Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Cysur Henaint

Oddi ar Wicidestun
Dwy Gymraes Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Y Gylfinhir

II. CYSUR HENAINT.

MAE mewn ieuenctid dristwch, ac mewn oed
Ddiddanwch, fel ar haul yr haf y trig
Y bore-ddydd yn dywyll yn y coed,
A'r nawnddydd fel y nos o dan y brig;
Nes dyfod mis o'r misoedd pan fo'r gwynt
Yn cychwyn crinddail ar eu hediad oer,
A thrwy'r di-nefoedd dywyll-leoedd gynt
Yn chwythu llewych haul a llewych lloer.
Ninnau, pan syrth ein grawnwin, a phan dynn
Dydd ein diddychwel haf hyd eitha 'i rawd,
Ni wyddom beth a fyddwn, onid hyn:—
Mor druan nid yw Henaint nac mor dlawd
Nad erys yn ei gostrel beth o'r gwin
I hybu'r galon rhwng yr esgyrn crin.


Nodiadau

[golygu]