Yr Haf a Cherddi Eraill/Gaeaf (Yr Hen Weinidog)
Gwedd
| ← Hâf (Y Glöwr) | Yr Haf a Cherddi Eraill gan Robert Williams Parry |
Cantre'r Gwaelod → |
XVI. GAEAF.
(Yr Hen Weinidog).
TI wyddost fel mae'r llanciau
Mewn hiraeth am un iau;
Ti wyddost am ystranciau
Hynafgwyr, un neu ddau;
A gwyddost ti mor drist, mor drist,
Yw diwedd oes dan groes dy Grist.
Rhag dirmyg amlwg llanciau
Mewn hiraeth am un iau,
Rhag blin dristâd ystranciau
Hynafgwyr, un neu ddau,
Rhodded ei Feistr, o'i fawr râs,
Ei dirion nodded i'r hen wâs.