Neidio i'r cynnwys

Yr Haf a Cherddi Eraill/Gwyliadwriaeth y Nos

Oddi ar Wicidestun
Plygain Yr Haf a Cherddi Eraill

gan Robert Williams Parry

Gadael Tir

XXXVI. GWYLIADWRIAETH Y NOS.

Distawodd lleisiau'r gwersyll. Drwy'r nos oer
Y biwglwr olaf ar y bryn gerllaw
Chwythodd bob goleu i maes ond goleu'r lloer
A thrydan tanbaid cwrt y carchar draw,
(Lle cwsg rhai estron yn eu celloedd clyd
Ar ol anhunedd hir nosweithiau'r ffos).
Ac o'r disgleirdeb, yn eu hunion bryd,
Lleisiau y gwyliedyddion ar y nos
Alwant adegau'r oriau, un ac un,
O chwarter blin i chwarter. Yr awr hon
Mae'r lluoedd llonydd fel y meirw eu hun,
Oddieithr lle clywir, fel diorffwys dôn,
Anesmwyth drwst cadwyni, lle mae'r meirch
Yn disgwyl am y dydd a'r bore geirch.


Nodiadau

[golygu]