Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Gadael Tir

Oddi ar Wicidestun
Gwyliadwriaeth y Nos Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Yr Aflonyddwr

XXXVII. GADAEL TIR. 1

Fel un a wrendy dristwch yn yr hesg
Rhwng chwerthin ei gariadferch dan y lloer,
Myfyriaf fyfyrdodau henaint llesg
Cyn dyfod dyddiau blin ei hydref oer.
Heb bylni llygad, ac heb gryndod llaw
Na difi'rwyth barlys, na chaethiwed gwynt,
Ni welaf mwyach yn y pellter draw
Fynyddoedd fy mlynyddoedd megis gynt
Y'u gwelais yn eu harddwch ar yr wybr.
Clafychu mae fy nydd am ddydd a fu,
Can's lle bu llais y durtur uwch fy llwybr
Cyffrous yw llef y cigfrain ar bob tu.
Ai terfysg hafddydd yw, ai storm yr hwyr,
Tragywydd ai tros amser, Duw a ŵyr.


XXXVII. GADAEL TIR. 2.

Pan ddelo'r dydd im roddi cyfrif fry
O'm goruchwyliaeth ar y ddaear lawr,
A dyfod hyd y fan lle clywir rhu
Y môr ar benrhyn tragwyddoldeb mawr;
A llwyr gyffesu llawer llwybyr cam
Mewn mynych grwydro ffol a wybu'm traed,
A phledio'r dydd y'm gwnaed o lwch a fflam,
O gnawd a natur, ac o gig a gwaed;
Odid na ddyry'r Gŵr a garai'r ffridd
Ac erwau'r unigeddau wedi nos,
I un na wybu gariad ond at bridd,
Ryw uffem lonydd, leddf, ar ryw bell rôs,
Lle chwyth atgofus dangnefeddus wynt
Hen gerddi gwesty'r ddaear garodd gynt.


Nodiadau

[golygu]