Yr Haf a Cherddi Eraill/Glan y Gors
Gwedd
| ← Yr Iberiad | Yr Haf a Cherddi Eraill gan Robert Williams Parry |
Haf Gwlyb → |
XXIV. GLAN Y GORS.
(I gyfaill ar fudo o'r mynydd i'r pentref).
Dyfod mae Calan Gaeaf,
A gado'r wyt, gyda'r haf,
Ddiddanwch ffriddoedd unig
Sy'n aros dros yr hen drig.
Gado'r nant a'r gornant gu,
A dyfod i aeafu
O fynwes hedd i fân sôn
Pentrefwyr pant yr afon.
Ffarwel, ddigyffro aelwyd!
Ffarwel fynydd llonydd llwyd,
Lle trig tragwyddol olud
Harddwch môr, a heddwch mud
Y ddistaw lethr, ddi-ystyr
O ganrif i ganrif gwŷr,
Heb na chae na chynhaeaf,
Heb addfwyn wanwyn na haf,
Ond mawredd di-dymhorau
A'i wyneb pryd yn parhau.