Yr Haf a Cherddi Eraill/Mab ei Dad
Gwedd
| ← Dysgedigion | Yr Haf a Cherddi Eraill gan Robert Williams Parry |
Milwr o Feirion → |
XLVIII MAB EI DAD.
Y llynedd gyda'r llanw y tynnodd
Dros y tonnau garw;
Dros ei wlad y rhoes ei lw,
Dros fôr fe droes i farw.
'Leni haedda lonyddwch ei fwyn hûn;
Fan honno mewn heddwch
Ar wely'r llawr treulia'r llwch
Nadolig ei dawelwch.
Dydd Nadolig, 1917.