Yr Haf a Cherddi Eraill/Araith Seithenyn
Gwedd
| ← Cantre'r Gwaelod | Yr Haf a Cherddi Eraill gan Robert Williams Parry |
Diddanwch → |
XVIII. ARAITH SEITHENYN.
RHUED eigion aflonydd heb lescàu,
Ac ar y dorau cured y Werydd;
Ca forfur a'i cyferfydd heb wyro;
Na syfl er curo : nid sofl yw'r ceyrydd.
Y gadwyn dal gydia'n dỳn
A diarbed i'w erbyn.
A'i main teg yma o'n tu,
Ba raid awr o bryderu?
Nid ofnaf er gwaethaf gwynt,
Er llanw a gorllewin-wynt,
Ond uwch hyrddwynt y chwarddaf,
Uwch y llanw erch llawnhâf.
Parod y muriau, poered y moroedd
Eu trochion ofer i entrych nefoedd;
Digryn a difraw, uwch utgorn dyfroedd,
Y trawstiau disigl trwy ystod oesoedd;
Ac er anterth corwyntoedd hwy fyddan'
Arhosol darian yr isel-diroedd.