Yr Haf a Cherddi Eraill/Edward Ffoulkes
Gwedd
| ← Dinas Noddfa | Yr Haf a Cherddi Eraill gan Robert Williams Parry |
Gwragedd → |
XXVII. EDWARD FFOULKES.
FE garodd bob rhyw geinder is y rhôd
Mewn natur, mewn celfyddyd, ac mewn dysg;
'Roedd hefyd ar ei bryd a'i osgedd nôd
Y dynion nid adweinir yn ein mysg;
Y rhai, mewn cnawd fel ninnau, ar wahân
Freuddwydiant eu breuddwydion, ac fel ni,
O'n defnydd, fflachiant eu llusemau tân
Drwy'r cysgod sydd yn fwy na'th sylwedd di.
Yntau mewn llawer myfyr wrtho ei hun,—
A'r deall sydd o'r galon yn ei wedd,—
Gerddodd anghysbell ffyrdd, can's i'r fath un
'Roedd rhodio'n orffwys, a myfyrio'n hedd;
Nes myned i'w ddieithraf, olaf daith,
Heb nerth nac ysbryd i ddychwelyd chwaith.