Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Gwragedd

Oddi ar Wicidestun
Edward Ffoulkes Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Geneth Fach

XXVIII. GWRAGEDD. 1.

BU'N llednais hyd benllwydni, bu'n weddus,
Bu'n addurn cwrteisi :
Bu'n annwyl hyd benwynni,
Bu'n dlos tra bu'i hanadl hi.

Ac eurwallt ei hawddgarwch ymrannai
Mewn morwynol degwch;
Henaint roes yr haenau trwch
Dan arian ei dynerwch.

Ac o dan y cudynnau dau lygad
Fel dilwgwr emau :
Glas y nefoedd oedd i'r ddau,
A hawddgar oedd ei gruddiau.

Oriau ei dyddiau diddig a dreuliodd
Hyd yr olaf orig
Yn feunyddiol fonheddig
A mwyn ei threm yn ei thrig.

Dithau'r dieithr, o deui i gyrraedd
Y garreg sydd ami,
Os wyt ŵr didosturi
Bydd fwyn wrth ei beddfaen hi.


{

XXVIII. GWRAGEDD. 2.

HI feddai reddf i leddfu poen a chur;
Pwy na cheid i'w charu?
I'r dall hi wnaeth ei gallu,
I'r byddar byddar ni bu.

I lwm a gwael, ymgeledd fu drwy 'i hoes,
Fedrusaf o wragedd!
I'w awr ddi-hwyl rhoddai hedd
Cymwynas ac amynedd.

3


I dlawd rhoes barch dyladwy, i'r isel
Hi roes ei chynhorthwy :
Prydferth ei cham yn tramwy;
Prydferth ddiymadferth mwy.

Mewn serch pur, mewn tosturi, ac mewn cof
Cwmni cu am dani;
Mewn hiraeth nas myn oeri,
Didranc ac ieuanc yw hi.

4


I'r. addfwyn rhowch orweddfa mewn oer Fawrth
Mewn rhyferthwy gaea';
Rhowch wedd wen dan orchudd iâ;
Rhowch dynerwch dan eira.


Nodiadau

[golygu]