Yr Haf a Cherddi Eraill/Cantre'r Gwaelod
| ← Gaeaf (Yr Hen Weinidog) | Yr Haf a Cherddi Eraill gan Robert Williams Parry |
Araith Seithenyn → |
XVII. CANTRE'R GWAELOD. 1
OBRY blodeuai Ebrill,
Ymwelai Mai a'i lu mill;
A dawns y don sidanaidd
A'r hallt fôr, lle tyfai haidd.
Lle bu trydar a chware,
Dwr a nawf rhwng dae'r a ne'.
Tegwch Natur, fflur a phlant,
Morynion,—yma'r hunant—
Blodau haf heb oleu dydd
O dan oer don y Werydd.
Pob ieuanc ar ddifancoll,
A hithau'r gân aeth ar goll.
Pau segur is pwys eigion,
Distaw dud is tô y don.
Uwch ei phen mae llen y lli,
A'i ddwr gwyrdd ar ei gerddi.
Ei hamdo mwy ydyw môr,
A'i ddylif fydd ei helor.
XVII. CANTRE'R GWAELOD. 2.
CAER sy deg gorîs y don
I frwyn a môr-forynion;
Yma rhwng ei muriau hi
Nofiant yn eu cynefin.
Main hudol a phob golud
Sy o fewn y ddinas fud;
Tlysau a pherlau a physg,
Gwymon a gemau'n gymysg;
Dinas dawel môr heli,
Hafan y dwfn ydyw hi.
Sain ei mynych glych a glyw
Sobreiddiol osber heddyw
O'r ddinas gain,—sain y sydd
Soniarus yn y Werydd.