pilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio-gollwng yr Iesu yn rhydd.
21 Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef.
22 Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd.
23 Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A'u llefau hwynt a'r archoffeiriaid a orfuant.
24 A Philat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt.
25 Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid y'ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i'w hewyllys hwynt.
26 Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o'r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ol yr Iesu.
27 ¶ Ac yr oedd yn ei ganlyn ef laws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o'i blegid ef.
28 A'r Iesu, wedi troi attynt, a ddywedodd, Merched Jerusalem, na wylwch o'm plegid i: eithr wylwch o'ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant.
29 Canys wele, y mae y dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai ammhlantadwy, a'r crothau ni eppiliasant, a'r bronnau ni roisant sugn.
30 Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.
31 Canys os gwnant hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin?
32 Ac arweiniwyd gyd âg ef hefyd ddau eraill, drwg-weithredwyr, i'w rhoi i'w marwolaeth.
33 A phan ddaethant i'r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a'r drwg-weithredwyr; un ar y llaw ddehau, a'r llall ar yr aswy.
34 ¶ A'r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddeu iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a rannasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren.
35 A'r bobl a safodd yn edrych. A'r pennaethiaid hefyd gyd â hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw.
36 A'r milwyr hefyd a'i gwatwarasant ef, gan ddyfod atto, a chynnyg iddo finegr,
37 A dywedyd, Os tydi yw Brenhin yr Iuddewon, gwared dy hun.
38 Ac yr ydoedd hefyd ar-ysgrifen wedi ei ysgrifenu uwch ei ben ef, â llythyrenau Groeg, a Lladin, ac Hebraeg, HWN YW BRENHIN YR IUDDEWON.
39 ¶ Ac un o'r drwg-weithredwyr a grogasid a'i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau.
40 Eithr y llall a attebodd, ac a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth?
41 A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai y pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o'i le.
42 Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i'th deyrnas.
43 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddyw y byddi gyd â mi ym mharadwys.
44 Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.
45 A'r haul a dywyllwyd, a llèn y deml a rwygwyd yn ei chanol.
46 ¶ A'r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, O Dad, i'th ddwylaw di y gorchymynaf fy yspryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd.
47 A'r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn wr cyfiawn.
48 A'r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau.
49 A'i holl gydnabod ef a safasant a hirbell, a'r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
50 ¶ Ac wele, gwr a'i enw Joseph, yr hwn oedd gynghorwr, gwr da a chyfiawn:
51 (Hwn ni chyttunasai â'u cynghor ac â'u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iuddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw ;
52 Hwn a ddaeth at Pilat, ac a ofynodd gorph yr Iesu.
53 Ac efe a'i tynnodd i lawr, ac a'i hamdodd mewn llian main, ac a'i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed.
54 A'r dydd hwnnw oedd ddarparwyl, a'r Sabbath oedd yn nesâu.
55 A'r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gyd âg ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorph ef.
56 A hwy a ddychwelasant, ac a barottoisant bêr-aroglau ac ennaint; ac a orphwysasant ar y Sabbath, yn ol y gorchymyn.
PENNOD XXIV.
{{bach|1 Dau angel yn mynegi adgyfodiad Crist ir gwragedd oedd yn dyfod at y bedd; 9 a'r rhai hynny yn ei adrodd i eraill. 13 Crist ei hun yn ymddangos i'r ddau ddisgybl oedd yn myned i Emmäus: 36 ac wedi hynny i'r apostolion; ac yn ceryddu eu hanghrediniaeth hwy: 47 yn rhoddi gorchymyn iddynt: 49 ac yn addaw yr Yspryd Glân: 51 ac felly yn esgyn i'r nefoedd.
A'R dydd cyntaf o'r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y pêraroglau a barottoisent, a rhai gyd â hwynt.
2 A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd.
3 Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorph yr Arglwydd Iesu.
4 A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau wr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglaer.
5 Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tu a'r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw ym mysg y meirw?
6 Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd. wrthych, ac efe etto yn Galilea "
7 Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylaw dynion pechadurus, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd adgyfodi.
8 A hwy a gofrasant ei eiriau ef;
9 Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i'r un ar ddeg, ac i'r lleill oll.
10 A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a'r lleill gyd â hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion.
11 A'u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt.
12 Eithr Petr a gododd i fynu, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymmu, efe a ganfu y llïeiniau wedi eu gosod o'r neilldu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ag ef ei hun am y peth a ddarfuasai.
13 ¶ Ac wele, dau o honynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a'i henw Emmaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystâd oddi wrth Jerusalem.
14 Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'u gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent.
15 A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn a'u gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyd â hwynt.
16 Eithr eu llygaid hwynt a attaliwyd, fel nas adwaenent ef.
17 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at eu gilydd, dan rodio, ac yn wyneb-drist?
18 Ac un o honynt, a'i enw Cleopas, gan atteb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerusalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn?
19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nazareth, yr hwn oedd wr o brophwyd, galluog mewn gweithred a gair ger bron Duw a'r holl bobl ;
20 A'r modd y traddododd yr archoffeiriaid a'n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a'i croeshoeliasant ef.
21 Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai yr Israel. Ac heb law hyn oll, heddyw yw y trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn.
22 A hefyd rhai gwragedd o honom mi a'n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd:
23 A phan na chawsant ei gorph ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled o honynt weledigaeth o angelion, y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw.
24 A rhai o'r rhai oedd gyd â nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasai y gwragedd: ond ef nis gwelsant.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu yr holl bethau a ddywedodd y prophwydi!
26 Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i'w ogoniant?
27 A chan ddechreu ar Moses, a'r holl brophwydi, efe a esponiodd iddynt yn yr holl ysgrythyrau y pethau am dano ei hun.
28 Ac yr oeddynt yn nesâu i'r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymmerth arno ei fod yn myned ym mhellach.
29 A hwy a'i cymhellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyd â ni; canys y mae hi yn hwyrhâu, a'r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyd â hwynt.
30 A darfu, ac efe yn eistedd gyd â hwynt, efe a gymmerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt.
31 A'u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a'i hadnabuant ef: ac efe a ddiflannodd allan o'u golwg hwynt.
32 A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra yr ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra yr ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythyrau ?
33 A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Jerusalem, ac a gawsant yr unarddeg wedi ymgasglu ynghyd, a'r sawl oedd gyd â hwynt,
34 Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosodd i Simon.
35 A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethesid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth dorriad y bara.
36 ¶ Ac a hwy yn dywedyd y peth- au hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
37 Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled o honynt yspryd.
38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pahamy'ch trallodir? a paham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau?
39 Edrychwch fynwylaw a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan yspryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi.
40 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a'i draed.
41 Ac a hwy etto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddim bwyd?
42 A hwy a roisant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.
43 Yntau a'i cymmerodd, ac a'i bwyttaodd yn eu gwydd hwynt.
44 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma y geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn etto gyd â chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifenwyd y'nghyfraith Moses, a'r prophwydi, a'r psalmau, am danaf fi.
45 Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythyrau.
46 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifenwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:
47 A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ym mhlith yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem.
48 Ac yr ydych chwi yn dystion o'r pethau hyn.
49 ¶ Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerusalem, hyd oni wisger chwi â nerth o'r uchelder.
50 ¶ Ac efe a'u dug hwynt allan hyd yn Bethania; ac a gododd ei ddwylaw, ac a'u bendithiodd hwynt.
51 Ac fe a ddarfu, tra yr oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael o hono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fynu i'r nef.
52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gyd â llawenydd mawr:
53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio, Duw.Amen.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.