Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Dwy Gymraes

Oddi ar Wicidestun
← Y Cynnwys Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Cysur Henaint →

I. DWY GYMRAES.

ANWYLYD, nid oes hafal
Yr afal ar dy rudd
Ond hwnnw'n wir a dyfodd,
Addfedodd yn ei ddydd,
Dan lawen heulwen llygad mad
Gynt yn nhangnefedd tŷ fy nhad.

Mae'r pren yn friglwyd heddyw,
A lledfyw yw ei ddail;
Didostur ydyw'r gaea'
A'i sigla hyd ei sail;
Ond i'r awenydd ar ei hynt
Mae 'i degwch fel ei degwch gynt.


Nodiadau

[golygu]