Yr Haf a Cherddi Eraill/Hâf (Y Glöwr)
Gwedd
| ← Gwanwyn (Cân y Cigydd) | Yr Haf a Cherddi Eraill gan Robert Williams Parry |
Gaeaf (Yr Hen Weinidog) → |
XV HÂF.
(Y Glöwr).
MAE'R glân arglwyddi'n gyrru
Mewn dwfn gerbydau hardd,
A'u harglwyddseau'n tyrru
O'r dref i goed yr ardd;
Paham na cheni dithau'n iach,
Ar hindda fwyn, i'r Rhondda Fach?
Mae ynys yn y Barri,
Ac awel ym Mhorthcawl,
A siwrnai yn y siarri
I rai a fedd yr hawl;
Paham y treuli ddyddiau îr
A nosau hâf yn Ynyshir?